Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio
1.4
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Esboniwch y gallwn gysylltu yn lleol ac yn fyd-eang gyda thechnoleg digidol ac esboniwch y gwahaniaethau rhwng cyfathrebu arlein ac all-lein.
- Mae Gwers 5, Blwyddyn 1 o Adnawdd Diogelwch Ar-lein Cymru SWGfL yn delio gydag ‘Anfon negeseuon e-bost’.
- Trafodwch sut y mae cyfathrebu ar-lein yn ei gwneud yn llawer haws i gysylltu gyda phobl sydd ymhell i ffwrdd.
Adnabod gwahanol symbolau
- Dangoswch y symbol Clo sydd yn ymddangos ger y bar cyfeiriad pan fyddwch ar wefan ddiogel. Beth mae hyn yn ei olygu? Esboniwch nad ydy hyn yn golygu bod y wefan yn gwbl ddiogel ac y gallwn rannu ein gwybodaeth yn ddiogel. Yr unig beth mae’n ei olygu ydy ei bod yn anoddach i bobl ddrwg hacio’r safle.
- Dangoswch amrediad o emoticonau (emojis). Beth mae pob un yn ei gynrychioli? Nodwch y gall rhai emojis olygu pethau gwahanol i wahanol bobl (e.e. ydy e’n crio o dristwch neu yn chwerthin?) Rhaid inni feddwl yn ofalus am yr hyn y bydd y person sydd yn darllen ein negeseuon yn ei feddwl am ystyr yr emoji.
- Ysgrifennwch neu teipiwch negeseuon caredig i ffrindiau, gan ychwanegu emoji priodol o ddetholiad mae’r athro/athrawes wedi’u dewis.
Defnyddio geiriau a theimladau priodol
- Trafodwch eiriau a gweithredoedd annymunol yn rheolaidd a pham na ddylid eu defnyddio na’u gwneud. Gofynnwch i’r disgyblion sut maen nhw’n teimlo pa bai rhywun yn eu galw’n air annymunol, neu yn ysgrifennu gair annymunol amdanyn nhw ar ddarn o bapur. Nodwch bod geiriau annymunol yr un mor annymunol wrth eu hysgrifennu. Mae’n debygol y byddwch eisoes yn trafod hyn yn eich gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol.