Menu

Telerau ac Amodau

Yma yn TwT 360, rydym yn hoff iawn o siarad Cymraeg clir. heb guddio ein telerau mewn iaith gyfreithiol, cymhleth. Felly, tra bod yr holl amodau cyfreithiol pwysig isod (gweler Cytundeb a Pholisi Preifatrwydd), gallwch hefyd ddefnyddio'r dolenni yma i gael esboniad ar y pwyntiau allweddol.

Hawlfraint

Hawlfraint

Gwybodaeth am ein telerau Hawlfraint mewn Cymraeg clir.

Tanysgrifiad

Tanysgrifiad

Gwybodaeth am ein telerau Tanysgrifio mewn Cymraeg clir.

Atebolrwydd

Atebolrwydd

Gwybodaeth am ein telerau Atebolrwydd mewn Cymraeg clir.

Preifatrwydd

Preifatrwydd

Gwybodaeth am ein telerau Preifatrwydd mewn Cymraeg clir.

Cytundeb Cyfreithiol ar gyfer Trwyddedu Cynnwys

Dyma’r telerau cytundeb rhyngddoch Chi a Pherchennog TwT360.com. Trwy ddefnyddio TwT360.com rydych Chi yn cytuno gyda’r telerau a’r amodau yn llawn. Gallwn Ni (y Perchnogion) addasu’r Cytundeb yma ar unrhyw adeg; fe fyddwn yn postio unrhyw newidiadau neu fersiynau newydd o’r Cytundeb yma ar y wefan hon. Trwy barhau i ddefnyddio TwT360.com fe fyddwch Chi yn cytuno gyda’r telerau newydd o’r funud y maen nhw’n cael eu postio yma. Mae’r Cytundeb yma mewn grym cyn hired â’ch bod Chi yn parhau i danysgrifio neu i ddefnyddio TwT360.com

Diffiniadau Pwysig

Mae "Y Perchennog", "Ni", ac "Ein" yn cyfeirio at TwT 360 Cyf. Rhif Cwmni: 10828975 sydd yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr yn Bodryn, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5TN.

Mae "Ysgol Tanysgrifio" yn cyfeirio at ysgol sydd wedi cofrestru gyda TwT360, wedi talu’r holl anfonebau dyledus a lle nad ydy eu cyfnod tanysgrifio wedi dod i ben.

Mae "TwT360.com" yn cyfeirio at y tudalennau cyhoeddus a'r tudalennau aelodau yn unig o wefan twt360.com

Mae "Cynnwys" yn cyfeirio at yr holl wybodaeth, delweddau, fideos, dogfennau a phob ffurf arall o gynnwys sydd ar gael ar TwT360.com

Mae “Eich”, "Chi" a “Chi eich Hun/Hunain” yn cyfeirio at bwy bynnag sydd yn mynd i mewn ac/neu yn gwneud defnydd o wefan a deunyddiau gwefan TwT360.com.

Hawlfraint

Mae’r holl gynnwys ar TwT360.com yn parhau yn eiddo neilltuedig i Ni ac rydym Ni yn cadw’r holl hawlfraint ar gyfer yr holl Gynnwys.

Trwy danysgrifio i TwT360.com, rydych Chi (a’r holl staff sydd ar hyn o bryd yn gyflogedig yn Eich Ysgol Tanysgrifiol) yn cael caniatâd i edrych ar y Cynnwys a’i ddefnyddio yn unig i ddibenion addysgol yn yr Ysgol Tanysgrifio.

Ni allwch rannu, na gwneud Eich manylion mewngofnodi nac unrhyw Gynnwys ar gael i unrhyw berson i’w weld nad yw ar hyn o bryd yn gyflogedig yn Eich Ysgol Tanysgrifio.

Pan nad ydy person bellach yn gyflogedig yn Eich Ysgol Tanysgrifio does ganddo/i ddim caniatâd mwyach i fewngofnodi i Gynnwys TwT360.com na chwaith i gael mynediad iddo mewn unrhyw ffordd.

Mae Hawlfraint TwT 360 Cyf ar yr holl Gynnwys yn goroesi terfyniad y Cytundeb yma ac yn parhau dros y cyfnod cyfreithiol llawn o hawlfraint ledled y byd.

Tanysgrifiadau

Trwy gofrestru gyda TwT360.com rydych Chi yn cytuno:

  • Eich bod Chi yn cofrestru ar ran Eich ysgol a bod gennych Chi y caniatâd angenrheidiol i wneud hynny.
  • Eich bod Chi/Eich ysgol yn deall y bydd anfoneb yn cael ei hanfon i’ch ysgol Chi o fewn 15 diwrnod a rhaid ei thalu o fewn 30 diwrod o ddyddiad yr anfoneb. Nid oes modd cael ad-daliad ar y taliad yma.
  • Bod eich ysgol Chi yn tanysgrifio am 12 mis, ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw fe fydd gennych Chi/Eich Ysgol ddewis i adnewyddu’r tanysgrifiad.
  • Os nad ydy eich ysgol Chi yn adnewyddu’r tanysgrifiad ar ddiwedd eich cyfnod tanysgrifio Chi, caiff eich cyfrif ei ohirio ac ni fyddwch Chi/Eich ysgol yn gallu mewngofnodi.
  • Rydych Chi, a holl staff yn eich ysgol Chi, yn gyfrifol am gadw eich manylion mewngofnodi yn ddiogel ac nad ydy'r manylion mewngofnodi yn cael eu datgelu i bersonau neu sefydliadau anawdurdodedig.

Rhwymedigaeth

Canllaw yn unig ydy’r Cynnwys ar TwT360.com. Eich dyletswydd Chi fel sefydliad addysgol ac fel gweithwyr addysg proffesiynol ydy defnyddio Eich barn a’ch arbenigedd wrth benderfynu sut i ddefnyddio’r canllaw hwnnw yn Eich ysgol.

Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw warantau o unrhyw fath, naill ai yn ddatganedig nac yn oblygedig, bod y Cynnwys yn gywir, cyfredol neu gyflawn.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled sydd yn digwydd o ganlyniad i ddefnyddio TwT360.com. Os ydych yn dymuno gwneud unrhyw hawliad erbyn unrhyw ddefnyddiwr arall yn deillio o’u defnydd o TwT360.com, fe fyddwch Chi yn dilyn hawliad o’r fath yn unig yn eu herbyn nhw, yn annibynnol oddi wrthym ni.

Ni allwn addo y bydd TwT360.com bob amser ar gael nac y byddwch Chi yn gallu cael mynediad iddo ar bob adeg.

Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data TwT 360

Manylion allweddol

Mae polisi preifatrwydd y wefan hon yn disgrifio sut mae TwT 360 Cyf yn diogelu ac yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i’r cwmni pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth pan yn defnyddio’r wefan hon, fe’i defnyddir yn unig yn y dulliau a ddisgrifir yn y polisi preifatrwydd hwn.

Caiff y polisi hwn ei ddiweddaru o dro i dro. Cyhoeddir y fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon.

Diweddarwyd polisi preifatrwydd y wefan hon ar: 19 Mehefin 2018

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, e-bostiwch post@twt360.com os gwelwch ydda.

Cyflwyniad

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth neilltuol am unigolion er mwyn darparu gwasanaethau ac i alluogi rhai swyddogaethau neilltuol ar y wefan hon.

Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth i ddeall yn well sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan hon ac i gyflwyno gwybodaeth amserol, berthnasol iddyn nhw.

Data

Pa ddata rydyn ni’n gasglu

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw, teitl swydd a lleoliad cyflogaeth
  • Gwybodaeth gyswllt yn cynnwys cyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth demograffig fel cod post, dewisiadau a diddordebau
  • Data defnyddio gwefan (yn cynnwys cyfeiriadau protocol rhyngrwyd)
  • Gwybodaeth arall yn berthnasol i ymholiadau cleientiaid (e.e. pan fyddwch yn ein ffonio neu yn anfon neges e-bost atom)

Sut rydyn ni’n defnyddio’r data yma

Mae casglu’r data yma yn ein helpu i ddeall am beth yr ydych chi’n chwilio gan y cwmni, a’n galluogi i ddarparu gwell cynnyrch a gwasanaethau.

Yn benodol, gallwn ddefnyddio data:

  • Ar gyfer ein cofnodion mewnol ein hunain.
  • I wella’r cynnyrch a’r gwasanaethau a ddarparwn.
  • I gysylltu gyda chi mewn ymateb i ymholiad.
  • I addasu’r wefan ar eich cyfer.
  • I anfon e-byst hyrwyddo am gynnyrch, gwasanaethau, cynigion a phethau eraill yr ydym yn meddwl allai fod yn berthnasol i chi.
  • I anfon gohebiaeth hyrwyddo cynnyrch, gwasanaethau, cynigion a phethau eraill yr ydym yn meddwl allai fod yn berthnasol i chi drwy’r post.
  • I gysylltu gyda chi drwy e-bost, ffôn neu’r post am resymau ymchwil marchnad.

Briwsion a sut rydyn ni’n eu defnyddio

Beth ydy Briwsion (Cookies)?

Ffeil fechan ydy Briwsion sydd yn cael ei gosod ar yrrwr caled eich cyfrifiadur. Mae’n galluogi ein gwefan i adnabod eich cyfrifiadur wrth i chi edrych ar wahanol dudalennau ar ein gwefan.

Mae Briwsion yn galluogi gwefannau ac aps i storio eich dewisiadau er mwyn cyflwyno cynnwys, dewisiadau neu swyddogaethau sydd yn benodol i chi. Maen nhw hefyd yn ein galluogi i weld gwybodaeth fel faint o bobl sydd yn defnyddio’r wefan a pha dudalennau maen nhw’n tueddu i ymweld â nhw.

Sut rydyn ni’n defnyddio Briwsion

Gallwn ddefnyddio Briwsion i:

  • Dadansoddi traffig ein gwefan drwy ddefnyddio pecyn dadansoddi. Mae data defnydd yn ein helpu i wella strwythur, dyluniad cynnwys a swyddogaethau’r wefan.
  • Adnabod os ydych wedi mewngofnodi i’n gwefan. Mae Briwsion yn ein galluogi i wirio os ydych wedi mewngofnodi i’r safle.
  • Profi cynnwys ar ein gwefan. Er enghraifft, efallai bod 50% o’n defnyddwyr yn gweld un darn o gynnwys, a’r 50% arall yn gweld darn gwahanol o gynnwys.
  • Cadw gwybodaeth am eich dewisiadau. Yna gall y wefan eich cyflwyno gyda gwybodaeth a fydd fwyaf perthnasol a diddorol i chi
  • Adnabod pryd y byddwch yn dychwelyd i’n gwefan, a pha dudalennau ydych yn ymweld â nhw.
  • Efallai y byddwn yn dangos cynnwys perthnasol i chi neu yn darparu nodweddion yr ydych wedi’u defnyddio o’r blaen.

Dydy Briwsion ddim yn darparu mynediad inni i’ch cyfrifiadur nac i unrhyw wybodaeth amdanoch, ac eithrio’r hyn yr ydych chi yn dewis ei rannu gyda ni.

Rheoli Briwsion

Gallwch ddefnyddio gosodiadau Briwsion eich porwr we i benderfynu sut mae ein gwefan yn defnyddio Briwsion. Os nad ydych eisiau i’n gwefan storio Briwsion ar eich cyfrifiadur neu ddyfais, dylech osod eich porwr we i wrthod Briwsion.

Ond noder, gall gwneud hynny effeithio ar sut mae eich gwefan yn gweithio. Efallai na fydd rhai tudalennau a gwasanaethau ar gael i chi.

Oni bai eich bod wedi newid eich porwr i wrthod Briwsion, fe fydd ein gwefan yn defnyddio Briwsion pan fyddwch yn ymweld.

I ddysgu rhagor am cwcis a sut y maen nhw’n cael eu defnyddio ewch i  All About Cookies.

Rheoli gwybodaeth amdanoch chi

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen neu yn darparu eich manylion ar ein gwefan, gallwch weld un neu ragor o flychau ticio sydd yn eich galluogi i:

  • Dewis derbyn cyfathrebiadau marchnata oddi wrthym drwy e-bost, ffôn, negeseuon testun neu’r post.

Os ydych wedi cytuno y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth i ddibenion marchnata, gallwch newid eich meddwl yn hawdd drwy un o’r dulliau yma:

  • Anfon e-bost at post@twt360.com

Ni fyddwn fyth yn prydlesu, dosbarthu na gwerthu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd neu bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol inni wneud hynny.

Caiff unrhyw wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei gadw amdanoch chi ei storio a’i brosesu o dan ein polisi diogelu data yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Diogelwch

Fe fyddwn bob amser yn dal eich gwybodaeth yn ddiogel.

I atal datgeliad neu fynediad anawdurdodedig i’ch gwybodaeth, rydym wedi gweithredu mesurau diogelwch corfforol ac electronig cryf

Rydym hefyd yn dilyn gweithdrefnau llym i sicrhau ein bod yn gweithio gyda’r holl ddata personol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Dolenni o’n safle

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill

Noder nad oes gennym unrhyw reolaeth dros wefannau y tu allan i barth twt360.com. Os ydych yn darparu gwybodaeth i wefan y mae gennym ddolen â hi, dydyn ni ddim yn gyfrifol am ei diogelwch a’i phreifatrwydd.

Byddwch yn ofalus bob amser wrth gyflwyno data i wefannau. Darllenwch bolisïau diogelwch a phreifatrwydd y safle yn llawn.

(Addaswyd ein Polisi Priefatrwydd o dempled a ddarparwyd gan TechDonut)