Prosesu Geiriau
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Gwella Rhigymau
Dyma weithgaredd syml sydd yn canolbwyntio ar sgiliau creu a golygu testun. Fe fydd y plant yn dewis rhigwm, yn ei theipio (gan ddefnyddio Word neu Google Docs) ac yna’n gwella’r gwaith drwy newid ffont, lliw a maint y testun ac ychwanegu delweddau.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod y plant yn gwybod amrywiol rigymau, neu bod ganddyn nhw gopïau
- Arbedwch rhai lluniau perthnasol mewn ffolder ar y cyfrifiadur/gweinydd.
- Paratowch ffolder iddyn nhw arbed eu gwaith arni.
Gweithgaredd:
- Teipiwch rigwm ar brosesydd geiriau (Word/Google Docs)
- Gwnewch y teitl yn arbennig naill ai drwy newid maint, lliw a ffont neu drwy ddefnyddio WordArt.
- Amlygwch yr holl waith a newid ffont, lliw a maint.
- Byddwch yn greadigol wrth newid maint, ffont a lliw rhai eiriau (a’r teitl)
- Mewnosodwch ddelwedd o ffeil ac yna copïwch a gludwch eich delwedd eich hun o’r we.
- Arbedwch y ffolder gywir gydag enw ffeil priodol.
Cofiwch
- Dysgwch y gwahaniaeth rhwng Clo Caps a Shift iddyn nhw
- Dangoswch iddyn nhw beth mae’r botymau Diwedd a Hafan yn ei wneud (os ar beiriant Windows)
- Pwysleisiwch y neges nad ydyn ni’n argraffu popeth, dim ond y gwaith gorffenedig rydyn ni eisiau ei arddangos.
- Trafodwch y gwahaniaeth rhwng arbed ar y cyfrifiadur (yn lleol) ac ar y gweinydd (rhwydwaith). Efallai y gallech fynd â nhw i weld gweinydd yr ysgol er mwyn iddyn nhw all gwerthfawrogi beth yn union ydy e.
Gweithgaredd 2
Ysgrifennu E-lyfr
Er ein bod fel rheol yn meddwl am deipio testun ar gyfrifiadur neu liniadur, mae’n bwysig ein bod hefyd yn dysgu’r un sgiliau ar sgrin gyffwrdd fel iPad. Yn y gweithgaredd yma fe fydd y disgyblion yn creu e-lyfr syml gan ddefnyddio ap fel Book Creator.
Paratoi:
- Diben y dasg yma ydy dysgu’r dechnoleg o greu e-lyfr. Fe ddylai’r disgyblion felly fod wedi ymchwilio i bwnc eu e-lyfr o flaen llaw neu bod cardiau ffeithiau ar gael iddyn nhw.
Gweithgaredd:
- Cyflwynwch eich ap creu e-lyfr (ein dewis ydy Book Creator). Esboniwch bod e-lyfr fel llyfr ond ei fod yn weledol ar ddyfais symudol yn unig.
- Dangoswch iddyn nhw sut i ddechrau llyfr newydd ac ychwanegu testun fel teitl
- Newidiwch faint, ffont a lliw teitl.
- Ychwanegwch gefndir a ffrâm i’r testun.
- Ychwanegwch ddelwedd, naill ai gydag ap camera neu o’r rhyngrwyd (os ydyn nhw wedi dysgu gwneud hyn).
- Amlygwch y teitl, ei gopïo ac yna ei ludo ar y dudalen nesaf.
- Ar bob tudalen, mewnosodwch lun a rhywfaint o destun (geiriau disgrifiadol, pennawd neu baragraff byr yn dibynnu ar allu).
- Rhowch enw ffeil i’ch llyfr a phan fyddwch wedi gorffen, ei allforio i iBook fel e-lyfr.
Cofiwch
- Mae amlygu, copïo a gludo yn anoddach ar iPads nag ar gyfrifiadur. Mae angen dysgu’r sgil yma iddyn nhw.
- Arbedwch ddelwedd o chwiliad ar y we i’ch Camera Roll trwy ddal eich bys yn llonydd ar y ddelwedd a dewis ‘Arbed Delwedd’. Mae hwn yn sgil holl bwysig i’w ddysgu gan ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cymaint o brosiectau’n seiliedig ar iPad.
- Gellir argraffu e-lyfrau (er na fydd fideos a sain yn gweithio wrth gwrs) ond ni ellir eu hagor yn hawdd ar gyfrifiadur. Allforiwch nhw i OneDrive, Google Drive neu Dropbox i sicrhau eu bod wedi cael eu harbed yn rhywle lle y gellir eu dangos a’u hagor eto ar iPads eraill.
Sut i Ddefnyddio Book Creator
Gweithgaredd 3
Gwneud Poster
Gellir creu poster ar gyfer unrhyw bwnc neu ddigwyddiad ac mae eu llunio yn ffordd ardderchog o ddysgu prosesu geiriau sylfaenol. Er bod hwn yn weithgaredd syml iawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio ar ddysgu’r sgiliau technegol.
Paratoi:
- Trafodwch pa wybodaeth sydd yn mynd ar y poster.
- Lluniwch ffolder gyda chasgliad o ddelweddau perthnasol y gallan nhw eu defnyddio.
Gweithgaredd:
- Edrychwch ar rai enghreifftiau o’r math o boster y gallan nhw ei greu.
- Gan ddefnyddio rhaglen gyhoeddi (e.e. Publisher, PowerPoint, Google Slides etc.) lluniwch nifer o flychau testun a theipiwch yr wybodaeth berthnasol.
- Golygwch liw, maint a ffont bob blwch testun.
- Ychwanegwch ddelweddau’n uniongyrchol o’r we ac o ffolder sydd wedi’i harbed.
- Ailfeintiwch a symudwch y blychau testun o gwmpas i wneud i’r poster edrych yn ddeniadol ac yn gytbwys (lliwiau tebyg, gwybodaeth bwysig yn fwy, dim bylchau mawr gwag).
Cofiwch
- Dysgwch y gwahaniaeth rhwng Clo Caps a Shift iddyn nhw
- Dangoswch iddyn nhw beth mae’r botymau Diwedd a Hafan yn ei wneud (os ar beiriant Windows)
- Pwysleisiwch y neges nad ydyn ni’n argraffu popeth, dim ond y gwaith gorffenedig rydyn ni eisiau ei arddangos.
- Trafodwch y gwahaniaeth rhwng arbed ar y cyfrifiadur (yn lleol) ac ar y gweinydd (rhwydwaith). Efallai y gallech fynd â nhw i weld gweinydd yr ysgol er mwyn iddyn nhw all gwerthfawrogi beth yn union ydy e.