Menu

Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da

1.1

Cyflwyniad

Mae 'Hunaniaeth, DeIwedd ac Enw Da’ yn golygu cadw ein data personol yn ddiogel ar-lein. Ym Mlwyddyn 1 rydyn ni’n edrych ar yr hyn sydd yn cael ei ystyried yn ‘wybodaeth bersonol a phreifat’ a beth i’w wneud pan fo gwefan yn gofyn amdano.

Fframwaith

1.1 - Hunaniaeth, DeIwedd ac Enw Da

  • deall bod rhai gwefannau'n gofyn am wybodaeth breifat a phersonol, e.e. nodi gwybodaeth breifat a phersonol a thrafod sut i ddelio â cheisiadau am wybodaeth breifat – peidio â datgelu enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, ysgol.

Geirfa

preifat    personol     gwybodaeth    gwefannau

Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.

20161118_141908

Adnodd Diogelwch Ar-Lein SWGfL

Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.

Gweithgareddau

Teitl Gwers 3, Blwyddyn 1 o gynlluniau Diogelwch Ar-lein SWGfL ydy ‘Sicrhau preifatrwydd’ ac mae yna gasgliad o adnoddau a gweithgareddau sydd yn delio’n drylwyr gyda’r elfen yma.