Menu

Mwy o Adnoddau i’ch Disgyblion

Nol ym Mis Mawrth, pan fu raid i ysgolion ar draws y wlad gau ac athrawon ddechrau dygymod gyda dysgu o bell, fe wnaethon ni yn TwT 360 wneud addewid i greu mwy o adnoddau y gallwch chi eu rhannu gyda’r disgyblion. Dyma ddiweddariad o beth sydd wedi newid dros y ddeufis diwethaf:

Dyblu’r nifer o fideos

Rydym wedi dyblu’r nifer y fideos sydd ar TwT 360 er mwyn rhoi canllaw clir i nifer fawr o’n gweithgareddau. Rydym dal yn gweithio ar greu mwy, ac rydym yn fwy na hapus i glywed gennych chi os oes gweithgaredd neu dasg yr hoffech gael fideo wedi ei greu ar ei gyfer.

I’ch helpu chi i ddarganfod ein fideos, rydym wrthi yn creu tudalen Cyfeiriadur Fideos gyda dolenni i’r gweithgareddau sydd gyda chanllaw fideo. Cliciwch y botwm isod i’w weld.

Rhannu Fideos gyda Disgyblion

Fe wnaeth nifer o ysgolion ofyn i ni os oedd modd rhannu fideos gyda disgyblion. Nid oedd hyn yn bosib yn wreiddiol gan mae pwrpas y fideos oedd dangos i chi athrawon sut i gyflwyno’r tasgau i’r disgyblion. Ond gyda dysgu o bell, mae’n amlwg yn llawer anoddach cyflwyno sgiliau digidol newydd, felly rydym wedi gwneud pob fideo yn agored i’w rhannu.

I rannu gyda disgyblion, cliciwch y botwm ‘Rhannu Fideo’ sydd wrth ymyl pob botwm fideo ar ein gweithgareddau (esiampl isod). Bydd hwn yn rhoi dolen YouTube agored i chi i’w gopïo a’i rannu gydag eich disgyblion drwy Google Classroom / ebost / gwefan ayyb.

Templedi Taenlenni

Rydym yn gwybod fod taenlenni yn rhoi cur pen i nifer o athrawon, felly rydym wedi ychwanegu esiamplau a thempledi o daenlenni i’n gweithgareddau yn y Safle Sgiliau. Mae’r templedi ar gael ar gyfer Google Sheets ac ar gyfer Excel, gallwch eu lawrlwytho/copïo a’u rhannu gyda’ch disgyblion. Edrychwch am fotymau fel yr isod ar weithgareddau Taenlenni

Popeth am ddim hyd yr Haf

Fel y gwnaethom gyhoeddi ym Mis Mawrth, rydym wedi penderfynu gwneud holl adnoddau TwT 360 am ddim am weddill y flwyddyn ysgol ac mae bron i 15% o ysgolion cynradd Cymru nawr gyda chyfrif TwT 360. Mae’r cynnig hwn dal yn agored i unrhyw ysgol gynradd sydd eisiau gwneud defnydd o’n hadnoddau, felly cofiwch adael i bobl wybod!

Fel y gwnaethon ddweud pan gaeodd ysgolion, rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i helpu athrawon. Felly os oes gennych chi unrhyw syniadau am bethau fyddai o fudd i chi, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau o ran defnyddio technoleg i ddysgu o bell, cysylltwch gyda ni ar post@twt360.com