Menu

Datrys Problemau a Modelu

4.1

Cyflwyniad

Pan fyddwch yn trafod y Fframwaith newydd gydag athrawon cynradd, maen nhw bob amser yn siarad yn bryderus am godio. Ond dydy’r term codio ddim hyd yn oed yn ymddangos yn y Fframwaith! Yr hyn sydd yn ymddangos ydy’r elfen yma – ‘Datrys Problemau a Modelu’.

Mae’r elfen yma yn cynnwys adnabod problem, ei rhannu yn ddarnau y mae modd eu trin, nodi patrymau a datrys y broblem.

Rydyn ni’n defnyddio codio fel un dull o ddysgu sgiliau’r elfen yma, a does dim angen bod yn bryderus. Mae Datrys Problemau a Modelu yn hwyl ac yn llawer iawn symlach nag y gwnaethoch ddychmygu. Bee-Bots, Logo, cyfarwyddiadau ysgrifennu – dyma’r pethau rydych chi wedi bod yn eu dysgu ers degawdau a dydy’r gweithgareddau codio syml a restrir isod yn ddim byd ond estyniad o’r sgiliau hynny.

Fframwaith

4.1 - Problem Solving and Modelling

  • Cyfleu datrysiad gyda symbolau, e.e. trefn deffro, drwy ddiagram neu siart llif, a dod o hyd i'r newidynnau yn y datrysiad
  • Canfod a chywiro camgymeriadau mewn cyfres o gyfarwyddiadau, e.e. pennu camgymeriadau mewn datrysiad a fyddai'n achosi iddo fethu (hynny yw, dadfygio)
  • Pennu ailadroddiadau neu lŵpiau mewn cyfres, e.e. pennu lle i fyrhau cyfres o gyfarwyddiadau drwy ailadrodd camau, er enghraifft wrth ddysgu cân newydd.

Sgil wrth Sgil

  • Ysgrifennwch algorithm syml am sefyllfa bywyd go iawn i gynrychioli dilyniant o gyfarwyddiadau.
  • Adnabod dolenni a gweithdrefnau mewn cod.
  • Gan ddefnyddio amgylchedd rhaglennu syml, rhaglennwch nifer o gorluniau i symud yn ôl gorchymyn.
  • Dadfygio cod i nodi camgymeriadau wrth geisio gwneud i gorlun symud mewn amgylchedd rhaglennu syml.
  • Gan ddefnyddio cod enghreifftiol, creu cymeriad, rhif neu destun sydd yn newid dros amser.
  • Gyda chefnogaeth, dilyn cyfarwyddiadau wedi’u gwneud o flaen llaw i greu animeiddio neu gêm syml gan ddefnyddio amgylchedd rhaglennu syml.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

cod     cyfarwyddiadau    rhaglen   crwydrwr    corlun    blociau    cefndir    dadfygio   camgymeriad    dolen (lŵp)    ailadrodd

Gweithgaredd 1

Y Plentyn Robot

Efallai y byddech yn disgwyl i weithgaredd codio ddechrau gydag iPad neu gyfrifiadur, ond mae ‘Datrys Problemau a Modelu’ yn galw am ragor na hynny, felly fe fyddwn yn dechrau heb yr un darn o dechnoleg. Mae disgyblion yn ysgrifennu ‘Codau’ ar gyfer pob math o weithgareddau dyddiol i helpu plentyn robot i gwblhau ei dasgau dyddiol.

flowchart

Paratoi:

  • Creu plentyn robot i’r disgyblion ei helpu. Gall y plentyn robot yma fod ar sawl ffurf, yn dibynnu ar eich dewis:
    • Fideo siarad Yakit Kids neu Tellagami
    • Llun gwir faint ar eich wal arddangos
    • Het arbennig y gallwch ei rhoi ar unrhyw ddisgybl i’w troi yn blentyn robot.
  • Creu templedau siart llif i’r disgybl ysgrifennu arno.
  • Llenwi siart llif enghreifftiol ar gyfer gweini powlen o rawnfwyd.

Gweithgaredd:

  1. Cyflwyno eich pleyntyn robot i’r dosbarth. Esboniwch ei fod eisiau ymddwyn fel bachgen/merch go iawn ond nad ydy e’n gwybod sut i gyflawni tasgau normal, bob dydd fel brwsio ei ddannedd, gwneud brechdannau neu hyd yn oed tasgau ysgol bore syml fel cadw ei gôt a’i flwch cinio, cyflwyno gwaith cartref neu eistedd.
  2. Esboniwch i’r disgyblion bod angen iddyn nhw ysgrifennu codau ar gyfer y plentyn robot i gyflawni’r holl dasgau yma. Dangoswch god enghreifftiol iddyn nhw ar gyfer gweini powlen o rawnfwyd, sydd wedi’i nodi yn y siart llif
  3. Nodwch yr iaith syml, y cyfarwyddiadau clir a’r ffaith bod siart llif yn mynd â ni o un cam i’r nesaf.
  4. Rhannwch dempledau siart llif gwag i’r disgyblion a gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu eu cod ar gyfer y tasgau eraill a drafodwyd. Gorau oll os ydyn nhw yn gryno. Gellir annog y disgyblion mwy galluog i gyfyngu eu hunain i 3 gair fesul cyfarwyddyd.
  5. Gofynnwch i un plentyn fod yn robot i ‘brofi’r’ codau, gyda’r disgyblion yn darllen eu codau gam wrth gam i’r plentyn.

Cofiwch

  • Dylid cadw cyfarwyddiadau siart llif yn syml ac fe ddylen nhw fod yn hawdd i’w dilyn heb fod angen cyd-destun.
  • Does dim angen brawddegau gramadegol llawn yn eu siartiau llif. Symlrwydd ac eglurder sydd ei angen wrth godio.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu creu cyfarwyddiadau i blentyn arall eu dilyn.
  • Rwy’n gallu ysgrifennu fy nghyfarwyddiadau mewn siart llif.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.3 – Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cod     robot     siart llif     symbolau     syml

Syniadau Amrywio

Gallech wrth gwrs ddysgu’r gweithgaredd yma heb gyflwyno plentyn robot, ond dydy hynny fawr o hwyl!

Gweithgaredd 2

Dadfygio a Lŵpio

Mae dadfygio yn sgil pwysig sydd angen ei ymarfer mor aml â phosibl. Mae’n cynnwys tri cham allweddol, sydd angen eu dysgu:

  1. Darllen Cod
  2. Darganfod y camgymeriad
  3. Cywiro’r camgymeriad

Mae’r gweithgaredd yma yn canolbwyntio ar y tri, ac yn edrych ar lŵpio (ailadrodd y cod).

Paratoi:

  • Ymgyfarwyddwch gyda gêm Codio syml fel BeeBot, Kodable neu 2Go ar Purple Mash.
  • Ysgrifennwch yr atebion ar gyfer pob lefel ar daflen waith, ond nodwch un neu ragor o gamgymeriadau bwriadol (e.e. troi i’r dde yn lle i’r chwith, symud 5 cam yn lle 4).
beebot app

Gweithgaredd:

  1. Gadewch i’r disgyblion ymgyfarwyddo gyda’r gêm o’ch dewis chi (mae’n debyg y byddan nhw’n gwybod amdani eisoes).
  2. Dywedwch wrthyn nhw eich bod wedi paratoi ‘Dalen Twyllo’ gydag atebion i bob lefel yn y gêm. Dosbarthwch yr atebion sydd yn llawn camgymeriadau.
  3. Gofynnwch i’r disgyblion ddilyn eich ‘Dalen Twyllo’ ar gyfer lefel neilltuol. Pan fydd y cod yn methu, ffugiwch eich bod wedi’ch synnu gan ofyn iddyn nhw weithio allan beth wnaethoch chi o’i le.
  4. Gofynnwch iddyn nhw gywiro eich holl godau.
  5. Dangoswch god iddyn nhw ar gyfer car yn gyrru o amgylch trac (e.e. Ymlaen 5, Troi i’r Dde, Ymlaen 5, Troi i’r Dde, Ymlaen 5, Troi i’r Dde, Ymlaen 5). Oes yna batrwm yn ailadrodd ei hun? Sut gallwn ni wneud y cod yma’n symlach?  (Ymlaen 5, Troi i’r Dde).

Cofiwch

  • Fe ddylai’r disgyblion fod yn gyfarwydd gyda’r apiau Codio o flynyddoedd blaenorol (Gwiriwch hyn ac os nad ydyn nhw’n gyfarwydd, efallai y byddai’n syniad gwneud gweithgareddau o flynyddoedd blaenorol).
  • Mae angen ymarfer y sgiliau yma yn aml.  Does dim angen taflen waith bob tro, ysgrifennwch godau ar y bwrdd gwyn sydd, er enghraifft, yn tywys y disgyblion o’r bwrdd gwyn i’r drws. Cyn belled â’ch bod yn cynnwys camgymeriadau bwriadol, fe fydd yn cadw eu sgiliau dadfygio yn effro!

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu darllen cod syml ac adnabod camgymeriadau.
  • Rwy’n gallu dadfygio camgymeriadau mewn cod trwy roi’r cyfarwyddiadau cywir yn eu lle.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.3 - Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cod   camgymeriad    dadfygio   cywir   cyfarwyddyd

Syniadau Amrywio

Yn hytrach na defnyddio gêm codio, lluniwch gyfres o ddrysfeydd sialc syml ar y buarth a rhowch gyfarwyddiadau’n llawn camgymeriadau i’r disgyblion eu dilyn. Neu gallwch ddefnyddio Beebot a grid (naill ai grid sydd wedi’i brynu’n benodol ar gyfer y Beebot neu gallwch greu eich grid eich hun gyda thâp, 15cm x 15 cm sgwâr, ar y llawr).

Gweithgaredd 3

Codio Animeiddiad

scratch jr

O’r diwedd, mae’n amser i’r disgyblion deimlo eu bod yn codio go iawn trwy greu cod animeiddio. Mae angen ap codio syml ar gyfer y gweithgaredd yma, neu feddalwedd sydd yn rhoi’r rhyddid i chi godio fel y mynnwch. Argymhellir Scratch Jr ar yr iPad neu Android (ac mae am ddim)!

Paratoi:

  • Lawrlwythwch ap codio syml sydd yn rhoi’r rhyddid i chi godio fel y mynnwch (Argymhellir Scratch Jr).
  • Ymgyfarwyddwch gyda’r ap cyn ei gyflwyno i’ch dosbarth Rhowch gynnig ar y gweithgaredd pêl fasged o wefan Scratch Jr.

Gweithgaredd

  • Cyflwynwch y disgyblion i’r ap, gan ddangos iddyn nhw sut i greu cod syml ar gyfer eich corlun (cymeriad). Mae angen i bob cod ddechrau gyda baner werdd, ac mae cod syml yn ychwanegu ychydig deils symud glas at y faner werdd. (Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad syml).
  • Gadewch i’r disgyblion greu eu codau eu hunain ar gyfer eu cymeriad, gan gadw at y faner werdd ac ychydig o deils glas.
  • Lluniwch god gyda rhai cyfarwyddiadau ailadroddus yn y canol (e.e. Ymlaen, Ymlaen, Ymlaen, De, Ymlaen De, Ymlaen, De, Ymlaen, Ymlaen). Sut y gallwn ei symleiddio? Defnyddiwch y botwm ailadrodd oren i ailadrodd Ymlaen, De dair gwaith.
  • Gofynnwch iddyn nhw ychwanegu cefndir dinas a ffordd. Gadewch iddyn nhw ddarganfod y botwm cywir cyn gofyn i blentyn sydd wedi llwyddo ddangos i’r gweddill.
  • Rhowch gyfarwyddiadau iddyn nhw ar sut i ychwanegu cymeriadau a gofynnwch iddyn nhw godio pob cymeriad i symud yn wahanol, yn cynnwys rhywfaint o ailadrodd.
  • Rhowch gyfarwyddiadau iddyn nhw i animeiddio cath yn chwarae pêl fasged (gweler y botwm uchod) a gofynnwch iddyn nhw greu’r animeiddio ac yna  ychwanegu a chodio cymeriadau ychwanegol fel y dyrfa yn gweiddi.

Cofiwch

  • Mae yna sgiliau penodol iawn i’w dysgu yma (gweler y sgil wrth sgil ar frig y dudalen). Gwnewch yn siŵr bod y wers yn canolbwyntio ar y sgiliau yma.
  • Fe fydd y fideos isod yn eich tywys yn fanwl drwy’r gweithgaredd yma.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu codio cymeriadau i symud yn ôl gorchymyn.
  • Rwy’n gallu defnyddio dolen i fyrhau codau sy’n ailadrodd.
  • Rwy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau i greu animeiddio syml.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.2 - Creu

Rydych chi’n creu animeiddio

3.3 - Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cod     corlun (cymeriad)     lŵp     ailadrodd     blociau     cyfarwyddiadau     animeiddio

Syniadau Amrywio

Gallwch amrywio’r animeiddio drwy newid y cyfarwyddiadau o wefan Scratch Jr gyda’ch cyfarwyddiadau eich hun. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl sgiliau a restrir yn y Meini Prawf Llwyddiant.