Rydych yn tanysgrifio i TwT 360 ar ran eich ysgol. Mae'n rhaid i chi sicrhau caniatâd y Pennaeth neu ddeiliad y gyllideb cyn cofrestru.
Wedi i chi danysgrifio, bydd eich ysgol yn derbyn anfoneb o fewn 15 diwrnod. Mae'n rhaid talu'r anfoneb o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad arno.
Mae dyletswydd arnoch chi, a holl staff eich ysgol, i gadw eich manylion mewngofnodi yn breifat a pheidio a'u rhannu a phobl sydd ddim ar staff yr ysgol.
Mae tanysgrifiad i TwT 360 yn para am 12 mis. Ar ddiwedd y cyfnod tanysgrifio, bydd dewis gan yr ysgol i adnewyddu ei danysgrifiad am y pris cyfredol.