Taenlenni
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
Gweithgaredd 1
Darllen Taenlen
Mae’r gweithgaredd cyntaf yma yn gyflym ac yn syml iawn. Mae’n anhebygol y byddwch yn treulio gwers gyfan arno. Fe fydd y disgyblion yn edrych ar daenlen rydych chi wedi ei llunio ac yn ateb cwestiynau syml yn berthynol i’r wybodaeth arni.
Paratoi:
- Lluniwch daenlen gan ddefnyddio Excel neu Google Sheets. Dylid cadw’r daenlen yn syml, gan ddanogs cofnodion ar gyfer cyfrifon personol neu fusnes bach. (Rhyw 10 cofnod am alldaliadau, yn ogystal ag ychydig o gofnodion incwm)
- Ysgrifennwch bump neu chwech cwestiwn y gellir eu hateb wrth edrych ar y daenlen (e.e. Beth oedd cost mwyaf Dylan? Wnaeth e fwy o arian nag a wnaeth e wario?)
Gweithgaredd:
- Dangoswch y daenlen i’r disgyblion. Gall fod ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol neu gallwch ei argraffu, ond argymellir eu bod yn cael cyfle i agor copi ar gyfrifiadur er mwyn iddyn nhw ymgyfarwyddo gyda dyluniad Excel neu Google Sheets.
- Gofynnwch ychydig o gwestiynau enghreifftiol, i’w helpu i ymgyfarwyddo gyda’r colofnau gwariant ac incwm.
- Rhowch y cwestiynau sydd i’w hateb iddyn nhw. I’r disgyblion mwy galluog gallwch wahaniaethu trwy ofyn cwestiynau mwy cymhleth (e.e. Faint mwy wnaeth e wario ar rent nag ar fwyd?)
Cofiwch
- Mae hwn yn weithgaredd syml iawn, yn debyg i’r gweithgareddau darllen graff neu dabl yr ydych wedi’u gwneud ganwaith mewn gwersi Mathemateg.
Gweithgaredd 2
Y Pâr Talaf
Ar ôl dysgu beth ydy taenlen yng Ngweithgaredd 1, fe fydd y disgyblion yn dechrau ychwanegu eu data eu hunain nawr a hyd yn oed yn defnyddio’r botwm swyddogaeth i greu fformiwlau adio syml.
Paratoi:
- Lluniwch daenlen yn Excel neu Google Sheets. Dylai’r daenlen gynnwys 4 colofn, y gyntaf gyda’r pennawd ‘Enwau’, yr ail ‘Taldra Plentyn 1 (cm)’, y trydydd ‘Taldra Plentyn 2 (cm)’ a’r pedwerydd ‘Taldra gyda’i gilydd’ "
- Arbedwch y daenlen mewn ffolder y gall pawb ei hagor.
Gweithgaredd:
- Rhannwch y disgyblion yn barau a gofynnwch iddyn nhw fesur ei gilydd (fel rhan o’ch uned mesur Mathemateg). Ysgrifennwch eu taldra ar y bwrdd gwyn.
- Ar ôl agor y daenlen ac arbed copi eu hunain, mae’r disgyblion yn teipio enwau’r holl barau yng ngholofn 1. Yna maen nhw’n ysgrifennu taldra pob disgybl yng ngholofnau 2 a 3.
- Gan ddefnyddio’r botwm fformiwla, mae’r disgyblion yn gwneud i’r daenlen adio’r celloedd yng ngholofnau 1 a 2 i roi taldra cyfun pob pâr.
- Gofynnwch gwestiynau am y canlyniadau. "Pa bâr ydy’r talaf gyda’i gilydd?" "Ydy’r plentyn talaf yn y pâr talaf?"
Fformiwla Adio Mewn Taenlen
Cofiwch
- Mae’r gweithgaredd yma yn canolbwyntio fwyaf ar greu’r fformiwlau, ond mae cael y disgyblion i fewnbynnu’r data ac ateb y cwestiynau ar y canlyniadau yn sgiliau pwysig, felly peidiwch â’u hanwybyddu.
Gweithgaredd 3
Gwneud Graffiau yn Hawdd
Mae eu gweithgaredd taenlen terfynol ym Mlwyddyn 3 yn cynnwys gwneud siart bar syml o Excel neu Google Sheets. Er y gallwch wneud graffiau yn hawdd yn Purple Mash neu J2E hefyd, mae’r gweithgaredd yma yn benodol yn cynnwys taenlenni, felly cadwch at Excel neu Google Sheets.
Paratoi:
- Cynhaliwch arolwg fel rhan o’ch gwers Mathemateg (e.e. hoff ffrwyth, mathau o geir sydd yn mynd heibio’r ysgol, hoff garol Nadolig, unrhywbeth!)
- Lluniwch dabl mewn taenlen ar Excel neu Google gyda cholofn wag ar gyfer y dewisiadau a cholofn wag ar gyfer y cyfansymiau.
- Arbedwch y daenlen lle mae modd i’r disgyblion ei hagor.
Gweithgareddau
- Mae’r disgyblion yn agor y daenlen ac yn arbed eu copi eu hunain. (Os yn defnyddio Google Classroom, rhannwch gopi’r un gyda’r disgyblion).
- Nodwch yr holl ddata o’u siartiau cyfrif yn y daenlen.
- Amlygwch y ddwy golofn a defnyddiwch y swyddogaeth creu graff i greu siart bar.
- Gwnewch yn siŵr bod y ddwy echel wedi’u labelu’n gywir.
Creu Siartiau yn Google Sheets
Cofiwch
- Er ei bod yn bwysig dysgu disgyblion i fod yn ddethol wrth argraffu, mae graff bar wedi’i gwblhau yn werth ei argraffu!