Beth yw TwT 360?
TwT 360 yw eich canllaw chi i ddefnyddio technoleg yn eich dosbarth cynradd, gan ganolbwyntio ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Defnyddiwch ein Safle Sgiliau i ddarganfod casgliad anferth o weithgareddau ar gyfer pob elfen o'r Fframwaith ym mhob blwyddyn o’r Meithrin i Flwyddyn 6. Cofiwch wylio allan am ein gweithgareddau tymhorol er mwyn paratoi ar gyfer y Nadolig, Dydd Santes Dwynwen neu Gwpan y Byd.
Y Safle Sgiliau
Asgwrn cefn TwT 360 ydy’r Safle Sgiliau, sydd â dros 100 tudalen o weithgareddau ar hyn o bryd, pob un yn gysylltiedig gyda gwahanol elfennau o Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cymru.