Dosbarth Newydd
Tymhorol
Bl 1- Bl 6
Sialens Gwir neu Gau
A fydd yr athrawon yn gallu gwylio fideo'r disgyblion a dyfalu pa ffeithiau sydd yn wir, a pa rai sydd yn gelwydd?
Sialens Gwir neu Gau
Bl 1-6
Mae cyflwyno a ffilmio yn sgiliau hollbwysig a fydd angen eu hymarfer drwy gydol y flwyddyn. Felly, beth am ddechrau ar y diwrnod cyntaf! Bydd disgyblion yn ffilmio tri chlip o'u partner. Mewn dau glip, bydd y partner yn dweud ffeithiau diddorol amdanynt eu hunain. Yn y trydydd, celwydd! Allwch chi ddyfalu pa un yw'r celwydd?
Y Gêm
I chi sydd ddim yn gyfarwydd â'r gêm, dyma esboniad syml:
- Disgyblion yn meddwl am ddwy ffaith ddiddorol am eu bywyd - y mwyaf anhygoel y gorau.
- Disgyblion wedyn yn meddwl am gelwydd am eu bywyd.
- Esbonio'r ddwy ffaith a'r celwydd i'r dosbarth, a gweld pwy all adnabod y celwydd.
- Mae'r gêm ar ei orau pan mae'r ffeithiau a'r celwydd yn swnio mor anhygoel â'i gilydd.
Y Fideo
- Ar ôl dewis eu ffeithiau a'u celwydd, dylai disgyblion gael eu ffilmio gan eu partner yn adrodd y tri (Un clip i bob ffaith/celwydd, dim mwy na 10 eiliad y clip).
- Dylent ddefnyddio’r 6 clip (3 gan bartner 1, 3 gan bartner 2) i greu fideo, gan ddefnyddio pa bynnag lefel o sgiliau sydd yn briodol. Am esboniad pellach o'r sgiliau, ewch i
- Chwarae'r fideo terfynol i'r dosbarth. Gofyn i'w cyd-ddisgyblion, neu'r athro, i drio dyfalu pa 'ffeithiau' sy'n gelwydd.
Amrywio yn ôl gallu
Sialens
Os oes gan eich disgyblion lot o brofiad gyda ffilmio a golygu fideos, gallwch ychwanegu sialensiau pellach. Mae defnyddio sgrin werdd yn syniad da, edrychwch ar y gweithgaredd ar gyfer Blwyddyn 5 uchod.
Meini Prawf
Syml
- Rwy'n gallu recordio clip fideo a'i fewnforio i raglen golygu ffilmiau.
- Rwy'n gallu ychwanegu lluniau o'r Camera Roll i fy ffilm.
- Rwy'n gallu cyfuno lluniau a chlipiau fideo i un prosiect.
Canolig
- Rwy'n gallu ffilmio clip fideo, ei fewnforio i raglen golygu ffilm a'i docio.
- Rwy'n gallu ychwanegu teitlau a cherddoriaeth i fy fideo.
Sialens
- Rwy'n gallu ychwanegu cefndir i fy fideo gan ddefnyddio technoleg sgrin werdd.
- Rwy’n gallu mewnforio ac allforio fy fideo i amrywiol apiau, ac oddi arnyn nhw.
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.2 - Creu
Elfen(nau) Eraill y Fframwaith
1.3 - Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth
2.3 - Storio a Rhannu
3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.3 - Gwerthuso a Gwella
Bl 1 - Bl 6
Dyma Fi
Cyfle i'r dosbarth i'w cyflwyno eu hunain, ac i ganmol eu ffrindiau, gyda meddalwedd cyflwyno.
Dyma Fi
Bl 1-6
Gan mai un o brif bwrpas gweithgareddau diwrnod cyntaf ydy i ddod i adnabod y disgyblion, mae meddalwedd cyflwyno yn ffitio yn berffaith. Gall disgyblion greu cyflwyniad am eu hunain, ac yno defnyddio meddalwedd cydweithio i wneud sylwadau positif am eu ffrindiau.
Creu Cyflwyniad
Bydd disgyblion yn creu dwy neu dair sleid i gyflwyno eu hunain i chi ac i'r dosbarth. Edrychwch ar y blwch 'Amrywio' isod i weld y lefelau gwahanol o sialens.
Gall y sleidiau gynnwys:
- Blwch ffeithiau (enw, cartref, penblwydd, teulu, hoff bwnc).
- Ffaith anghrediniol (e.e. Dwi wedi bod ar y teledu 5 gwaith!)
- Llun o'r plentyn neu o'u hoff gymeriad teledu Cymraeg.
- Fideo (hoff gân Gymraeg)
Canmol drwy Gydweithio
Mae meddalwedd Google for Education neu Office 365 yn caniatáu disgyblion i deipio ar waith ei gilydd. Dyma ffordd hyfryd i annog y plant i ganmol ei gilydd:
- Ar ôl i'r disgyblion greu eu sleidiau, crëwch un PwerBwynt/Slide gyda holl sleidiau'r disgyblion gyda'i gilydd.
- Ychwanegwch sleid rhwng bob plentyn gyda thabl gwag gyda dwy golofn (Enw, Sylwadau)
- Rhannwch y ddogfen gyda'r disgyblion a gofyn iddynt edrych ar sleidiau ei gilydd a rhoi canmolant ar dabl 4 neu 5 o blant eraill.
- Gwnewch yn sicr fod sylwad ar sleid pob plentyn.
Amrywio yn ôl gallu
Syml
Un sleid yn cynnwys:
- Enw
- Blwch ffeithiau
- Llun o'u hoff gymeriad Cymraeg a'u hoff fwyd.
Canolig
Dwy sleid, un fel uchod ac un gyda fideo o'u hoff fand. Cyfle i roi sylwadau ar sleidiau ei gilydd. Sicrhau eu bod yn defnyddio'r sgiliau ym Mlwyddyn 3 ' Creu' - Cyflwyno
Sialens
Fel uchod, ond gyda sgiliau uwch megis animeiddio fel y gwelir yng ngweithgaredd Blwyddyn 4 'Creu' - Cyflwyno
Meini Prawf
Syml
- Rwy'n gallu defnyddio blychau testun a lluniau mewn cyflwyniad.
- Rwy'n gallu darganfod lluniau ar y we.
Canolig
- Rwy'n gallu defnyddio blychau testun, lluniau, fideos a sain yn fy nghyflwyniad.
- Rwy'n gallu torri lluniau i'r maint cywir.
- Rwy'n gallu newid lliw a dyluniad fy sleidiau.
- Rwy'n gallu golygu ffeil sydd wedi ei rannu gyda mi.
Sialens
- Rwy’n gallu mewnosod blychau testun, delweddau, fideo a sain i gyflwyniad.
- Rwy’n gallu cynllunio fy nghyflwyniad yn annibynnol.
- Rwy’n gallu defnyddio animeiddio ar fy nhestun a delweddau.
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.2 - Creu
Elfen(nau) Eraill y Fframwaith
1.3 - Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth
2.3 - Storio a Rhannu
3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.3 - Gwerthuso a Gwella