Cannoedd o weithgareddau i weithredu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cymru yn eich ysgol gynradd.
200+ o weithgareddau, cyfarwyddiadau, canllawiau fideo a mwy.
Rydyn ni’n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddio technoleg yn eich ystafell ddosbarth.
Mae TwT 360 wedi cael ei greu gan athrawon, ar gyfer athrawon. Ein nod ydy gweld bod pob athro/athrawes ym mhob ysgol yng Nghymru’n teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio technoleg yn eu gwersi ac rydyn ni wedi creu’r gweithgareddau, a'r canllawiau yn TwT 360 i gyflawni hynny. Os ydych yn hyderus mewn technoleg neu yn ochelgar ohono, fe fydd TwT 360 yn sicrhau nad ydych chi na’ch ysgol fyth yn brin o ddulliau effeithiol a syml o’i gynnwys yn eich gwersi.
Beth yw TwT 360?
Ers lansio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a gyda’r cwricwlwm newydd ar y gorwel, mae sgiliau digidol wedi dod yn flaenoriaeth i’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yng Nghymru. O ystyried yr holl bwysau amser ar athrawon, mae nifer yn ei chael yn anodd neilltuo amser i weithredu’r holl elfennau a’r sgiliau angenrheidiol.
Mae TwT 360 yma i helpu! Mae ein hathrawon wedi creu cannoedd o weithgareddau, pob un yn dilyn briff syml:
- Wedi’u creu’n benodol i gyflawni elfennau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
- Wedi’u hysgrifennu mewn iaith syml, hawdd ei dilyn.
- Mae modd eu haddasu i unrhyw thema neu bwnc.
Rydyn ni’n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddio technoleg yn eich ystafell ddosbarth.
Mae pob gair yn TwT 360 wedi’i ysgrifennu gan athrawon mewn ysgolion cynradd yng Nghymru sydd â’r profiad o hyfforddi athrawon i ddefnyddio technoleg yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r gweithgareddau a’r canllawiau yn TwT 360 wedi cael eu creu yn benodol i gyflwyno ac atgyfnerthu sgiliau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.