Cydweithio
2.2
Gweithgaredd 1
Creu a Gwahodd
Mae’r Fframwaith yn tybio y bydd gan ddisgyblion brofiad o dechnoleg cydweithio ers Blwyddyn 3. Prif bwrpas cydweithio ym Mlwyddyn 4 ydy eu galluogi i barhau i ymarfer eu defnydd o offer cydweithio. Ond mae yna rai sgiliau newydd yn cael eu cyflwyno, a’r cyntaf ydy gwahodd eraill i gydweithio yn hytrach na bod yr athro/athrawes yn gorfod ei sefydlu i gyd o flaen llaw.
Paratoi:
- Sicrhau bod gan pob plentyn fewngofnodion i feddalwedd cyflwyno (Office 365 neu Google Slides).
- Gwirio bod gan y disgyblion brofiad o waith cydweithio o Flwyddyn 3. (Os na, yna dechreuwch gyda gweithgareddau o Flwyddyn 3).
Gweithgareddau:
- Gofynnwch i’r disgyblion fewngofnodi i’w cyfrifon cydweithio.
- Yna fe ddylai’r disgyblion lywio eu ffordd i ffolder neilltuol yn eu cyfrif, a chreu dogfen gyflwyno ynddi (gan ddefnyddio Google Slides neu PowerPoint).
- Yna fe ddylen nhw rannu’r ddogfen gyda’u partner/grŵp fel bod pawb yn gallu gweithio ar ei golygu.
- Fe ddylen nhw orffen drwy greu cyflwyniad ar eu pwnc cyfredol, gyda’r disgyblion yn cydweithio ar wahanol gyfrifiaduron.
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
- Nawr bod eich disgyblion yn gallu creu a rhannu dogfen, maen nhw’n gallu defnyddio’r sgil yma’n rheolaidd yn y dosbarth ac fel gwaith cartref ac fel offeryn ar gyfer dysgu mewn pynciau eraill.
- Edrychwch ar y rhestr o weithgareddau ar waelod y dudalen i weld sut y gallwch barhau i ymarfer cydweithio drwy gydol y flwyddyn.
Gweithgaredd 2
Dewch inni Roi Sylwadau
Un o’r agweddau mwyaf defnyddiol o feddalwedd cydweithio ydy’r gallu i adael sylwadau. Tra bodd modd inni athrawon ddefnyddio’r offeryn yma i helpu disgyblion i wella eu gwaith, mae’n offeryn asesiad cymheiriaid defnyddiol iawn hefyd. Yn y gweithgaredd yma rydyn ni’n dysgu sut i adael sylwadau ar waith ein gilydd.
Paratoi:
- Sicrhau bod gan pob plentyn fewngofnodion i feddalwedd cyflwyno (Office 365 neu Google Slides).
- Dysgu’r disgyblion i rannu dogfennau yn hyderus gydag eraill yn y dosbarth (gweler Gweithgaredd 1).
- Fe ddylai’r disgyblion fod wedi cwblhau darn o waith prosesu geiriau yn ddiweddar ar Office 365 neu Google Docs.
Gweithgaredd:
- Mae’r disgywblion yn gwneud yn siŵr eu bod wedi gorffen eu prif ddarn o waith prosesu geiriau.
- Yna maen nhw’n rhannu’r ddogfen yma gyda’u partner ac fel arall.
- Dangoswch i’r disgyblion sut i ychwanegu sylw at air neu frawddeg benodol. (Mae’n amrywio o feddalwedd i feddalwedd, ond fel rheol mae’n cynnwys amlygu’r gair neu frawddeg ac yna clicio ‘Sylw’).
- Mae angen i’r disgyblion ddarllen gwaith ei gilydd, gan adael dau sylw cadarnhaol ac un awgrym ar gyfer gwelliant.
- Mae’r disgyblion yn troi’n ôl at eu gwaith eu hunain, yn darllen y sylwadau ac os oes angen, yn golygu eu gwaith trwy ddilyn yr awgrymiad ar gyfer gwelliant.
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
- Unwaith y bydd y disgyblion wedi cyfarwyddo gydag ysgrifennu sylwadau, gellir gwneud hynny yn aml fel dull o asesiad cymheiriaid.
Gweithgareddau Eraill
Unwaith y bydd y disgyblion wedi meistroli’r sgiliau o gydweithio, rhannu dogfennau a rhoi sylwadauu ar waith ei gilydd, fe ddylid eu hannog i ymgorffori’r sgiliau yma yn rheolaidd i’w gwersi
Dyma rai syniadau ar gyfer prosiectau y gallan nhw gydweithio arnyn nhw.
Awgrymiadau am weithgareddau
- Lluniwch PowerPoint / Google Slide ar eich pwnc cyfredol. Mae un disgybl yn teipio, un yn ychanegu delwedd ac un yng ngofal y dyluniad a gwirio’r sillafu.
- Lluniwch fideo ar yr iPad (gweler 3.2 'Creu'), uwchlwythwch i’r cwmwl a rhannwch gyda’ch cyd-ddisgyblion er mwyn iddyn nhw gael gweld y fideo.
- Defnyddiwch Word / Google Doc i greu cynllun ar y cyd ar gyfer stondin elusen grŵp, gyda phawb yn cyfrannu eu syniadau.
- Rhannwch waith yn rheolaidd ar gyfer asesiad cymheiriaid gan ddefnyddio sylwadau.
- Gofynnwch i’r disgyblion greu gwaith yn rheolaidd yn y cwmwl a’i rannu gyda chi.