Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.1
Gweithgaredd 1
Amlygu Enghraifft
Gellir cyflawni’r agwedd gynllunio o’r elfen yma trwy amrywiol weithgareddau cynllunio. Mae eich disgyblion yn gwneud y math yma o gynllunio ym mhob pwnc trwy drafod meini prawf llwyddiant, modelu sut i’w cyflawni a chreu cynllun ar gyfer eu gwaith o flaenllaw. Does dim angen penodol i wneud y cynllunio yma gyda thechnoleg ond os ydych eisiau ymgorffori technoleg yma dyma un ffordd o wneud hynny.
Paratoi:
- Lawrlwythwch ap sydd yn eich galluogi i sgrifellu ar ben delweddau (mae Skitch yn enghraifft da).
- Paratowch fodel enghreifftiol o ba bynnag dasg rydych eisiau i’ch disgyblion ei chyflawni.
Gweithgareddau:
- Dangoswch enghraifft o’r brif dasg, beth bynnag y bo, i’r disgyblion a datgymalwch ef gyda’ch gilydd gan amlygu’r elfennau pwysig yn y genre honno.
- Gofynnwch i bob disgybl dynnu llun o’r enghraifft a’i agor yn yr ap sgrifellu (e.e. Skitch). Yna gallan nhw ychwanegu labeli i’w ffotograff yn amlygu’r prif elfennau.
- O’r gwaith yma, mae modd iddyn nhw wedyn ysgrifennu eu meini prawf eu hunain ar gyfer y brif dasg.
Cofiwch
- Unwaith y byddan nhw wedi creu eu meini prawf llwyddiant, fe allan nhw ei ddefnyddio wedyn fel sail ar gyfer eu cynllun. Gweler y gweithgaredd Popplet ym Mlwyddyn 3, 3.1 'Cynllunio’ ar gyfer awgrym i weithgaredd.
Gweithgaredd 2
Allweddeiriau Allweddol 2
Mae chwilio ar-lein yn sgil y mae’r rhan fwyaf o oedolion yn ei gymryd yn ganiataol. Ond rydyn ni’n aml yn tybio yn anghywir bod plant yn gallu gwneud hynny hefyd. Mae angen dysgu disgyblion sut i chwilio am wybodaeth benodol trwy ddewis allweddeiriau yn hytrach na theipio brawddegau llawn. Dechreuodd y disgyblion ddysgu’r sgil yma ym Mlwyddyn 3. Mae’r gweithgaredd yma yn eu galluogi i barhau i ymarfer.
Gweithgareddau:
- Atgoffwch y disgyblion sut mae peiriannau chwilio yn gweithio. Ar y lefel mwyaf sylfaenol maen nhw’n edrych ar yr holl eiriau rydych chi wedi eu teipio ar wahân ac yn chwilio am wefannau sydd yn cynnwys y geiriau hynny. Mae gwefannau sydd â’r geiriau yn y drefn gywir yn ymddangos yn uwch ar y rhestr. Rhaid inni felly ddewis y geiriau mwyaf perthnasol.
- Fel dosbath fe fyddwch yn creu fideo gwybodaeth ar wlad o’ch dewis chi. Pa gwestiynau ddylai eu hateb? Lluniwch restr o awgrymiadau’r disgyblion gan ysgrifennu eu cwestiynau fel maen nhw’n eu gofyn.
- Dewiswch y frawddeg hiraf a mwyaf hirwyntog, teipiwch hi i mewn i beiriant chwilio (e.e. Google). Defnyddiwch eich profiad o chwilio ar-lein i ddewis cwestiwn na fydd yn rhoi ateb clir.
- Sut y gallwn wella’r chwiliad? Fel dosbarth, dewiswch yr allweddeiriau pwysicaf a chwiliwch eto, gan gael gwell ateb gobeithio na’ch canlyniad cyntaf.
- Atgoffwch y disgyblion i sgimio’r canlyniadau i weld pa wefannau sydd yn debygol o fod âr wybodaeth orau. (Mae hon yn sgil o weithgaredd chwilio Blwyddyn 3).
- Mae pob grŵp o ddisgyblion yn dewis gwlad i greu fideo amdani. Fe ddylen nhw chwilio am yr wybodaeth yr oedd y dosbarth eisiau ei chynnwys yn y fideos. Yn eu llyfrau fe ddylen nhw ysgrifennu’r cwestiwn gwreiddiol, yr allweddeiriau maen nhw wedi eu teipio a’r wybodaeth maen nhw wedi ei darganfod.
- Yna gallan nhw greu fideo tri darn ar y wlad maen nhw wedi ymchwilio iddi (gweler 3.2 ‘Creu’, ‘Ffotograffau a Fideos’).
Cofiwch
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn iddyn nhw chwilio am ffeithiau penodol i ateb cwestiynau penodol, nid chwilio’n llac am unrhyw wybodaeth ar bwnc.
- Mae Google wedi gwella cryn dipyn ar ddeall cwestiynau hirwyntog. Fel enghraifft o chwiliad aneffeithiol gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod cwestiwn hirwyntog addas!
- Os ydy Blwch Ateb Google yn ymddangos, esboniwch mai dyma ymdrech Google i roi atebion cyflym i bobl sydd yn teipio cwestiynau llawn.
Activity 3
Gwir neu Gau!
Rydyn nin byw mewn cyfnod o wybodaeth gamarweiniol a ffeithiau ‘amgen’ honedig. Yn anffodus, mae nifer o’n disgyblion yn rhoi gormod o ffydd yn yr hyn maen nhw’n ei ddarllen ar-lein ac mae’n bwysig ein bod yn eu dysgu i ddilysu eu ffeithiau a pheidio â chredu popeth maen nhw’n ei ddarllen. Mae’r gweithgaredd yma yn gofyn iddyn nhw wneud rhywfaint o ymchwil syml, ond mae’n rhoi cryn dipyn o ffeithiau ffug iddyn nhw er mwyn eu baglu.
Paratoi:
- Am unwaith, does dim gwaith paratoi!
Gweithgareddau:
- Dywedwch wrth eich disgyblion y byddan nhw’n archwilio rhai o anturiaethwyr enwocaf y byd. Beth ydy anturiaethwr? Ydy’r disgyblion yn gallu enwi rhai?
- Cyflwynwch ddwy reol euraid ymchwil ar-lein:
- Ysgrifennwch nodiadau yn eich geiriau eich hun, Peidiwch â chopïo air am air.
- Cymrwch nodiadau o’r ffeithiau rydych yn eu deall yn unig.
- Gofynnwch iddyn nhw fynd ar lein a mynd i www.allaboutexplorers.com
- Mewn parau gofynnwch i’r disgyblion glicio ar 'Explorers A to Z' a dewis anturiaethwr.
- Fe ddylen nhw ddewis tri hoff ffaith am eu hanturiaethwr a’u cyflwyno i’r dosbarth.
- Eisteddwch yn ôl a gweld os oes unrhyw un o‘r disgyblion (os o gwbl!) yn sylweddoli bod yr holl ffeithiau ar y wefan yma yn anghywir! (Wnaeth Christopher Columbus ddim ymddangos ar Heno!)
- Unwaith y byddan nhw’n sylweddoli, pwysleisiwch bwysigrwyddd peidio â chredu popeth rydyn ni’n ei ddarllen ar-lein. Dysgwch nhw sut i wirio unrhyw beth sydd yn swnio’n rhy rhyfeddol i fod yn wir ddwywaith:
- Ydy’r wefan yn edrych yn ddibynadwy?
- Pwy ysgfrifennodd hi? Ydy hi’n wefan swyddogol?
- Ydych chi’n gallu darganfod dwy ffynhonnell arall i gefnogi’r ffaith?
Cofiwch
- Mae’r ddwy reol euraid ymchwil yn bwysig! Atgoffwch y disgyblion o hyn yn aml. Os ydyn nhw wedi ysgrifennu ffaith sydd yn swnio’n rhy gymhleth i’w gallu, gofynnwch iddyn nhw beth mae’n feddwl.