Menu

Croeso

Manylion Mewngofnodi

Cadwch eich manylion mewngofnodi yn ddiogel, a pasiwch y ddolen sydd wedi cael ei ebostio i chi ymlaen i'ch staff i'w galluogi nhw i greu cyfrifon hefyd. Os ydych yn colli’r manylion, defnyddiwch y ddolen ‘Forgot Password’ ar y dudalen mewngofnodi neu e-bostiwch ni.

Anfoneb

Oherwydd y cyfnod anodd mae pob ysgol yn delio gydag oherwydd Covid-19, mae holl adnoddau TwT 360 am ddim hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd. Ni fydd angen talu, ni fydd anfoneb.

Medi 1af

Mae eich tanysgrifiad yn ddilys hyd Fedi 1af. Pan fydd yn dod i ben fe wnawn gysylltu gyda chi i weld os yr hoffech barhau i ddefnyddio TwT 360 gyda thanysgrifiad taledig. Ni fydd eich cyfrif yn cael ei droi yn un taledig yn awtomatig.

[/mbr_is_for]Nawr, gadewch inni roi arweiniad byr i chi i’r gwahanol offer oddi mewn i TwT 360

(Os ydych eisiau gweld y dudalen yma eto, fe fydd ar y fwydlen frig o dan ‘Amdanom’)

Safle Sgiliau

Asgwrn cefn TwT 360 ydy’r Safle Sgiliau, sydd â dros 100 tudalen o weithgareddau ar hyn o bryd, pob un yn gysylltiedig gyda gwahanol elfennau o Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cymru.

200+ o Weithgareddau

Mae gan y Safle Sgiliau dros 200 o weithgareddau i helpu i weithredu Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cymru o’r Meithrin i Flwyddyn 6.

Cysylltiadau Fframwaith

Mae gan pob elfen sengl o’r Fframwaith Cymhewysedd Digidol ei weithgareddau ei hun.

Meini Prawf Llwyddiant

Mae gan pob gweithgaredd ei set ei hun o feini prawf llwyddiant, yn ogystal â geirfa ddefnyddiol a rhai dewisiadau amrywiad.

Pob Platfform

Fe fydd y rhan fwyaf o’n gweithgareddau yn gweithio cystal os ydy eich ysgol yn defnyddio Office, Google Apps, Purple Mash, J2E, Hwb, Apple, iOS neu Android.

Canllawiau Fideo

Mae gan y gweithgareddau mwy cymhleth ganllawiau fideo, yn dangos yn union i chi sut i baratoi ac addysgu’r tasgau.

Cam wrth Gam

Mae pob un o’n gweithgareddau yn cael eu disgrifio’n fanwl, gyda chanllaw cam wrth gam (mewn Cymraeg clir).

Offer Arall

Gweithgareddau Tymhorol

Calan Gaeaf, Nadolig, Rygbi, Dydd Gŵyl Dewi Sant, Pasg, Cwpan y Byd – Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithgareddau ar gyfer digwyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn. Fel gyda’n Safle Sgiliau, mae ein holl Weithgareddau Tymhorol wedi’u hysgrifennu gan roi ystyriaeth i elfennau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac mae cyfarwyddiadau clir ynddyn nhw i’ch helpu i’w cyflwyno i’ch disgyblion.

Aps Allweddol

Mae gennym ddetholiad o aps dibynadwy sydd yn gallu eich helpu i weithredu technoleg ar draws y cwricwlwm. Mae ein tudalennau Aps Allweddol yn cynnwys canllaw Sut i wneud Fideo ar gyfer pob ap ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau i ddefnyddio’r ap yn eich pwnc a’ch ystafell ddosbarth.