Hyfforddiant i'ch Ysgol
Diwrnodau HMS neu sesiynnau gwyll i'ch ysgol
Fel arbenigwyr ar ddefnyddio technoleg yn y dosbarth, gallwn gynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus helaeth i’n hysgolion tanysgrifio ar ddefnyddio technoleg yn y dosbarth.
Mae TwT 360 yn darparu hyfforddiant diwrnod llawn, hanner diwrnod a gyda’r nos i ysgolion ar draws Cymru ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Google for Education, codio yn yr ysgol gynradd, sgiliau iPad traws gwricwlwaidd ac ar ddefnyddio TwT 360 yn eich ysgol. Gall tanysgrifwyr TwT 360 fanteisio ar ddisgownt o 10% mewn costau Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Hyd Hyfforddiant
Gall hyfforddiant fod yn sesiynau diwrnod llawn, hanner diwrnod neu gyda’r nos. Gallwn drefnu hyfforddiant clwstwr hyd yn oed fel bod modd i’r athrawon o’ch holl ysgolion lleol gymryd rhan.
Cynnwys Hyfforddiant
Gellir cynnal hyfforddiant ar amrediad o bynciau yn cynnwys:
- Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
- Google for Education a Chromebooks
- iPads traws gwricwlaidd
- Defnyddio TwT 360 yn eich ysgol
- Asesu ar gyfer Dysgu drwy dechnoleg
Wrth drefnu hyfforddiant diwrnod llawn, gellir cynnwys nifer o’r pynciau yma gyda’i gilydd.
Disgownt o 10%
Fel ysgol danysgrifio TwT 360 fe fyddwch yn derbyn disgownt o 10% ar yr holl gostau Datblygiad Proffesiynol Parhaus.