Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.1
Gweithgaredd 1
Cynllunio gyda Map Meddwl
Gellir cyflawni’r agwedd ‘Cynllunio’ o’r elfen yma gydag unrhyw nifer o weithgareddau cynllunio. Rydych yn gwneud y math yma o gynllunio ym mhob pwnc h.y. trafod meini prawf llwyddiant, dangos iddyn nhw sut i’w cyflawni a chreu cynllun ar gyfer eu gwaith o flaen llaw. Does yna ddim angen penodol i ddefnyddio technoleg i’r diben yma. Ond os hoffech wneud hynny, yna ceisiwch ddefnyddio ap fel Popplet i greu map meddwl.
Paratoi:
- Lawlwythwch ap map meddwl (argymhellir Popplet) ar iPads (neu dabledi eraill) neu gwnewch yn siŵr fod gan y disgyblion fewngofnodion Purple Mash i ddefnyddio 2Connect.
Gweithgareddau:
- Beth bynnag fydd eich prif dasg, dangoswch engraifft ohoni i’r disgyblion. Yna dadadeiladwch hi gyda’ch gilydd a chreu meini prawf llwyddiant.
- Mewn parau neu drioedd, gofynnwch i’r disgyblion drafod eu syniad ar gyfer eu tasg.
- Agorwch Popplet a dangoswch i’r disgyblion sut i ddechrau map meddwl, sut i ychwanegu swigod newydd a sut i ychwanegu testun a delweddau.
- Fe ddylai’r disgyblion greu map meddwl fel cynllunio ar gyfer eu tasg, yn cynnwys y gwahanol ganghennau ar gyfer pob agwedd o’r dasg a sicrhau bod y meini prawf llwyddiant yn cael eu crybwyll.
- Allforiwch ddelwedd o’r map meddwl i Camera Roll.
Cofiwch
- Er ei bod yn bwysig bod disgyblion yn dysgu nad oes angen argraffu pob darn o waith, fe ddylid argraffu’r rhan fwyaf o fapiau meddwl er mwyn iddyn nhw allu cyfeirio atyn nhw tra’n gwneud y brif dasg.
- Os mai gwaith unigol ydy’r brif dasg, yna dylid creu mapiau meddwl unigol. Os yw’n waith grŵp yna gallan nhw greu map meddwl grŵp ond mae angen i bawb gael cyfle i ychwanegu cangen a thestun.
Gweithgaredd 2
Allweddeiriau Effeithiol
Mae chwilio ar-lein yn sgil y mae’r rhan fwyaf o oedolion yn ei gymryd yn ganiataol. Ond rydyn ni’n aml yn tybio yn anghywir bod plant yn gallu gwneud hynny hefyd. Mae angen dysgu disgyblion sut i chwilio am wybodaeth benodol trwy ddewis allweddeiriau yn hytrach na theipio brawddegau llawn. Mae’r gweithgaredd yma yn helpu i ddysgu’r sgil yma.
Gweithgaredd:
- Trafodwch ffyrdd o ymchwilio (e.e ar-lein, llyfrau, gofyn i bobl wybodus). Arweiniwch y sgwrs i chwliadau ar-lein ac yna i beiriannau chwilio.
- Esboniwch sut mae peiriannau chwilio yn gweithio. Ar y lefel mwyaf sylfaenol maen nhw’n edrych ar y gwahanol eiriau rydych chi wedi eu teipio ac yn chwilio am wefannau sydd yn cynwys y geiriau hynny. Mae gwefannau sydd â’r geiriau yn y drefn gywir yn ymddangos yn uwch ar y rhestr. Rhaid inni felly ddewis y geiriau mwyaf perthnasol.
- Fel dosbarth fe fyddwch yn creu ffeil ffeithiau ar Mircats. Pa gwestiynau ddylai ei ateb? Gwnewch restr o awgrymiadau’r disgyblion, ac ysgrifennu’r cwestiynau yn llawn fel maen nhw’n eu hawgrymu.
- Dewiswch y frawddeg hiraf a mwyaf hirwyntog, teipiwch hi i mewn i beiriant chwilio (e.e. Google). Defnyddiwch eich profiad o chwilio ar-lein i ddewis cwestiwn na fydd yn rhoi ateb clir.
- Sut y gallwn wella’r chwiliad? Fel dosbarth, dewiswch yr allweddeiriau pwysicaf a chwiliwch eto, gan gael gwell ateb gobeithio na’ch canlyniad cyntaf.
- Mae pob grŵp o ddisgyblion yn dewis un anifail i greu ffeil ffeithiau Fe ddylen nhw chwilio am yr wybodaeth y mae’r dosbarth wedi penderfynu ddylai ymddangos ar y ffeiliau ffeithiau. Yn eu llyfrau fe ddylen nhw ysgrfennu’r cwestiwn gwreiddiol, yr allweddair y gwnaethon nhw ei deipio a’r wybodaeth y gwnaethon nhw ei ddarganfod.
- Yna gallan nhw greu ffeil ffeithiau, o bosibl yn eu llyfrau, efallai trwy greu poster (gweler 3.2a ‘Prosesu Geiriau') neu trwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng arall.
Cofiwch
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn iddyn nhw chwilio am ffeithiau penodol i ateb cwestiynau penodol, nid chwilio’n llac am unrhyw wybodaeth ar bwnc.
- Mae Google wedi gwella cryn dipyn ar ddeall cwestiynau hirwyntog. Fel enghraifft o chwiliad aneffeithiol gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod cwestiwn hirwyntog addas!
- Os ydy Blwch Ateb Google yn ymddangos, esboniwch mai dyma ymdrech Google i gyflymu’r chwiliad.
Gweithgaredd 3
Sgimio Canlyniadau Chwilio
Mae’r gweithgaredd yma yn dilyn ymlaen o’r gweithgaredd Allweddeiriau Effeithiol gan ei fod yn edrych ar sut i ddewis y canlyniad gorau o chwiliad. I symleiddio pethau a chadw’r canlyniadau’n gymharol ragweladwy fe fyddwn yn chwilio y tu mewn i wefan benodol yn hytrach nag yn y prif beiriant chwilio.
Paratoi:
- Darganfod safle sydd ag erthyglau ar gyfer plant a blwch chwilio sy’n gweithio’n dda (argymhellir DK Find Out!)
Gweithgaredd:
- Atgoffwch y disgyblion sut i ddewis allweddeiriau effeithiol, yna arweiniwch nhw at y wefan wybodaeth o’ch dewis chi ('DK Find Out!' a ddefnyddir ar gyfer yr enghraifft yma)
- Dywedwch wrthyn nhw eich bod eisiau darganfod ateb i gwestiwn penodol. I’r enghraffit yma fe fyddwn yn ceisio darganfod pa fwyd yr oedd yr Hen Eifftiaid yn ei fwyta. Teipiwch y cwestiwn llawn ‘Beth oedd yr Hen Eifftiaid yn ei fwyta?’ a dangoswch iddyn nhw nad ydy’r canlyniadau yn berthnasol gan fod y peiriant chwilio wedi canolbwyntio ar y geiriau ‘Beth wnaeth’ a ‘bwyta’ heb roi digon o sylw i’r ‘Hen Eifftiaid’.
- Ceisiwch gyfyngu’r chwiliad trwy deipio ‘Aifft’. Y tro yma mae yna ormod o erthyglau allai fod yn berthnasol. Fe fyddai’n cymryd amser hir i edrych ar bob un.
- Yn y diwedd gofynnwch i’r disgyblion eich arwain i chwilio am rhywbeth tebyg i ‘bwyd yn yr Hen Aifft’. Tynnwch eu sylw at y 4 prif ateb a phenderfynu pa un sydd yn debygol o fod â’r ateb (Hen Aifft)).
- Peidiwch â darllen yr erthygl gyfan ond gofynnwch i’r plant edrych yn gyflym drosti i chwilio am unrhyw eiriau yn berthynol i fwyd (bwyd, bara, diod, bwyta etc.) Pan nad ydyn nhw’n gallu darganfod dim ewch yn ôl i’r dudalen flaenorol a gwneud yr un peth am ‘Bywyd ar y Nîl’. Y tro yma fe ddylen nhw ddarganfod yr ateb.
- Gofynnwch gwestynau penodol y gall y disgyblion eu hateb gan ddefnyddio erthyglau gwefan (e.e. Pa ddeunydd oedd y Celtiaid yn ei ddefnyddio i addurno eu helmedau?)
Cofiwch
- Dysgwch y gwahanaieth rhwng Clo Caps a Shift iddyn nhw.
- Dangoswch iddyn nhw beth mae’r botymau Diwedd a Hafan yn ei wneud (os ar beiriant Windows).
- Pwysleisiwch y neges nad ydyn ni’n argraffu popeth, dim ond y gwaith gorffenedig rydyn ni eisiau ei arddangos.
- Trafodwch y gwahaniaeth rhwng arbed ar y cyfrifiadur (yn lleol) ac ar y gweinydd (rhwydwaith). Efallai y gallech fynd â nhw i weld gweinydd yr ysgol er mwyn iddyn nhw allu gwerthfawrogi beth yn union ydy e.