Menu

Storio a Rhannu

2.3

Cyflwyniad

"Ydych chi’n siŵr eich bod wedi ei arbed?" "Ym mha ffolder wnaethoch chi ei arbed?" "Pa gyfrifiadur wnaethoch chi ei ddefnyddio yn y wers ddiwethaf?" Sawl munud sydd wedi cael ei wastraffu mewn sawl gwers ar sgyrsiau o’r fath? Mae dysgu eich disgyblion i arbed yn gywir yn sgil bwysig, ac fe fydd hefyd yn arbed oriau o rwystredigaeth i chi ac iddyn  nhw yn y tymor hir!

Ym Mlwyddyn 4 fe ddylai’r disgyblion werthfawrogi’r gwahaniaethau rhwng arbed ar gyfrifiadur, ar weinydd yr ysgol ac yn y cwmwl. Fe ddylen nhw hefyd fod yn perchnogi eu ffolder arbed (ar y gweinydd neu yn y cwmwl) yn ei thacluso ac yn symud ffeiliau i wahanol is-ffolderi.

Fframwaith

2.3 - Storio a Rhannu

  • deall bod gwahanol fathau o storio, e.e. lleol, rhwydwaith, cwmwl, symudadwy
  • rheoli ffolderi'n lleol neu ar-lein, e.e. symud ffeiliau i ffolder gwahanol

Sgil wrth Sgil

  • Arbed gwaith mewn ffolderi gydag enwau ffeil priodol.
  • Arbed ac agor dogfennau yn hyderus i’r cwmwl ac o’r cwmwl.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

arbed     agor     gweinydd     cwmwl     arbed yn lleol     enw ffeil     ffolder     rhannu

Arbed Mewn Manylder

Enwi Ffeiliau

Esboniwch iddyn nhw bod angen i enw ffeil ddweud dau beth wrthych chi. Yn bwysicaf, fe ddylai nodi’n glir beth ydy’r gwaith, fel bod modd ei adnabod yn hawdd yn y dyfodol. Yn ail, fe ddylai fod ag enw neu flaenlythrennau’r plentyn/plant sydd wedi’i greu. Ceisiwch ddyfeisio enwau i ffeiliau sydd yn bodloni’r meini prawf yma heb fod yn rhy hir.

Arbed yn Lleol, ar y Gweinydd ac yn y Cwmwl

Dysgwch y gwahaniaeth iddyn nhw rhwng y tri math yma o arbed.

  • Mae arbed yn lleol yn golygu bod y ffeil wedi’i harbed ar yr un ddyfais neilltuol yna.
  • Ewch â’r disgyblion i weld gweinydd yr ysgol (y cyfrifiadur mawr swnllyd yna sydd mewn cwpwrdd yn rhywle!). Esboniwch bod ffeiliau sydd wedi’u harbed ar y gweinydd yn cael eu cadw ar hwnnw a bod modd agor y ffeiliau o unrhyw ddyfais yn yr ysol.
  • Mae arbed yn y cwmwl yn cynnwys gwefan fel OneDrive, Google Drive Dropbox, J2E neu Purple Mash. Gallwch agor ffeiliau ar unrhyw ddyfais, yn unrhyw le. Fe ddylai plant fod yn dechrau arbed yn y cwmwl eu hunain. Fe fydd rhai angen cymorth.

Rheoli ffolderi

Rydyn nin gwybod sut olwg sydd ar ffolder blêr. Ydych chi wedi edrych ar weinydd eich ysgol yn ddiweddar? Dysgwch y disgyblion i greu ffolderi ar gyfer eu gwaith o flynyddoedd blaenorol ac awgrymwch enwau ffolder ar gyfer cadw gwaith eleni yn daclus (e.e. Tymor 1, Tymor 2 neu Cymraeg, Saesneg, Hanes...).

Rhannu

Pa bleser sydd yna mewn gwneud fideo neu ddylunio poster os nad oes neb yn ei weld? Fe ddylai pob tasg fideo gorffenedig gael ei ddangos i’r dosbarth o leiaf. Fe ddylid arddangos pob poster. Mae arbed yn y cwmwl yn galluogi disgyblion i rannu gyda’i rhieni hefyd, gan ddefnyddio codau QR. Dysgwch nhw sut i wneud hyn i arbed gorfod creu 30 o godau QR!

Dydy arbed ddim yn anodd i’w addysgu na’i ddysgu. Dangoswch iddyn nhw yn union sut i wneud hynny ac fe fyddan yn gwneud hynny’n berffaith drwy’r flwyddyn!