Menu

Dysgu o Bell i Ysgolion Cynradd

Guto Aaron, athro cynradd a chyfarwyddwr TwT 360

Er bod ein hysgolion yng Nghymru yn parhau ar agor am y tro, gyda’r sefyllfa’n newid yn sylweddol o ddydd i ddydd mae angen i ni baratoi ar gyfer y posibilrwydd o gau ysgolion, o bosib am gyfnod hir. Fel aelod o ychydig o rwydweithiau athrawon byd-eang, rwyf wedi bod yn gofyn i’r rheini mewn ysgolion sydd eisoes ar gau am eu profiadau a’u cyngor ac yn yr erthygl hon byddaf yn ceisio crynhoi rhai o’r camau allweddol i’w hystyried.

Peidiwch ag aros tan y funud olaf

Er nad ydym yn gwybod a fydd ysgolion yn cau yng Nghymru, bydd aros nes bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn cynllunio yn arwain at ddryswch ac anhrefn i’ch staff, myfyrwyr a rhieni / gwarcheidwaid. Unwaith y bydd yr ysgol ar gau, mae’n anoddach o lawer cyfleu neges gyson i rieni, myfyrwyr, staff a’r gymuned leol.

Ar ôl i chi wneud penderfyniadau ar blatfform digidol ac arferion (gweler isod), gwnewch yn siŵr bod eich holl staff yn deall y penderfyniadau hynny ac yn gyffyrddus yn defnyddio’r dechnoleg rydych chi wedi’i dewis. Mae hyn yn arbennig o wir am dechnoleg fideo byw fel Google Meet gan y bydd y mwyafrif o athrawon yn anghyfarwydd ag ef.

Hefyd, gwnewch yn siŵr bod y disgyblion yn gwybod sut i gyrchu a defnyddio’r platfform o ddewis. Gobeithio, yn y mwyafrif o ysgolion, na fydd hyn yn broblem gan y bydd disgyblion wedi arfer mewngofnodi i Hwb neu Google Classroom yn rheolaidd.

Sicrhewch fod manylion cyswllt a gwybodaeth mewngofnodi yn gyfredol

Mae’r mwyafrif o ysgolion uwchradd yn debygol o allu cysylltu â’u myfyrwyr trwy e-bost, ond dylai ysgolion cynradd sicrhau bod ganddynt gyfeiriadau e-bost cyfoes ar gyfer rhieni fel y gellir anfon tasgau a gwybodaeth adref. I’r rhai sy’n dysgu ym Mlynyddoedd 5 a 6, os nad ydych chi wedi addysgu’ch disgyblion i ddefnyddio e-bost eto, yna byddai nawr yn amser gwych i chi gyflwyno’r sgiliau hynny!

Ar ôl i chi ddewis y llwyfannau ar-lein y byddwch chi’n eu defnyddio fel ysgol ar gyfer dysgu o bell (e.e. Hwb, Google Classroom, Sumdog, Purple Mash, SeeSaw – gweler isod), gwnewch yn siŵr bod pob myfyriwr yn gwybod eu manylion mewngofnodi. Beth am greu cardiau gyda’r manylion i fyfyrwyr fynd â nhw adref?

Cofiwch ddarganfod a nodi’r teuluoedd syd heb fynediad i’r rhyngrwyd gartref neu sudd heb ddyfais i weithio arni. Bydd angen dull gwahanol arnoch chi gyda’r myfyrwyr hynny, gan o bosib baratoi pecyn gweithgaredd yn barod i’w yrru adref os bydd angen cau.

Dewiswch eich prif blatfform.

Mae miloedd o wahanol blatfformau digidol yn cael eu defnyddio gan ysgolion i addysgu ar-lein, ond yr allwedd i ddysgu o bell yn llwyddiannus yw i gadw pethau’n syml. Y system orau iw i ddewis un platfform canolog ble bydd tasgau’n cael eu cyhoeddi a ble gall eich disgyblion gyflwyno eu gwaith. Gellir gwneud hyn trwy e-byst, ond mae Google Classroom yn berffaith ar gyfer y rôl hon oherwydd:

  • Gall tasgau gael eu gwthio allan yn hawdd gan athrawon, a gallent hefyd wahaniaethu trwy wthio gwahanol waith i grwpiau o fyfyrwyr.
  • Gall myfyrwyr fewngofnodi bob bore a dod o hyd i’r dasg ddiweddaraf yn gyflym.
  • Nid oes unrhyw ddryswch wrth atodi dogfennau i e-byst, ac nid yw athrawon yn derbyn degau o negeseuon e-bost neu hysbysiadau bob dydd.
  • Gellir gosod gwaith nad yw’n ddigidol yn Google Classroom, a gall rhieni / myfyrwyr gyflwyno’r gwaith trwy dynnu llun ar ffôn neu lechen a’i ychwanegu at y dasg.

Mae gan Google lawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer defnyddio Google Classroom yma (cliciwch)

Cadwch bethau’n ddiddorol

Er y dylai fod gennych brif blatfform digidol fel Google Classroom i rannu tasgau a gweld gwaith myfyrwyr, peidiwch â theimlo bod hyn yn golygu bod yn rhaid i’r holl dasgau fod yn sleidiau neu’n waith wedi’u teipio. Gall tasgau fod mor amrywiol â chodio ar Code.Org (mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Google / Hwb a gallwch osod tasgau i’ch disgyblion yn uniongyrchol o fewn Code.Org), dylunio gwaith gyda Canva (bellach yn rhad ac am ddim i ysgolion) neu unrhyw un o weithgareddau di-ri J2E neu Purple Mash. Cofiwch bwysigrwydd tasgau all-lein fel darllen llyfr, creu patrymau sy’n ailadrodd gyda gwrthrychau cartref neu wneud gweithgareddau corfforol yn yr ardd. Mae lluniau o dasgau ‘all-lein’ neu sgrinluniau o waith a wneir ar lwyfannau eraill yn aml yn ddigon o dystiolaeth a gellir eu lanlwytho yn hawdd i Google Classroom gan y myfyriwr / rhiant.

Sefydlwch drefn i’r dyddiau

Er na fydd y mwyafrif o athrawon wedi arfer cyflwyno trwy fideo byw, mae’n werth ystyried gweithredu darllediadau byw fel rhan o’ch trefn dysgu o bell (nid yw hanner mor ddychrynllyd ag y mae’n swnio!). Mae myfyrwyr yn debygol o ymateb yn well i weithio gartref os ydyn nhw’n dal i weld eu hathrawon am gyfnod byr bob dydd. Mae rhai ysgolion cynradd sydd ar gau mewn gwledydd eraill wedi gweithredu “amser dosbarth” rhwng 9: 00-9: 30 pan fydd athrawon yn cyflwyno trosolwg o dasgau’r dydd i’w dosbarth dros Google Meet.

Mae Google Meet yn hawdd iawn i’w ddefnyddio, dim ond mewngofnodi i meet.google.com, clicio’r botwm i gychwyn cyfarfod a rhannu’r ddolen URL i’ch Google Classroom neu hyd yn oed trwy e-bost. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr lawrlwytho unrhyw feddalwedd arbennig gartref, dim ond clicio ar y ddolen ac ymuno â’ch galwad fideo ar unwaith. Ni fydd pob myfyriwr yn gwylio bob dydd, ond i’r rhai sy’n gwneud bydd yn eu helpu i gadw synnwyr o drefn ac yn eu canolbwyntio ar eu tasgau. Ystyriwch hefyd gael cyfarfod fideo ‘Amser Cau’ am 3pm i roi cyfle i ddisgyblion rannu eu profiadau o’u diwrnod.

Dysgwch sut i ddefnyddio Google Meet yma (cliciwch)

NEWYDD: Mae Hwb wedi newid eu tudalen cymorth i ddweud nawr nad ydy Meet wedi ei droi ymlaen i ddisgyblion. Yn anffodus felly, ni fydd ysgolion Hwb yn gallu defnyddio Meet i wneud ‘amser dosbarth’.

Rhannu adnoddau

Os bydd yn rhaid i bob ysgol yng Nghymru gau a symud i ddysgu o bell, rydyn ni i gyd yn mynd i fod ar dir newydd ac yn dysgu wrth i ni fynd yn ein blaen. Ni fydd hi erioed wedi bod mor bwysig i rannu syniadau ac adnoddau gyda ysgolion cyfagos ac ymhellach i ffwrdd i sicrhau nad ydym i gyd yn ail-ddyfeisio’r olwyn ar yr un pryd. Sefydlwch sgyrsiau grŵp WhatsApp neu Hangouts rhwng athrawon sy’n dysgu oedran / pynciau tebyg yn eich clwstwr. Bydd hyn yn eich helpu i bwyso ar eich gilydd am gefnogaeth, syniadau ac adnoddau. Beth am greu cyfrif Twitter (os nad ydych chi eisoes) ac ymuno â’r degau o filoedd o athrawon eraill ledled y byd sydd yn yr un cwch, yn ceisio datrys yr un problemau?

Cofiwch les staff

Er ei bod yn bwysig bod staff addysgu yn paratoi tasgau ar gyfer myfyrwyr ac yn parhau i’w hannog i ddysgu trwy adborth a / neu gyflwyniadau fideo, cofiwch y bydd eich staff yn ei chael hi’n anodd yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

Bydd llawer o’ch staff yn gofalu am eu plant eu hunain gartref, bydd y mwyafrif yn poeni am berthnasau hŷn a chymdogion tra bydd eraill o bosibl yn hunanwahanu eu hunain o’r gymuned am gyfnod. Bydd gan bob un ohonynt hefyd y straen ychwanegol o weithio’n bell tu allan i’w parth cysur gan na fydd yr un ohonynt wedi arfer addysgu o bell. Mae lles eich staff yn hollbwsig. Er nad ydych yn eu gweld wyneb yn wyneb fel y byddwch fel arfer, cadwch mewn cysylltiad a chofiwch ofyn iddynt yn ddiffuant sut y maent yn ymdopi. Gallwch efallai sefydlu galwad fideo Meet ar amser penodol bob dydd er mwyn i’ch staff gael ‘amser ystafell staff’ gwirfoddol; cyfle i sgwrsio’n anffurfiol â’i gilydd, i ofyn am gymorth gyda eu rhwystredigaethau ac i rannu llwyddiannau.

Os gwnawn baratoi ein cynlluniau nawr, gwneud yn siŵr bod ein staff addysgu yn gyffyrddus â’n dewisiadau ac yn treulio peth amser yn sicrhau bod ein disgyblion yn hyderus gyda’r platfformau a ddefnyddiwn, yna gobeithio y bydd y newid i ddysgu o bell yn mynd yn gymharol ddidrafferth i’n hysgolion, ein staff, ein rhieni ac, yn bwysicaf oll, ein myfyrwyr.