Taenlenni
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
Gweithgaredd 1
Arian Gwyliau
Fe fydd y disgyblion yn creu taenlen ar gyfer cwmni cyfnewid arian, gan ei gwneud yn haws i drosi punnoedd yn arian cyfred eraill. Gall y gweithgaredd yma ymddangos yn heriol ar yr olwg gyntaf, ond peidiwch â phoeni, y cyfan sydd ei angen ydy ychydig o ffiormiwlâu syml.
Paratoi:
- Gwnewch y gweithgaredd eich hun i ddechrau, fel eich bod wedi ymgyfarwyddo gyda’r hyn y bydd y disgyblion yn ei wneud a hefyd dangoswch enghraifft iddyn nhw ar ddechrau’r gweithgaredd.
Gweithgareddau:
- Esboniwch beth mae busnes cyfnewid arian yn ei wneud a phryd y byddech yn defnyddio un.
- Dangoswch eich taenlen enghreifftiol i’r disgyblion, gan amlygu’r fformiwla allweddol (gweler y ddolen isod) a’r ffaith bod swm y punnoedd yn newid holl symiau’r arian cyfred eraill.
- Atgoffwch y disgyblion sut i fformatio’r gwahanol gelloedd i ddangos dyddiad neu arian cyfred. Nodwch hefyd lle mae’r botwm fformiwla ar y bar offer. Fe ddylen nhw wybod hyn o’u gweithgareddau ym Mlwyddyn 4.
- Gofynnwch i’r disgyblion greu eu fersiwn eu hunain o’r daenlen gan ddefnyddio cyfraddau cyfnewid cyfredol. (Gellir darganfod y rhain yn hawdd ar y we gyda gwefannau fel xe.com.) Rhowch gyfle iddyn nhw dalgrynnu i fyny i ddau bwynt degol.
- Gofynnwch iddyn nhw faint fydden nhw’n ei dderbyn yn yr amrywiol arian cyfred ar gyfer gwahanol symiau o bunnoedd. Fe ddylen nhw fewnbynnu’r symiau punnoedd yma i’w taenlen i weld y newidiadau sy’n digwydd.
Sut i Greu Taenlen Cyfnewid Arian
Gweithgaredd 2
Fy Nghalon yn Curo
Fe fydd y disgyblion wedi creu bariau graff o’u taenlenni yn y gorffennol. Mae’r gweithgaredd yma yn symud ymlaen i siartiau llinell ac ar yr un pryd yn ychwanegu rhai agweddau amlgyfryngau. Mae’n weithgaredd ardderchog i’w gyfuno gydag uned gwyddoniaeth sydd yn mesur newidiadau dros gyfnod o amser (yn yr eghraifft yma, curiad eich calon).
Paratoi:
- I ddechrau ewch dros y gweithgaredd yma eich hun fel eich bod yn gallu creu enghraifft ar gyfer eich disgyblion a’u helpu pan fo angen.
Gweithgareddau:
- Cynlluniwch a chynhaliwch arbrawf ar effaith ymarfer ar guriad y galon. Cyfrwch guriadau eich calon fesul munud (cyfrwch am 20 eiliad a lluoswch gyda 3) cyn ymarfer, yn syth wedi hynny ac yna bob 1 munud hyd nes y mae curiad y galon yn dychwelyd i lefelau cyn ymarfer.
- Cofnodwch y canlyniadau mewn tabl syml ar eich taenlen. Dylai un golofn fod ar gyfer yr amser sydd wedi mynd heibio, un arall ar gyfer curiad y galon fesul munud.
- Amlygwch y ddwy golofn a defnyddiwch y swyddogaeth ‘Creu Graff’ i wneud siart llinell.
- Gwnewch yn siŵr bod y ddwy echel wedi’u labelu’n gywir a bod teitl i’r graff.
- Mewnosodwch ddelweddau i’w rhoi wrth ymyl y tabl (delweddau maen nhw wedi eu cymryd yn ystod yr ymchwiliad, neu ddelweddau o’u gwaith cynllunio fyddai orau.)
Cofiwch
- Dydy taenlenni ddim mor gymhleth ag y mae pobl yn ofni. Cymrwch eich amser gyda’r gweithgaredd yma ac arweiniwch eich disgyblion gam wrth gam ac fe fydd yn hawdd – iddyn nhw ac i chithau!