Menu

Cwestiynnau Cyffredin

Cyffredinol

TwT 360 ydy eich canllaw i ddefnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth cynradd, yn canolbwyntio ar weithredu Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cymru. Defnyddiwch ein Safle Sgiliau i ddarganfod casgliad enfawr o weithgareddau ar gyfer pob elfen o’r Fframwaith, ac yna gwyliwch ein canllawiau fideo Apiau Allweddol neu edrychwch drwy ein gweithgareddau tymhorol.

Mae pob gweithgaredd, erthygl a fideo yn TwT 360 wedi cael eu creu gan athrawon cynradd Cymru sydd yn dal i weithio yn y dosbarth. Mewn gwirionedd mae pob gair ar yr holl safle (yn cynnwys y rhain) wedi cael eu hysgrifennu gan athrawon. Mae hyn yn golygu bod ein holl weithgareddau yn addas ar gyfer athrawon cyffredin mewn ystafelloedd dosbarth cyffredin ac mae hefyd yn golygu nad ydym yn defnyddio jargon technegol.

Wrth gwrs! Mae dolen i  nifer o esiamplau ar ein prif dudalen.

Mae gweithio yn ddwyieithog yn bwysig iawn i ni fel cwmni. Mae pob adnodd ar TwT 360 ar gael yn y Gymraeg neu'r Saesneg (a gallwch symud nôl ac ymlaen rhwng yr ieithoedd.). Pob gair, pob gweithgaredd, pob fideo, popeth.

Mae TwT 360 yn cael ei ddiweddaru’n gyson. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael mynediad i gynnwys newydd bob mis, a hefyd gallwch fod yn sicr y bydd y gweithgareddau a’r wybodaeth yn cael eu diweddaru os a phan fydd newidiadau’n cael eu wneud i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol neu i gwricwlwm Cymru.

Wrth gwrs! Unwaith y byddwch wedi cofrestru, fe fyddwch yn cael un set o fanylion mewngofnodi ar gyfer eich ysgol gyfan. Gellir rhannu hyn ymysg yr holl athrawon a’r cynorthwywyr dysgu (ond nid gydag ysgol arall)).

Mae hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gael (yn Gymraeg neu yn Saesneg) ar unrhyw agwedd o Dechnoleg Addysgol drwy ein safle partner: mraaron.cymru

Mae mraaron.cymru yn darparu hyfforddiant ar TwT 360 ac ar unrhyw agwedd o dechnoleg yn y dosbarth a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Cofrestru a Costau

Mae gan TwT 360 ddwy haen brisio yn dibynnu ar faint eich ysgol. Rydyn ni’n gweithio fel gwasanaeth tanysgrifio oherwydd bod ein cynnwys yn cael ei ddiweddaru’n fisol ac felly mae’n eich galluogi i fod yn sicr bod yr hyn rydych chi’n ei dderbyn bod amser wedi’i ddiweddaru gydag unrhyw newidiadau i’r Fframwaith a’r cwricwlwm yng Nghymru. Gweler y dudalen ‘ymuno’ yn y fwydlen uchod am brisiau cyfredol.

Mae ysgolion sydd wedi derbyn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus gan mraaron.cymru yn y 12 mis blaenorol yn gymwys i gael disgownt o 10% pellach oddi ar eu blwyddyn gyntaf.

Hefyd mae pecynnau disgownt ar gael os ydy clystyrau cyfan eisiau tanysgrifio gyda’i gilydd. Os felly, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda@twt360.com i gael dyfynbris.

Unwaith y byddwch wedi derbyn caniatâd gan eich Pennaeth neu ddeiliad eich cyllideb, ewch i’n tudalen gofrestru (dolen isod) a llanwch fanylion yr ysgol. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, fe fyddwch yn cael mynediad ar unwaith i TwT 360 ac anfonir anfoneb i’ch ysgol o fewn 15 diwrnod. Gellir talu gyda siec neu drosglwyddo taliad.

Fe fydd gan eich ysgol un mewngofnodyn ac un cyfrinair y gellir eu rhannu ymysg eich holl staff. Fe ddylai’r arweinydd tehcnoleg neu’r Pennaeth yn eich ysgol gadw’r manylion yn ddiogel fel bod modd iddyn nhw eu rhoi i urhyw staff sydd wedi eu hanghofio. Os ydy eich ysgol gyfan yn anghofio’r cyfrinair gellir ei ailosod drwy e-bostio post@twt360.com