Cydweithio
2.2
Barod i Danysgrifio?
Barod i Danysgrifio?
Gweithgaredd 1
Cyflwyno ar y Cyd
Mae’r Fframwaith yn tybio y bydd gan y disgyblion rhywfaint o brofiad o dechnoleg cydweithio ers Blwyddyn 2, ond mae technoleg o’r fath yn newydd ac i nifer o ddisgyblion hwn fydd eu blas cyntaf o hynny. Rydyn ni felly yn dechrau gyda gweithgaredd syml y mae plant wrth eu bodd ag ef, ac sydd yn cynhyrchu gwaith nodedig!
Paratoi:
- Sicrhau bod gan pob plentyn fewngofnodion i feddalwedd cyflwyno ar y cyd (Office 365 neu Google Slides).
- Creu un cyflwyniad gwag i bob pâr neu grŵp o dri. Rhannu hynny gyda’u cyfrifon.
- Er mwyn eu galluogi i ganolbwyntio ar y sgiliau technoleg, naill ai gofynnwch i’r disgyblion ymchwilio i bwnc o wers flaenorol neu rhowch gardiau ffeithiau iddyn nhw.
Gweithgareddau:
- Atgoffwch nhw o’r pwnc y byddan nhw’n ei gyflwyno. Trafodwch beth sydd mewn cyflwyniad ardderchog (gweler '3.2b Cyflwyno')
- Grwpiau’n trafod sut y byddan nhw’n rhannu’r gwaith. (e.e. un sleid yr un neu un yn ysgrfennu’r testun ac un arall yn ychwanegu delweddau a dyluniad).
- Ar ddyfeisiadau ar wahân, mae’r disgyblion yn mewngofnodi i’w cyfrifon Office 365 neu Google ac yn agor y cyflwyniad gwag y gwnaethoch ei rannu.
- Creu cyflwyniad grŵp gan ddefnyddio’r holl nodweddion a drafodwyd yn '3.2b Cyflwyno'.
- Cyflwyno i weddill y dosbarth.
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
- Unwaith y bydd y disgyblion yn gallu creu cyflwyniad ar y cyd, mae hwn yn sgil y gallan nhw ei ddefnyddio’n aml ar draws y cwricwlwm.
Gweithgaredd 2
Disgrifio ar y Cyd
Mae’r gweithgaredd yma’n llai strwythuredig na’r gweithgaredd cyflwyno ac mae felly’n fwy tebygol o greu dryswch wrth i un disgybl deipio dros un arall! Mae’n ffordd ardderchog iddyn nhw ddysgu bod yn amyneddgar a thrafod pwy sy’n teipio yn lle.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion gyfrifon mewngofnodi ar gyfer meddalwedd cydweithio (Office 365, Google Docs neu mae Purple Mash yn gwneud y tro yn iawn).
- Lawlwythwch ac ymgyfarwyddwch gyda’r ap am ddim, Epic Citadel. (Ond yn gweithio ar hen iPads. Fel arall, darganfyddwch lun da o Google)
Gweithgareddau:
- Rhowch gyflwyniad ar ansoddeiriau, rhagddodiaid ac/neu ferfau ac adferfau.
- Gadewch i’r disgyblion gerdded o amgylch y ddinas ar yr ap iPad 'Epic Citadel'. Tywyswch nhw o amgylch y ddinas ac ar y bont. Treuliwch amser yn edrych ar furiaur ddinas, y tyrrau uchel a’r afon islaw.
- Rhannwch un ddogfen brosesu geiriau wag gyda chyfrifon yr holl ddisgyblion (Word 365 / Google Docs / 2Write).
- Gofynnwch i bob disgybl, ar ddyfeisiadau ar wahân, i ysgrifennu dwy frawddeg ddisgrifiadol ar y ddogfen ar y cyd. Fe ddylid annog y disgyblion i ddarllen cydfraniadau’r disgyblion eraill a defnyddio eu geiriau a’u syniadau i greu brawddegau hyd yn oed yn well.
- Lluniwch ddisgrifiad dosbarth gan ddefnyddio rhai or brawddegau a ddarparwyd.
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisidau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
Gweithgaredd 3
Ychwanegu at y Gronfa Ddata
Yn 4.2 'Llythrennedd Gwybodaeth a Data' mae’r gweithgaredd 'Ychwanegu cofnodion at gronfa ddata’ ar gael. Gan ddefnyddio Purple Mash neu J2Data gallwch newid hyn yn weithgaredd cydweithio. (Mae hyn hefyd yn bosibl gyda MangoData i ysgolion, sydd â meddalwedd ardderchog er ei fod wedi dyddio).
Fe fyddwch yn creu un cronfa ddata, gyda phob disgybl yn ychwanegu eu cofnodion i’r gronfa ddata.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion gyfrifon mewngofnodi ar gyfer meddalwedd cronfa ddata (Purple Mash neu J2Data).
- Lluniwch gronfa ddata mewn 2Investigate neu J2Data, a chynnwys dewisiadau ar gyfer Enw, Oedran, Lliw Gwallt, Lliw Llygaid, Hoff Fwyd ac unrhyw faes arall yr hoffech ei ychwanegu.
- Arbedwch y gronfa ddata mewn ffeil y gall eich disgyblion ei hagor (e.e. Ffeil Dosbarth).
Awgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau
- Y disgyblion yn ychwanegu eu cofnod neu gofnodion eu hunain i’r gronfa ddata, gan greu cronfa ddata fawr, ar y cyd.
- Gofyn i’r disgyblion chwilio’r gronfa ddata gyda chwestiynau fel "Faint o ddisgyblion sydd â gwallt golau?", "Faint o blant 8 oed sydd yn ein dosbarth?"
Cofiwch:
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Purple Mash neu J2E eto, mae’n hen bryd iddyn nhw wneud hynny. Mae’r J2E am ddim trwy Hwb a gellir talu tanysgrifiad i gael Purple Mash. Soniwch am hyn wrth yr Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth cyn gynted â phosibl!
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro,
- Edrychwch ar y gweithgaredd cronfa ddata yn 4.2 Llythrennedd Gwybodaeth a Data' am olwg manylach ar gronfeydd data.