Menu

Canllaw i TwT 360

Ein Adnoddau

Mae gan TwT 360 gasgliad o wahanol adnoddau i'ch helpu chi, yr athrawon. Dyma'r tair prif ardal:

Asgwrn cefn TwT 360. Mae gan y Safle Sgiliau dros 200 o weithgareddau, y cyfan yn gysylltiedig gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a grwpiau blwyddyn. Mae yna gyfarwyddiadau cam wrth gam, enghreifftiau o waith a chanllawiau fideo i’ch helpu i weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Nadolig, Rygbi’r Chwe Gwlad, Calan Gaeaf, Diwrnod Santes Dwynwen – drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n creu casgliad o weithgareddau ar themâu i chi eu cyflwyno i’ch dosbarth. Mae yna weithgareddau i bob oedran, gydag enghreifftiau o sut i symleiddio neu ymestyn yr her.
Hyfforddiant byw ar-lein pob wythnos o'r tymor, gyda'r opsiwn o wylio ar-alw pan yn gyfleus i chi. Mae sesiynau ar offer digidol penodol (e.e. Cyflwyniad i Google Classroom), ar sgiliau digidol penodol (e.e. Addysgu Taenlenni yn CA2) ac yn canolbwyntio ar pedagogeg (e.e. Adborth Effeithiol Ar-lein). Mae angen tanysgrifiad TwT Byw i ymuno gyda'r hyfforddiant

Adnoddau Allanol

Rydyn ni wedi creu TwT 360 i’ch helpu i gyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn eich dosbarth. I gyflawni’r nod honno, rydyn ni bob amser wedi sicrhau bod ein gweithgareddau’n gydberthynol i ychydig o ddogfennau a safleoedd allweddol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, ei phartneriaid a rhai o’r consortia rhanbarthol. Dyma ddolenni i’r dogfennau a’r safleoedd hynny:

Hwb
Rydyn ni’n dyfynnu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar bob tudalen o’n Safle Sgiliau i sicrhau eich bod yn deall pa elfen y mae’r gwahanol weithgareddau yn eu diwallu. Rydyn ni hefyd yn ceisio esbonio pob elfen mewn Cymraeg clir heb y jargon.
EAS Skills Framework

Sgiliau TGCH y GCA

GCA De Ddwyrain Cymru
Mae cryn dipyn o’n hadrannau ‘Sgil wrth Sgil’ yn cynnwys sgiliau a gymerwyd o’r cyn-Fframwaith Sgiliau TGCh GCA ardderchog a gynhyrchwyd gan gonsortiwm de ddwyrain Cymru.
SWGfL
Dyma adnawdd ar fod yn ddiogel a chyfrifol ar-lein a grewyd gan Grid Dysgu y De Orllewin ar ran Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n cysylltu gyda nifer o’i wersi yn yr adrannau Dinasyddiaeth yn y Safle Sgiliau.