Menu

Preifatrwydd

Termau mewn Cymraeg Clir

Casglu Data

Data Gennych Chi

Pan ych chi yn cofrestru, rydym yn cadw data megis eich enw, ebost, swydd ac ysgol. Rydym hefyd yn cadw cofnod o ddata yr ydych yn ei gynnwys mewn ebyst neu alwadau ffôn gyda ni

Data o Ddefnydd y Wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu data am ddefnydd y wefan (e.e. pa ran o'r wefan sydd fwyaf poblogaidd). Mae Google Analytics yn casglu eich cyfeiriad IP, ond nid ydym ni yn gallu defnyddio'r data yma i'ch adnabod.

Defnydd o'r Data

Rydym yn defnyddio'r data yma i gysylltu â chi, i'ch galluogi chi i fewngofnodi, i wella'r wefan ac ar gyfer ein cofnodion mewnol. Ar gyfer storio ein cofnodion mewnol rydym yn gallu cadw eich data ar feddalwedd 3ydd parti.

Briwsion (Cookies)

Beth ydy nhw?

Ffeiliau pitw yw Briwsion, sydd yn cael eu harbed ar eich cyfrifiadur ac sy'n gadael i wefannau wybod pam fod yr un person yn dod 'nôl i'r safle. 

Defnydd o Friwsion

Rydym yn defnyddio Briwsion i'ch galluogi chi i fewngofnodi ac i wella ein data o ddefnydd y wefan.

Rheoli Briwsion

Mae yn bosib i chi, drwy osodion eich porwr, wrthod Briwsion gan wefannau, ond, os ydych yn gwneud hyn, fe fydd hi'n amhosib mewngofnodi i'r wefan.

Arall

Rheoli eich Data

Gallwch gysylltu â ni unrhywbryd a gofyn i weld neu ddileu'r data rydym yn ei gadw arnoch. I wneud hyn, cysylltwch â post@twt360.com

Diogelu Data

Rydym yn defnyddio systemau diogelwch electronig a corfforol i ddiogelu eich data. (e.e. nid oes gan staff TwT 360 y gallu i weld eich cyfrinair.)

Dolenni Allanol

Mae rhai dolenni ar ein gwefan yn eich arwain i wefannau allanol, sydd ddim o dan ein rheolaeth. Cofiwch ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw cyn rhannu data a'u gwefannau.

20161118_141908

Telerau ac Amodau Llawn