Menu
TwT 360 See Through

Addysgu y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn eich ysgol

Cannoedd o weithgareddau i weithredu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cymru yn eich ysgol gynradd.

200+ o weithgareddau, cyfarwyddiadau, canllawiau fideo a mwy.

colour-capture

Rydyn ni’n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddio technoleg yn eich ystafell ddosbarth.

Mae TwT 360 wedi cael ei greu gan athrawon, ar gyfer athrawon. Ein nod ydy gweld bod pob athro/athrawes ym mhob ysgol yng Nghymru’n teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio technoleg yn eu gwersi ac rydyn ni wedi creu’r gweithgareddau, a'r canllawiau yn TwT 360 i gyflawni hynny. Os ydych yn hyderus mewn technoleg neu yn ochelgar ohono, fe fydd TwT 360 yn sicrhau nad ydych chi na’ch ysgol fyth yn brin o ddulliau effeithiol a syml o’i gynnwys yn eich gwersi.

Beth yw TwT 360?

Ers lansio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a gyda’r cwricwlwm newydd ar y gorwel, mae sgiliau digidol wedi dod yn flaenoriaeth i’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yng Nghymru. O ystyried yr holl bwysau amser ar athrawon, mae nifer yn ei chael yn anodd neilltuo amser i weithredu’r holl elfennau a’r sgiliau angenrheidiol.

Mae TwT 360 yma i helpu! Mae ein hathrawon wedi creu cannoedd o weithgareddau, pob un yn dilyn briff syml:

  • Wedi’u creu’n benodol i gyflawni elfennau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
  • Wedi’u hysgrifennu mewn iaith syml, hawdd ei dilyn.
  • Mae modd eu haddasu i unrhyw thema neu bwnc.

Safle Sgiliau

200+ o weithgareddau trawsgwricwlaidd, pob un wedi eu hysgrifennu gan athrawon i'ch helpu chi i addysgu holl elfennau'r FFCD o'r Meithrin i Flwyddyn 6.

Canllawiau Cam wrth Gam

Cyfuniad o gyfarwyddiadau manwl a fideos esboniad i sicrhau fod ein gweithgareddau yn syml i'w dilyn, hyd yn oed i athrawon llai hyderus yn y pwnc.

Gweithgareddau Tymhorol

Gweithgareddau newydd trwy gydol y flwyddyn, yn seiliedig ar themau sy'n cyd-fynd â gwyliau, digwyddiadau a dyddiau pwysig i ni yng Nghymru.

Diweddaru yn Rheolaidd

Rydym yn diweddaru ac yn ychwanegu gweithgareddau newydd yn rheolaidd i sicrhau fod TwT 360 yn parhau i fod yn gyflawn ac yn gyfredol.

Mae TwT 360 wedi bod o fudd mawr iawn i ni fel ysgol wrth i ni gychwyn ar y gwaith o fapio'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn draws-gwricwlaidd i gyd-fynd â'n themâu. Mae'n adnodd  hawdd i'w ddefnyddio (does dim angen sgiliau TGCh arbennig o dda arnoch!) ac mae'n cynnig llu o syniadau ymarferol y gall athrawon eu defnyddio i gyflwyno a datblygu sgiliau dysgwyr sy'n addas ar gyfer oes digidol yr unfed ganrif ar hugain. 

I'r athrawon hynny sydd â llai hyder wrth gyflwyno rhai o'r sgiliau sy'n cael eu cyflwyno yn y Fframwaith, mae'r cyfarwyddiadau yn glir ac mae'r tasgau'n cael eu hegluro mewn ffordd sy'n eich harfogi i allu eu cyflwyno'n effeithiol ac mewn ffordd diddorol i'r disgyblion. Mae'r syniad o gyflwyno adnoddau newydd i gyd-fynd â digwyddiadau nodedig yn ffordd effeithiol o gadw'r ddarpariaeth yn gyfoes ac yn gyfredol.

Iolo Williams

Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd

Safle Sgiliau

200+ o Weithgareddau

Mae gan ein Safle Sgiliau dros 200 o weithgareddau i'ch helpu chi gyflwyno sgiliau'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol o'r Meithrin i Flwyddyn 6.

Cysylltiadau Fframwaith

Mae casgliad o weithgareddau ar gyfer pob elfen o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol i sicrhau eich bod yn cwmpasu pob manylyn.

Cam Wrth Gam

Mae pob un o'n gweithgareddau yn cael eu disgrifio mewn manylder, gydag esboniadau, lluniau, cyfarwyddiadau cam wrth gam a meini prawf llwyddiant.

Canllawiau Fideo

Mae gennym ganllawiau fideo clir a hawdd eu dilyn ar gyfer y gweithgareddau mwy cymhleth (yn enwedig taenlenni a codio!)

Esiamplau

Cymraeg Clir

Mae pob gair o TwT 360 wedi ei ysgrifennu gan athrawon, felly gallwch fod yn sicr bod ein gweithgareddau yn addas i'r dosbarth ac wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg clir a hawdd ei ddeall.

Defnydd Llawn

Gydag un tanysgrifiad ysgol, gall eich staff cyfan gael defnydd o'n hoff adnoddau, gan gynnwys pob diweddariad.

Optimeiddio

Mae ein cynnwys wedi ei optimeiddio i weithio ar gyfrifiaduron, llechi neu ffonau symudol.

HMS

Mae tanysgrifwyr TwT 360 yn derbyn gostyngiad ar unrhyw hyfforddiant digidol.

DeathtoStock_Wired2

Rydyn ni’n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddio technoleg yn eich ystafell ddosbarth.

Mae pob gair yn TwT 360 wedi’i ysgrifennu gan athrawon mewn ysgolion cynradd yng Nghymru sydd â’r profiad o hyfforddi athrawon i ddefnyddio technoleg yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r gweithgareddau a’r canllawiau yn TwT 360 wedi cael eu creu yn benodol i gyflwyno ac atgyfnerthu sgiliau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Gweithgareddau Tymhorol

Calan Gaeaf, Nadolig, Rygbi, Dydd Gŵyl Dewi Sant, Pasg, Cwpan y Byd – Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithgareddau ar gyfer digwyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn. Fel gyda’n Safle Sgiliau, mae ein holl Weithgareddau Tymhorol wedi’u hysgrifennu gan roi ystyriaeth i elfennau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac mae cyfarwyddiadau clir ynddyn nhw i’ch helpu i’w cyflwyno i’ch disgyblion.