Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth
1.3
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Hyd yn oed ar gyfer yr elfen symlaf yma (y cyfan sydd angen iddyn nhw allu ei wneud ydy ysgrifennu eu henw a’r dyddiad ar eu gwaith) mae cymorth ar gael o adnawdd SWGfL.
Teitl Gwers 4, Blwyddyn 1 o Adnawdd Diogelwch Ar-lein SWGfL ydy ‘Fy Ngwaith Creadigol’ ac mae’n ymwneud â disgyblion yn rhoi eu henwau a’r dyddiad ar eu gwaith.