Menu

Cydweithio

2.2

Cyflwyniad

Yn llawer rhy hir, mae ‘Cydweithio’ gyda thechnoleg wedi bod yn grŵp o dri yn casglu o amgylch cyfrifiadur, un yn gwneud y gwaith, un arall yn rhoi rhywfaint o gyngor a’r trydydd yn cymryd dim rhan o gwbl!

Ond gyda newid mewn technoleg mae cydweithio ym Mlwyddyn 4 nawr yn cynnwys y plant yn gweithio ar yr un ddogfen ar wahanol ddyfeisiadau, ar yr un pryd.

Fframwaith

2.2 - Cydweithio

  • rheoli ffeil ar-lein, gan ychwanegu sylwadau ac ymateb iddynt, e.e. creu, rhannu a golygu ffeil ar-lein, gan gael trafodaeth fyfyriol gydag athro/athrawes a/neu gyfoedion.

Sgil wrth Sgil

  • Creu dogfen yn y cwmwl.
  • Gwahodd partner i gydweithio ar yr un pryd.
  • Rhoi sylwadau ar-lein ar waith pobl eraill.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

cydweithio     rhannu     ffeil     cwmwl     sylw     asesu-cymheiriaid     caniatâd     gwahodd    

Gweithgaredd 1

Creu a Gwahodd

Mae’r Fframwaith yn tybio y bydd gan ddisgyblion brofiad o dechnoleg cydweithio ers Blwyddyn 3.  Prif bwrpas cydweithio ym Mlwyddyn 4 ydy eu galluogi i barhau i ymarfer eu defnydd o offer cydweithio. Ond mae yna rai sgiliau newydd yn cael eu cyflwyno, a’r cyntaf ydy gwahodd eraill  i gydweithio yn hytrach na bod yr athro/athrawes yn gorfod ei sefydlu i gyd o flaen llaw.

Patagonia

Paratoi:

  • Sicrhau bod gan pob plentyn fewngofnodion i feddalwedd cyflwyno (Office 365 neu Google Slides).
  • Gwirio bod gan y disgyblion brofiad o waith cydweithio o Flwyddyn 3. (Os na, yna dechreuwch gyda gweithgareddau o Flwyddyn 3).

Gweithgareddau:

  1. Gofynnwch i’r disgyblion fewngofnodi i’w cyfrifon cydweithio.
  2. Yna fe ddylai’r disgyblion lywio eu ffordd i ffolder neilltuol yn eu cyfrif, a chreu dogfen gyflwyno ynddi (gan ddefnyddio Google Slides neu PowerPoint).
  3. Yna fe ddylen nhw rannu’r ddogfen gyda’u partner/grŵp fel bod pawb yn gallu gweithio ar ei golygu.
  4. Fe ddylen nhw orffen drwy greu cyflwyniad ar eu pwnc cyfredol, gyda’r disgyblion yn cydweithio ar wahanol gyfrifiaduron.

Cofiwch

  • Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
  • Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
  • Nawr bod eich disgyblion yn gallu creu a rhannu dogfen, maen nhw’n gallu defnyddio’r sgil yma’n rheolaidd yn y dosbarth ac fel gwaith cartref ac fel offeryn ar gyfer dysgu mewn pynciau eraill.
  • Edrychwch ar y rhestr o weithgareddau ar waelod y dudalen i weld sut y gallwch barhau i ymarfer cydweithio drwy gydol y flwyddyn.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu creu ffeil cyflwyniad yn y ffolder gywir.
  • Rwy’n gallu rhannu fy nogfen gyda phobl eraill sydd wedyn yn gallu cydweithio gyda mi.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.3 – Hawliau Digidol

Gallwch gynnal trafodaeth am hawlfraint delweddau ar-lein a sut y dylem roi cydnabyddiaeth

2.3 Storio a Rhannu

Os ydych yn creu ffeil pan rydych chi mewn ffolder benodol, mae’r ffeil yn arbed yn awtomatig i’r ffolder honno.

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Trafodwch pa allweddeiriau i’w defnyddio wrth chwilio ar-lein am ddelweddau.

3.2 - Creu

Mae’r gweithgaredd yma’n ymwneud cymaint â chreu ag y mae am gydweithio.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanwerthusiad arferol.

Geirfa

cydweithio     sleid     rhannu     cyflwyniad     mewngofnodi     ffolder      (gweler 3.2b – ‘Cyflwyno’ ar gyfer geirfa yn benodol i gyflwyniad)

Syniadau Amrywio

Y sgiliau pwysig yma ydy creu’r ddogfen a’i rhannu gyda chyd-ddisgyblion.  Mater i chi yn llwyr ydy cynnwys y cyflwyniad a beth ydy eich pynciau cyfredol.  Gallech hefyd osgoi cyflwyniadau yn gyfan gwbl ac yn lle hynny, gofyn i’r disgyblion greu dogfen brosesu geiriau.

Gweithgaredd 2

Dewch inni Roi Sylwadau

Un o’r agweddau mwyaf defnyddiol o feddalwedd cydweithio ydy’r gallu i adael sylwadau. Tra bodd modd inni athrawon ddefnyddio’r offeryn yma i helpu disgyblion i wella eu gwaith, mae’n offeryn asesiad cymheiriaid defnyddiol iawn hefyd. Yn y gweithgaredd yma rydyn ni’n dysgu sut i adael sylwadau ar waith ein gilydd.

Paratoi:

  • Sicrhau bod gan pob plentyn fewngofnodion i feddalwedd cyflwyno (Office 365 neu Google Slides).
  • Dysgu’r disgyblion i rannu dogfennau yn hyderus gydag eraill yn y dosbarth (gweler Gweithgaredd 1).
  • Fe ddylai’r disgyblion fod wedi cwblhau darn o waith prosesu geiriau yn ddiweddar ar Office 365 neu Google Docs.
Sylwadau

Gweithgaredd:

  1. Mae’r disgywblion yn gwneud yn siŵr eu bod wedi gorffen eu prif ddarn o waith prosesu geiriau.
  2. Yna maen nhw’n rhannu’r ddogfen yma gyda’u partner ac fel arall.
  3. Dangoswch i’r disgyblion sut i ychwanegu sylw at air neu frawddeg benodol. (Mae’n amrywio o feddalwedd i feddalwedd, ond fel rheol mae’n cynnwys amlygu’r gair neu frawddeg ac yna clicio ‘Sylw’).
  4. Mae angen i’r disgyblion ddarllen gwaith ei gilydd, gan adael dau sylw cadarnhaol ac un awgrym ar gyfer gwelliant.
  5. Mae’r disgyblion yn troi’n ôl at eu gwaith eu hunain, yn darllen y sylwadau ac os oes angen, yn golygu eu gwaith trwy ddilyn yr awgrymiad ar gyfer gwelliant.

Cofiwch

  • Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu G Suite for Education neu Office 365 eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r ddau am ddim a mae cyfrifon gan eich disgyblion drwy Hwb.
  • Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
  • Unwaith y bydd y disgyblion wedi cyfarwyddo gydag ysgrifennu sylwadau, gellir gwneud hynny yn aml fel dull o asesiad cymheiriaid.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu gadael sylwadau cadarnhaol ac adeiladol ar waith partner.

Elfennau Fframwaith Eraill

 

2.3 Storio a Rhannu

Mae’r gweithgaredd yma yn rhoi cyfle iddy nhw ymarfer rhannu dogfennau cwmwl.

3.2 Creu

Gan eu bod yn ysgrifennu testun, maen nhw’n cyflawni rhywfaint o’r elfen ‘Creu’.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Mae’r gweithgaredd yma’n ymwneud yn gyfan gwbl gydag asesu gwaith ei gilydd a gwella eu gwaith eu hunain.

Geirfa

rhannu     sylw     cymheiriad     asesu     gwella

Syniadau Amrywio

Os nad oes gennych ddarn o waith teipio diweddar ar gyfer asesiad cymheiriaid, gallwch barhau i ymarfer y sgil o adael sylwadau trwy ofyn i’r disgyblion ysgrifennu paragraff byr ar eu hoff ddiddordebau a gofyn i’w partner roi sylwadau yn cytuno neu yn anghytuno gyda’u dewis o hoff ddiddordebau.

Gweithgareddau Eraill

Unwaith y bydd y disgyblion wedi meistroli’r sgiliau o gydweithio, rhannu dogfennau a rhoi sylwadauu ar waith ei gilydd, fe ddylid eu hannog i ymgorffori’r sgiliau yma yn rheolaidd i’w gwersi

Dyma rai syniadau ar gyfer prosiectau y gallan nhw gydweithio arnyn nhw.

Awgrymiadau am weithgareddau

  • Lluniwch PowerPoint / Google Slide ar eich pwnc cyfredol. Mae un disgybl yn teipio, un yn ychanegu delwedd ac un yng ngofal y dyluniad a gwirio’r sillafu.
  • Lluniwch fideo ar yr iPad (gweler 3.2 'Creu'), uwchlwythwch i’r cwmwl a rhannwch gyda’ch cyd-ddisgyblion er mwyn iddyn nhw gael gweld y fideo.
  • Defnyddiwch Word / Google Doc i greu cynllun ar y cyd ar gyfer stondin elusen grŵp, gyda phawb yn cyfrannu eu syniadau.
  • Rhannwch waith yn rheolaidd ar gyfer asesiad cymheiriaid gan ddefnyddio sylwadau.
  • Gofynnwch i’r disgyblion greu gwaith yn rheolaidd yn y cwmwl a’i rannu gyda chi.