St David's Day
Seasonal
Dewi's History
All Ages
It's important that our pupils learn about the life of our patron saint, from his family to the sermon on the hill in Llanddewi Brefi. Whatever their age, there are ways to use technolog to help them re-tell his history.
Start by reading St David's history to the pupils.
Nursery
Using Purple Mash or J2E, pupils should draw a picture of Dewi and type their name in below.
Derbyn
Gall y disgyblion dynnu lluniau o Dewi a'i deulu (gan ddefnyddio Purple Mash neu J2E). Dylent wedyn deipio enw'r cymeriadau o dan eu lluniau.
Blynyddoedd 1/2
Gan ddefnyddio 2Create a Story ar Purple Mash, gall disgyblion ddarlunio a theipio brawddegau syml am hanes Dewi. Yn amlwg gallwch roi banc geiriau a brawddegau iddynt os oes angen.
Blynyddoedd 3/4
Teipiwch stori pregeth Llanddewi Brefi cyn y wers a rhannwch gopi digidol gyda'ch disgyblion. Dylai'r disgyblion newid geiriau yn y stori i drawsnewid yr hanes mewn ffordd ddiddorol neu ddoniol. Edrychwch ar weithgaredd 'Rewriting a Fairy Tale ym Mlwyddyn 4, 3.2 'Creu'
Blynyddoedd 5/6
Gofynnwch i'ch disgyblion ddefnyddio ap megis Explain Everything i greu fideo o hanes Dewi. Gan ddefnyddio Explain Everything gallent greu cyfres o sleidiau o flaen llaw (e.e. un i deulu Dewi, un i'w fywyd cynnar, un i'r bregeth ar y bryn ac un i'w le fel nawddsant) ac yna recordio troslais yn dweud yr hanes.
Meini Prawf
Meithrin
- Gallaf dynnu llun gyda'r llygoden.
- Gallaf deipio llythrennau.
Derbyn
- Gallaf dynnu llun gyda'r llygoden.
- Gallaf deipio geiriau syml.
Blynyddoedd 1/2
- Gallaf deipio brawddegau, gan ddefnyddio prif lythrennau ac atalnodau llawn.
Blynyddoedd 3/4
- Gallaf newid lliw, maint a ffont testun.
- Gallaf ychwanegu, newid maint a thorri ochrau lluniau o'r cyfrifiadur ac o'r we.
Blynyddoedd 5/6
- Gallaf greu fideo drwy gyfuno lluniau, testun a troslais.
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio (Meithrin/Derbyn)
3.2 - Creu (Pob oedran)
Elfen(nau) Fframwaith Eraill
2.3 Storio a Rhannu
3.3 Gwerthuso a Gwella
Ebost y Siarter Iaith
Pob Oedran
Mae'r siarter iaith yn ffocws i'r rhan fwyaf o ysgolion eleni, gyda nifer o wersi a gweithgareddau yn canolbwyntio ar hybu'r iaith. Dyma gyfle i ddangos yr holl weithgareddau diddorol mae eich dosbarth wedi eu cyflawni, gan hefyd wella eu sgiliau cyfathrebu digidol.
Meithrin/Derbyn
- Os ydych yn gweithio yn y Meithrin neu'r Derbyn, mae'r gweithgaredd yma yn rhwydd, Yr unig beth sydd angen ei wneud ydy ysgrifennu ebost fel dosbarth gyda mewnbwn gan eich disgyblion. Dechreuwch drwy ddarllen ebost gan Dewi yn gofyn sut mae eich dosbarth yn hybu'r Gymraeg ac yna ysgrifennwch ateb, gyda chymorth a syniadau gan y disgyblion.
Blynyddoedd 1/2
- I chi ym Mlwyddyn 1 a 2, edrychwch ar y gweithgaredd 'My First Email' . Gall y disgyblion ddefnyddio'r gweithgaredd hwn i yrru ebyst i Dewi yn esbonio sut maen nhw'n defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth.
Blynyddoedd 3/4
- Yn debyg i Flynyddoedd 1 a 2, mae angen gyrru ebost yn esbonio sut mae'r dosbarth wedi bod yn hybu eu defnydd o'r iaith. Mae hwn yn gyfle i chi ddefnyddio gwasanaeth ebost llawnach nag un Purple Mash (e.e. Gmail, Outlook).
- Edrychwch ar weithgaredd 'Emailing the Teacher' am fwy o fanylder, gan newid derbyniwr yr ebost i Dewi Sant neu i bennaeth yr ysgol.
Blynyddoedd 5/6
- Gwnewch yn union yr un peth a blynyddoedd 2/4 ond canolbwyntiwch ar ddysgu'r disgyblion sut i yrru neges ffurfiol, a sut mae hynny yn wahanol i gynnwys ebost i ffrind.
Meini Prawf
Meithrin / Derbyn
- Rwy'n deall fod negeseuon yn gallu cael eu gyrru ar-lein.
- Rwy'n gallu cynnig syniadau i'w rhoi mewn neges ebost.
Blynyddoedd 1/2
- Rwy'n gallu mewngofnodi a darllen fy ebyst.
- Rwy'n gallu ymateb i ebost.
Blynyddoedd 3-6
- Rwy'n gallu mewngofnodi a darllen fy ebyst.
- Rwy'n gallu ysgrifennu ebyst ac ychwanegu atodiad.
- Rwy'n deall y gwahaniaeth rhwng ebost ffurfiol ac ebost i ffrind. (Bl 5 a 6)
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
2.1 - Cyfathrebu
Elfen(nau) Fframwaith Ychwanegol
1.1 - Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
1.2 - Iechyd a Lles
1.4 - Ymddygiad Ar-lein a Seibrfwlio
Dewi Sant - Y Ffilm!
Bl2 - CA2
Glywsoch chi fod Hollywood am greu ffilm am Dewi? Maen nhw yn chwilio am rhaghysbyseb (trailer) gwych i'r ffilm, allwch chi helpu?
Darllenwch gweithgaredd "The Best School Day Ever" sydd yn manylu sut i greu rhaghysbyseb ar ap iMovie. Gofynnwch i'r disgylion, mewn grwpiau, i greu rhaghysbyseb i'r 'Blockbuster' newydd - Dewi!
Amrywio yn ôl Gallu
Gwahaniaethwch drwy roi mwy o gymorth i'r plant iau neu'r plant sydd eu hangen. Gallwch roi cymorth iddynt o ran ysgrifennu'r geiriau sydd yn ymddangos neu o ran cynllunio'r clipiau gwahanol.
Meini Prawf
- Rwy’n gallu ffilmio clipiau ar gyfer rhaghysbysiad.
- Rwy’n gallu golygu teitlau a chredydau rhaghysbysiad.
Elfen(nau) Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.2 - Creu
Chwilio am Dewi
Bl 2 - CA2
Mae sgiliau chwilio a cyrchu ar-lein yn wan mewn nifer o ysgolion. Dyma gyfle i wir ffocysu ar y sgiliau hyn a darganfod mwy am Dewi Sant.
Blwyddyn 2
- Esboniwch i'r disgyblion ei bod hi'n llawer haws darganfod lluniau a gwybodaeth ar y we os ydyn yn defnyddio allweddeiriau (keywords) yn lle teipio brawddeg gyfan. Dangoswch iddynt sut i wneud hyn.
- Rhowc fanc geiriau i'r disgyblion a gofynnwch iddynt ddarganfod lluniau o wrthrychau Cymreig (draig, castell, Caerdydd a.y.y.b.)
Cyfnod Allweddol 2
- Gofynnwch i'r disgyblion ymchwilio i hanes Dewi gan ddefnyddio'r gweithgaredd a'r sgiliau priodol i'w gallu:
Meini Prawf
Blwyddyn 2
- Rwy'n gallu chwilio am luniau gydag un allweddair.
Blwyddyn 3
- Rwy’n gallu troi cwestiwn yn allweddeiriau.
- Rwy’n gallu defnyddio allweddeiriau i ddarganfod gwybodaeth benodol.
Blwyddyn 4
- Rwy’n gallu troi cwestiwn yn allweddeiriau.
- Rwy’n gallu defnyddio allweddeiriau a sgimio'r canlyniadau i ddarganfod gwybodaeth benodol.
Blynyddoedd 5/6
- Rwy'n gallu defnyddio offer chwilio i hidlo fy nghanlyniadau.
- Gallaf ddefnyddio gweithredwyr (operators) i fireinio fy chwiliad.
Elfen(nau) Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
Bingo Lluniau
Meithrin - Blwyddyn 4
Mae tynnu ffotograffau yn sgil holl-bwysig i blant, felly beth am gyfuno y sgil gyda tasg sy'n eu dysgu am symbolau pwysig Cymreig?
- Atgoffwch / Dysgwch eich disgyblion sut i gymryd ffotograff da. Canolbwyntiwch ar:
- Ddal y ddyfais yn llonydd a'i bwyntio at y gwrthrych fydd yn ffocws y ffotograff.
- Sicrhau eu bod digon agos i'r gwrthrych, ond ddim rhy agos!
- Rhowch fwrdd gwyn i'r disgyblion gyda gair/geiriau megis "DEWI SANT', "DRAIG" neu "Cymraeg" wedi ei ysgrifennu arno.
- Gofynnwch i'r disgyblion i fynd o amgylch y dosbarth yn chwilio am wrthrychau sydd yn dechrau gydag un o'r llythrennau yn eich gair (e.e. Drws, Esgid, Ia...) a chymryd ffotograff ohonynt.
- Cyn gynted ac maent yn cwblhau gair, dylent ddod 'nôl i gael gair newydd.
Amrywio yn ôl Gallu
Syml
- Os nad yw'ch disgyblion yn barod i ganolbwyntio ar lythrennau geiriau, gallwch newid y dasg i ganolbwyntio ar y sgiliau camera yn unig.
- Cymrwch 5 ffotograff o wrthrychau Cymreig (e.e.draig, cennin Pedr, dafad, pêl rygbi, baner Dewi) ac wedyn gosodwch y gwrthrychau o amgylch y dosbarth.
- Rhowch eich 5 ffotograff ar sleid a dangoswch nhw ar y bwrdd gwyn.
- Gofynnwch i'r disgyblion i rasio i ddarganfod a thynnu ffotograff o bob gwrthrych.
Sialens
Dechreuwch fel y dasg isod, ond yna gofynnwch i'r disgyblion greu fideo sioe sleidiau o'u lluniau. Dylai'r fideo esbonio pam fod pob gwrthrych yn bwysig i Gymru. Edrychwch ar weithgaredd 'Video Slideshow i Flwyddyn 3 am fwy o gyfarwyddiadau.
Meini Prawf
- Rwy'n gallu tynnu lluniau o wrthrychau.
Sialens
- Rwy’n gallu ychwanegu nifer o luniau i sioe sleidiau fideo a golygu eu hyd.
- Rwy’n gallu ychwanegu teitl a cherddoriaeth gefndir i fy fideo.
- Rwy’n gallu allforio fy fideo i’r Camera Roll.
Elfen(nau) Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.2 - Creu
Arolwg dros Gymru
Meithrin i Flwyddyn 4
Mae creu graff yn dasg syml ond pwysig drwy y rhan fwyaf o'r ysgol. Tra bod y plant ieuengaf yn gwneud pictogramau a'r plant hyn yn defnyddio taenlenni, mae Blynyddoedd 1 a 2 yn gwneud graffiau bar.
Mae hwn yn weithgaredd syml iawn. Dilynwch weithgaredd 'Survey Time' ar dudalen 4.2 Data and Information Literacy i Flwyddyn 2.
Yn lle defnyddio'r esiamplau o arolygon yn y weithgaredd honno, gofynnwch i'ch disgyblion i greu arolwg o'n hoff Gymro/Cymraes neu ein hoff symbol Cymreig (cennin Pedr, draig goch, gwisg Gymreig, bathodynnau pêl droed a rygbi Cymru).
Amrywio yn ôl gallu
Syml (Derbyn)
Yn lle creu graff bar, gofynnwch i'r disgyblion i greu pictogram. Ewch i 'Record information on a pictogram' ar gyfer y Derbyn i ddarllen mwy.
Sialens (Blwyddyn 3/4)
Defnyddio taenlen megis Google Sheets neu Excel i greu tabl a graff. Edrychwch ar weithgaredd 'Independent Graphs' ar gyfer Blwyddyn 4 am fwy o fanylion.
Meini Prawf
Syml
- Gallaf gyflwyno data fel pictogram
Canol
- Gallaf gofnodi gwybodaeth mewn siart tali.
- Gallaf greu siart bar i gyflwyno fy nata.
Sialens
- Gallaf fewnbynnu data i daenlen.
- Gallaf greu siart bar gyda fy nhaenlen.
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
All Ages
Cymraeg Campus E-mail
Write, or contribute to, an email in Welsh about their favourite Welsh musician or TV character.
All Ages
St David's Tale
The history of St David, and the tale of the sermon on the hill, is an important part of our history. By using their mouse control and typing skills, pupils can retell the story.
Nursery to Year 4
Survey for Wales
Use your digital skills to conduct a survey to discover the favourite Welsh object of the class!
Yr 2 + KS2
St David - The Movie
We need a trailer for 2020's blockbuster movie - 'St David - The Movie'!
Nursery to Year 4
Photo Bingo
Here's an actvity to practise photo taking that can be used with pupils from Nursery into KS2.
Yr 2 + KS2
Search for Dewi
Here's a chance to focus on good searching skills, finding pictures and information quickly and effectively.