Cronfeydd Data
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
Gweithgaredd 1
Cwestiynau ar gyfer Cronfa Ddata Ganghennog
Fe fydd y math cyntaf o gronfeydd data, Cronfeydd Data Canghennog, yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o’r disgyblion o’u tasgau ym Mlwyddyn 3. Mae Cronfeydd Data Canghennog yn ddull o ddidoli a dosbarthu grwpiau o wrthrychau trwy ofyn cwestiynau Ie/Na. Mae pob ateb yn arwain at gwestiwn pellach gan adael un gwrthrych yn unig ar ôl.
Cyfrinach cronfa ddata ganghennog dda ydy dethol y cwestiynau sydd fwyaf effeithiol i rannu’r atebion posibl. Mae’r gweithgaredd yma yn helpu i ymarfer y sgil hwnnw.
Paratoi:
- Paratowch gronfa ddata ganghennog syml gydag 8 ateb posibl. Ar gyfer yr enghraifft yma fe fyddwn yn defnyddio anifeiliaid, ar J2Data (J2E) neu 2Question (Purple Mash).
Gweithgareddau:
- Dangoswch ddelweddau o’r wyth anifail sydd yn eich enghraifft o gronfa ddata ganghennog. Gofynnwch i un disgybl ddewis anifail a’i ddangos i’r dosbarth heb i chi ei weld. Gofynnwch y cwestiynau sydd ar y gronfa ddata ganghennog i ddarganfod pa anifail sydd wedi cael ei ddewis.
- Ailadroddwch yr enghraifft uchod neu, yn well fyth, dangoswch y gronfa ddata ar y sgrin a rhowch gyfle i’r disgyblion chwarae mewn parau.
- Esboniwch bod eich cwestiwn cyntaf yn rhannu’r wyth yn ddau set o bedwar. Yna mae yna gwestiynau pellach i rannu’r pedwar hynny yn barau ac yna yn atebion unigol.
- Dangoswch ddelweddau o bedwar anifail arall. Gofynnwch i’r disgyblion i feddwl-paru-rhannu cwestiwn a fyddai’n eu rhannu yn ddau bâr. Ailadroddwch hyn gyda phedwar anifail arall.
- Dangoswch ddelweddau o fân fwystfilod gwahanol iawn. Gofynnwch yn ôl pa briodoleddau y gellir grwpio’r mân fwystfilod? (e.e. adennydd, coesau, antenau, darnau o’r corff)
- Rhannwch eich cronfa ddata ganghennog, pedwar mân fwystfil, sydd wedi hanner ei adeiladu. Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu cwestiynau i lenwi’r bylchau. Ailadroddwch gydag 8 mân fwystfil ar gyfer eich disgyblion mwy galluog. Esboniwch iddyn nhw y dylai’r cwestiwn cyntaf eu rhannu yn ddau grŵp o bedwar.
- Rhowch gyfle i’r disgyblion chwarae gyda chronfeydd data canghennog ei gilydd.
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Purple Mash neu J2E eto, mae’n hen bryd iddyn nhw wneud hynny. Mae’r J2E am ddim trwy Hwb a gellir talu tanysgrifiad i gael Purple Mash. Soniwch am hyn wrth yr Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth cyn gynted â phosibl!
- Gellir gwneud y gweithgaredd yma heb dechnoleg, gan ddefnyddio lluniau o gardiau ac ysgrifennu’r cwestiynau. Fe fyddwch yn dal i gyflawni elfen y Fframwaith.
Gweithgaredd 2
Mynydd o Gamgymeriadau
Diben y gweithgaredd olaf yma ydy rhoi cyfle i’r disgyblion ychwanegu cofnodion i gronfa ddata ddigidol. Mae’n weithgaredd digon syml ond mae angen cryn dipyn o waith paratoi. Mae yna ddull cyflymach ar Purple Mash i athrawon sydd ddim yn hyderus (gweler y syniad amrywiad).
Paratoi
- Gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion gyfrifon mewngofnodi ar gyfer meddalwedd cronfa ddata (Purple Mash neu J2Data)
- Lluniwch gronfa ddata mynyddoedd Cymru mewn 2Investigate neu J2Data yn cynnwys meysydd ar gyfer Enw, Uchder, Sir, Gogledd neu De Cymru, Cadwyn o Fynyddoedd.
- Ychwanegwch gofnod cywir ar gyfer ychydig o fynyddoedd, yna cofnod ar gyfer yr Wyddfa gyda manylion anhghywir, yna cofnod ar gyfer Ben Nevis (iddyn nhw ei ddileu gan nad yw’n fynydd yng Nghymru).
- Arbedwch y gronfa ddata mewn ffeil y gall eich disgyblion ei hagor (e.e. Ffeil Dosbarth) neu ei gosod fel 2Do os yn Purple Mash.
Sut i Greu Cronfa Ddata (Purple Mash)
Sut i Greu Cronfa Ddata (J2Data)
Gweithgareddau:
- Mae’r disgyblion yn agor y gronfa ddata, ac os yn J2Data, yn arbed fersiwn o dan eu henw eu hunain. (Os ydy’r gwaith wedi’i osod fel 2Do yn Purple Mash, yna does dim angen gwneud hyn).
- Dywedwch wrth y disgyblion mai cronfa ddata am fynyddoedd Cymru ydy hon, ond bod yna rai camgymeriadau ynddi. Ydyn nhw’n gallu helpu drwy ddarganfod, cywiro ac os oes angen, eu dileu?
- Mae’r disgyblion yn ychwanegu eu cofnodion eu hunain o fynyddoedd Cymru eraill gan ddefnyddio Google i ddarganfod y cofnodion maes.
- Gofynnwch i’r disgyblion chwilio’r gronfa ddata gyda chwestiynau fel "Pa un ydy’r mynydd uchaf?", "Yn eich cronfa ddata, oes yna fwy o fynyddoedd yng Ngogledd neu yn Ne Cymru?", “Pa fynydd ydy’r uchaf yn Ne Cymru?”
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Purple Mash neu J2E eto, mae’n hen bryd iddyn nhw wneud hynny. Mae’r J2E am ddim trwy Hwb a gellir talu tanysgrifiad i gael Purple Mash. Soniwch am hyn wrth yr Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth cyn gynted â phosibl!
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.