Dydd Gŵyl Dewi
Tymhorol
Mae gan TwT 360 gannoedd o weithgareddau i'ch helpu chi ddysgu sgiliau'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Dyma gasgliad o weithgareddau Dydd Gŵyl Dewi fel esiampl. Tanysgrifiwch heddiw i gael mynediad llawn.
Pob Oedran
Ebost y Siarter Iaith
Ysgrifennu, neu gyfrannu at, ebost yn esbonio popeth mae'r dosbarth wedi ei wneud ar gyfer y siarter iaith.
Ebost y Siarter Iaith
Pob Oedran
Mae'r siarter iaith yn ffocws i'r rhan fwyaf o ysgolion eleni, gyda nifer o wersi a gweithgareddau yn canolbwyntio ar hybu'r iaith. Dyma gyfle i ddangos yr holl weithgareddau diddorol mae eich dosbarth wedi eu cyflawni, gan hefyd wella eu sgiliau cyfathrebu digidol.
Meithrin/Derbyn
- Os ydych yn gweithio yn y Meithrin neu'r Derbyn, mae'r gweithgaredd yma yn rhwydd, Yr unig beth sydd angen ei wneud ydy ysgrifennu ebost fel dosbarth gyda mewnbwn gan eich disgyblion. Dechreuwch drwy ddarllen ebost gan Dewi yn gofyn sut mae eich dosbarth yn hybu'r Gymraeg ac yna ysgrifennwch ateb, gyda chymorth a syniadau gan y disgyblion.
Blynyddoedd 1/2
- I chi ym Mlwyddyn 1 a 2, edrychwch ar y gweithgaredd 'My First Email' . Gall y disgyblion ddefnyddio'r gweithgaredd hwn i yrru ebyst i Dewi yn esbonio sut maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth.
Blynyddoedd 3/4
- Yn debyg i Flynyddoedd 1 a 2, mae angen gyrru ebost yn esbonio sut mae'r dosbarth wedi bod yn hybu eu defnydd o'r iaith. Mae hwn yn gyfle i chi ddefnyddio gwasanaeth ebost llawnach nag un Purple Mash (e.e. Gmail, Outlook).
- Edrychwch ar weithgaredd 'Emailing the Teacher' am fwy o fanylder, gan newid derbyniwr yr ebost i Dewi Sant neu i bennaeth yr ysgol.
Blynyddoedd 5/6
- Gwnewch yn union yr un peth a blynyddoedd 2/4 ond canolbwyntiwch ar ddysgu'r disgyblion sut i yrru neges ffurfiol, a sut mae hynny yn wahanol i gynnwys ebost i ffrind.
Meini Prawf
Meithrin / Derbyn
- Rwy'n deall fod negeseuon yn gallu cael eu gyrru ar-lein.
- Rwy'n gallu cynnig syniadau i'w rhoi mewn neges ebost.
Blynyddoedd 1/2
- Rwy'n gallu mewngofnodi a darllen fy ebyst.
- Rwy'n gallu ymateb i ebost.
Blynyddoedd 3-6
- Rwy'n gallu mewngofnodi a darllen fy ebyst.
- Rwy'n gallu ysgrifennu ebyst ac ychwanegu atodiad.
- Rwy'n deall y gwahaniaeth rhwng ebost ffurfiol ac ebost i ffrind. (Bl 5 a 6)
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
2.1 - Cyfathrebu
Elfen(nau) Fframwaith Ychwanegol
1.1 - Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
1.2 - Iechyd a Lles
1.4 - Ymddygiad Ar-lein a Seibrfwlio
Pob Oedran
Hanes Dewi
Mae hanes Dewi a stori'r bregeth ar y bryn yn rhan bwysig o'n hanes. Gyda sgiliau llygoden a sgiliau teipio, gall y disgyblion ei hail ddweud.
Hanes Dewi
Pob Oedran
Mae'n bwysig fod ein disgyblion yn dysgu am fywyd ein nawddsant, o'i deulu i stori'r bregeth ar y bryn yn Llanddewi Brefi. Pa bynnag eu hoedran, mae ffyrdd o ddefnyddio technoleg i'w helpu i ail-adrodd yr hanes.
Dechreuwch drwy ddarllen hanes Dewi i'ch disgyblion.
Meithrin
Gan ddefnyddio Purple Mash neu J2E, dylai disgyblion dynnu llun o Dewi a theipio eu henw o danodd.
Derbyn
Gall y disgyblion dynnu lluniau o Dewi a'i deulu (gan ddefnyddio Purple Mash neu J2E). Dylent wedyn deipio enw'r cymeriadau o dan eu lluniau.
Blynyddoedd 1/2
Gan ddefnyddio 2Create a Story ar Purple Mash, gall disgyblion ddarlunio a theipio brawddegau syml am hanes Dewi. Yn amlwg gallwch roi banc geiriau a brawddegau iddynt os oes angen.
Blynyddoedd 3/4
Teipiwch stori pregeth Llanddewi Brefi cyn y wers a rhannwch gopi digidol gyda'ch disgyblion. Dylai'r disgyblion newid geiriau yn y stori i drawsnewid yr hanes mewn ffordd ddiddorol neu ddoniol. Edrychwch ar weithgaredd 'Rewriting a Fairy Tale ym Mlwyddyn 4, 3.2 'Creu'
Blynyddoedd 5/6
Gofynnwch i'ch disgyblion ddefnyddio ap megis Explain Everything i greu fideo o hanes Dewi. Gan ddefnyddio Explain Everything gallent greu cyfres o sleidiau o flaen llaw (e.e. un i deulu Dewi, un i'w fywyd cynnar, un i'r bregeth ar y bryn ac un i'w le fel nawddsant) ac yna recordio troslais yn dweud yr hanes.
Meini Prawf
Meithrin
- Gallaf dynnu llun gyda'r llygoden.
- Gallaf deipio llythrennau.
Derbyn
- Gallaf dynnu llun gyda'r llygoden.
- Gallaf deipio geiriau syml.
Blynyddoedd 1/2
- Gallaf deipio brawddegau, gan ddefnyddio prif lythrennau ac atalnodau llawn.
Blynyddoedd 3/4
- Gallaf newid lliw, maint a ffont testun.
- Gallaf ychwanegu, newid maint a thorri ochrau lluniau o'r cyfrifiadur ac o'r we.
Blynyddoedd 5/6
- Gallaf greu fideo drwy gyfuno lluniau, testun a troslais.
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio (Meithrin/Derbyn)
3.2 - Creu (Pob oedran)
Elfen(nau) Fframwaith Eraill
2.3 Storio a Rhannu
3.3 Gwerthuso a Gwella
Meithrin i Flwyddyn 4
Arolwg Dros Gymru
Defnyddiwch sgiliau gwyddonol a digidol i gynnal arolwg i hoff wrthrych Cymreig y dosbarth!
Arolwg dros Gymru
Meithrin i Flwyddyn 4
Mae creu graff yn dasg syml ond pwysig drwy y rhan fwyaf o'r ysgol. Tra bod y plant ieuengaf yn gwneud pictogramau a'r plant hyn yn defnyddio taenlenni, mae Blynyddoedd 1 a 2 yn gwneud graffiau bar.
Mae hwn yn weithgaredd syml iawn. Dilynwch weithgaredd 'Survey Time' ar dudalen 4.2 Data and Information Literacy i Flwyddyn 2.
Yn lle defnyddio'r esiamplau o arolygon yn y weithgaredd honno, gofynnwch i'ch disgyblion i greu arolwg o'n hoff Gymro/Cymraes neu ein hoff symbol Cymreig (cennin Pedr, draig goch, gwisg Gymreig, bathodynnau pêl droed a rygbi Cymru).
Amrywio yn ôl gallu
Syml (Derbyn)
Yn lle creu graff bar, gofynnwch i'r disgyblion i greu pictogram. Ewch i 'Record information on a pictogram' ar gyfer y Derbyn i ddarllen mwy.
Sialens (Blwyddyn 3/4)
Defnyddio taenlen megis Google Sheets neu Excel i greu tabl a graff. Edrychwch ar weithgaredd 'Independent Graphs' ar gyfer Blwyddyn 4 am fwy o fanylion.
Meini Prawf
Syml
- Gallaf gyflwyno data fel pictogram
Canol
- Gallaf gofnodi gwybodaeth mewn siart tali.
- Gallaf greu siart bar i gyflwyno fy nata.
Sialens
- Gallaf fewnbynnu data i daenlen.
- Gallaf greu siart bar gyda fy nhaenlen.
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
Bl 2 + CA2
Dewi Sant - Y Ffilm
Mae angen rhaghysbyseb (trailer) ar gyfer ffilm fawr 2018 - 'Dewi - The Movie!'.
Dewi Sant - Y Ffilm!
Bl2 - CA2
Glywsoch chi fod Hollywood am greu ffilm am Dewi? Maen nhw yn chwilio am rhaghysbyseb (trailer) gwych i'r ffilm, allwch chi helpu?
Darllenwch gweithgaredd "The Best School Day Ever" sydd yn manylu sut i greu rhaghysbyseb ar ap iMovie. Gofynnwch i'r disgylion, mewn grwpiau, i greu rhaghysbyseb i'r 'Blockbuster' newydd - Dewi!
Amrywio yn ôl Gallu
Gwahaniaethwch drwy roi mwy o gymorth i'r plant iau neu'r plant sydd eu hangen. Gallwch roi cymorth iddynt o ran ysgrifennu'r geiriau sydd yn ymddangos neu o ran cynllunio'r clipiau gwahanol.
Meini Prawf
- Rwy’n gallu ffilmio clipiau ar gyfer rhaghysbysiad.
- Rwy’n gallu golygu teitlau a chredydau rhaghysbysiad.
Elfen(nau) Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.2 - Creu
Meithrin i Flwyddyn 4
Bingo Lluniau
O'r Meithrin i Flwyddyn 4, dyma weithgareddau i ddysgu ac ymarfer sgiliau camera.
Bingo Lluniau
Meithrin - Blwyddyn 4
Mae tynnu ffotograffau yn sgil holl-bwysig i blant, felly beth am gyfuno y sgil gyda tasg sy'n eu dysgu am symbolau pwysig Cymreig?
- Atgoffwch / Dysgwch eich disgyblion sut i gymryd ffotograff da. Canolbwyntiwch ar:
- Ddal y ddyfais yn llonydd a'i bwyntio at y gwrthrych fydd yn ffocws y ffotograff.
- Sicrhau eu bod digon agos i'r gwrthrych, ond ddim rhy agos!
- Rhowch fwrdd gwyn i'r disgyblion gyda gair/geiriau megis "DEWI SANT', "DRAIG" neu "Cymraeg" wedi ei ysgrifennu arno.
- Gofynnwch i'r disgyblion i fynd o amgylch y dosbarth yn chwilio am wrthrychau sydd yn dechrau gydag un o'r llythrennau yn eich gair (e.e. Drws, Esgid, Ia...) a chymryd ffotograff ohonynt.
- Cyn gynted ac maent yn cwblhau gair, dylent ddod 'nôl i gael gair newydd.
Amrywio yn ôl Gallu
Syml
- Os nad yw'ch disgyblion yn barod i ganolbwyntio ar lythrennau geiriau, gallwch newid y dasg i ganolbwyntio ar y sgiliau camera yn unig.
- Cymrwch 5 ffotograff o wrthrychau Cymreig (e.e.draig, cennin Pedr, dafad, pêl rygbi, baner Dewi) ac wedyn gosodwch y gwrthrychau o amgylch y dosbarth.
- Rhowch eich 5 ffotograff ar sleid a dangoswch nhw ar y bwrdd gwyn.
- Gofynnwch i'r disgyblion i rasio i ddarganfod a thynnu ffotograff o bob gwrthrych.
Sialens
Dechreuwch fel y dasg isod, ond yna gofynnwch i'r disgyblion greu fideo sioe sleidiau o'u lluniau. Dylai'r fideo esbonio pam fod pob gwrthrych yn bwysig i Gymru. Edrychwch ar weithgaredd 'Video Slideshow i Flwyddyn 3 am fwy o gyfarwyddiadau.
Meini Prawf
- Rwy'n gallu tynnu lluniau o wrthrychau.
Sialens
- Rwy’n gallu ychwanegu nifer o luniau i sioe sleidiau fideo a golygu eu hyd.
- Rwy’n gallu ychwanegu teitl a cherddoriaeth gefndir i fy fideo.
- Rwy’n gallu allforio fy fideo i’r Camera Roll.
Elfen(nau) Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.2 - Creu
Bl 2 + CA2
Chwilio am Dewi
Canolbwyntio ar sgiliau chwilio da er mwyn darganfod lluniau a gwybodaeth yn gyflym ac yn effeithlon.
Chwilio am Dewi
Bl 2 - CA2
Mae sgiliau chwilio a cyrchu ar-lein yn wan mewn nifer o ysgolion. Dyma gyfle i wir ffocysu ar y sgiliau hyn a darganfod mwy am Dewi Sant.
Blwyddyn 2
- Esboniwch i'r disgyblion ei bod hi'n llawer haws darganfod lluniau a gwybodaeth ar y we os ydyn yn defnyddio allweddeiriau (keywords) yn lle teipio brawddeg gyfan. Dangoswch iddynt sut i wneud hyn.
- Rhowc fanc geiriau i'r disgyblion a gofynnwch iddynt ddarganfod lluniau o wrthrychau Cymreig (draig, castell, Caerdydd a.y.y.b.)
Cyfnod Allweddol 2
- Gofynnwch i'r disgyblion ymchwilio i hanes Dewi gan ddefnyddio'r gweithgaredd a'r sgiliau priodol i'w gallu:
Meini Prawf
Blwyddyn 2
- Rwy'n gallu chwilio am luniau gydag un allweddair.
Blwyddyn 3
- Rwy’n gallu troi cwestiwn yn allweddeiriau.
- Rwy’n gallu defnyddio allweddeiriau i ddarganfod gwybodaeth benodol.
Blwyddyn 4
- Rwy’n gallu troi cwestiwn yn allweddeiriau.
- Rwy’n gallu defnyddio allweddeiriau a sgimio'r canlyniadau i ddarganfod gwybodaeth benodol.
Blynyddoedd 5/6
- Rwy'n gallu defnyddio offer chwilio i hidlo fy nghanlyniadau.
- Gallaf ddefnyddio gweithredwyr (operators) i fireinio fy chwiliad.
Elfen(nau) Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio