Blwyddyn Newydd Tsieineaidd
Tymhorol
Mae'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn glanio ar Chwefror 5ed eleni. mae'n gyfle gwych i gyflwyno'ch disgyblion i draddoiadau, hanes a diwylliant cyfoethog Tsieina tra hefyd yn ymarfer eu sgiliau digidol.
Tair Iaith
Mandarin yw iaith fwyaf poblogaidd y byd, felly beth am ddysgu ychydig ohoni a'i chymharu gyda Chymraeg a Saesneg.
Tair Iaith
CA2
A wyddoch chi fod bron i 15% o bobol y Byd yn siarad Mandarin fel eu hiaith gyntaf? Mae'n hawdd dysgu cwpwl o eiriau a brawddegau!
Gan ddefnyddio Google Translate, disgyblion i ddarganfod geiriau allweddol ym Mandarin (helo, hwyl fawr, bore da, prynhawn da, diolch ayyb).
Cofnodi'r Gymraeg, Saesneg a Mandarin ar gyfer pob gair/brawddeg gan ddefnyddio yn o'r syniadau hyn:
- Copïo a gludo y geiriau mewn i dabl syml ar Google Docs/Word (gallwch ddefnyddio y ddogfen hon os yr hoffech)
- Defnyddio Google Slides neu PowerPoint i greu sleid ar gyfer pob brawddeg. Gallwch ychwanegu fideos YouTube i'r sleid er mwyn clywed y fersiwn Mandarin.
- Os y defnyddiwch Book Creator gallwch ychwanegu clipiau sain (gweler Blwyddyn 3, 3.2 'Creu')
- Gwneud fideo o'u grŵp yn dweud pob brawddeg yn y dair iaith (gweler Blwyddyn 4, 3.2 'Creu')
Gwahaniaethu
Gall sialens y dasg gael ei newid drwy ychwanegu mwy o frawddegau neu, i'w symleiddio, cadw at dabl yn Google Docs/Word yn lle creu sleid neu fideo.
Meini Prawf Llwyddiant
- Rwy'n gallu cyfieithu geiriau gan ddefnyddio cyfieithydd ar-lein.
Prosesu Geiriau
- Rwy'n gallu newid lliw, maint a ffont testun.
- Rwy'n gallu ychwanegu lluniau o'r we ac o'r cyfrifiadur.
Sleidiau/Book Creator
- Rwy'n gallu defnyddio blychau testun, lluniau, fideo a sain i gyflwyniad.
- Rwy'n gallu torri lluniau i' maint cywir.
- Rwy'n gallu newid lliw a golwg cefndir.
Fideo
- Rwy'n gallu ffilmio, lanlwytho i olygydd fideo a'i dorri i ddechrau a gorffen yn y mannau cywir.
- Rwy'n gallu adio teitlau a cerddoriaeth i fy fideo.
Elfennau Fframwaith
Prif Elfen(nau) Fframwaith
3.2 - Creu
Elfen(nau) Fframwaith Eraill
2.2 - Cydweithio
2.3 - Storio a Rhannu
Mapio Tsieina
Blynyddoedd 1-6
Mae Tsieina yn wlad enfawr, gyda dinasoedd yn tyfu mewn maint ar gyflymder anhygoel. Gan ddefnyddio teclynnau mapio, gall eich disgyblion blotio'r dinasoedd hyn ar fap, ac yna, i'r rhai sydd yn barod am sialens, mesur y pellter rhyngddynt.
Blynyddoedd 1/2
- Gan ddefnyddio Google My Maps (ar gael o ddewislen 'Newydd' Google Drive), disgyblion i ddarganfod 5 dinas fwyaf Tsieina (gallwch roi enwau'r dinasoedd iddynt) ac ychwanegu pin i bob un.
- Dylai'r disgyblion ychwanegu llun i'r ddinas i bob pin.
- Trafodwch y gwahaniaeth maint rhwng dinasoedd Tsieina a'n dinasoedd ni yng Nghymru (e.e. mae gan ddinas Guangzhou boblogaeth o 13m, mae hynny fwy na 4 gwaith Cymru gyfan!)
Blynyddoedd 3/4
- Dylai'r disgyblion ddilyn yr un gweithgaredd ag uchod, ond gofynnwch iddyn nhw ddarganfod enwau 5-10 dinas fwyaf Tsieina yn lle rhoi rhestr iddynt.
- Yn Google My Maps, mae'r gallu gan y disgyblion i newid lliw ac eicon pob pin.
Blynyddoedd 5/6
- Dilynwch yr un gweithgaredd a Blynyddoedd 3/4, ond ar ôl rhoi pin ar ddinas ac ychwanegu llun, dylent deipio pwt o wybodaeth (e.e. poblogaeth, prif atyniadau).
- Gan ddefnyddio teclyn mesur Google My Maps (botwm fel pren mesur i dan y blwch chwilio), gall y disgyblion weithio allan y pellter rhwng dinasoedd. Wedyn, dylent fynd i edrych ar Gymru ar y map a gweld pa mor bell o'r ysgol y gallent drafeilio i gyrraedd yr un pellter.
Bonws
Defnyddiwch Google Earth Timelapse i weld sut mae Guangzhou wedi newid dros y tri degawd diwethaf - yn llyncu'r wlad o'i amgylch. Trafodwch pa effaith all y twf yma fod wedi ei gael ar yr amgylchedd a'r bobl sy'n byw yn y ddinas.
Meini Prawf Llwyddiant
Blynyddoedd 1/2
- Rwy'n gallu darganfod dinasoedd ar fap ar-lein.
- Rwy'n gallu nodi lleoliadau ar fap ac ychwanegu lluniau.
Blynyddoedd 3/4
- Rwy'n gallu chwilio ar-lein am wybodaeth syml.
- Rwy'n gallu creu map rhyngweithiol o fannau penodol.
Blynyddoedd 5/6
- Rwy'n gallu chwilio ar-lein am wybodaeth ar leoliadau.
- Rwy'n gallu creu map rhyngweithiol o fannau penodol.
- Rwy'n gallu defnyddio offer ar-lein i fesur pellter rhwng dau bwynt.
Elfen(nau) Fframwaith
Main Framework Element(s)
3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.2 - Creu
Ras Anifeiliaid y Sidydd
Mae Blwyddyn y Mochyn ar fin dechrau, felly beth am godio animeiddiad o stori draddodiadol ras anifeiliaid y Sidydd (Zodiac)?