Menu

Prosesu Geiriau

3.2 - Creu

Cyflwyniad

Mae prosesu geiriau yn un o agweddau 3.2 'Creu'. Mae’n ymwneud â chreu a golygu testun.

Ym Mlwyddyn 4 rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar newid edrychiad gwaith wedi’i deipio trwy newid ffont, lliw a maint. Rydyn ni hefyd yn parhau i wella eu sgiliau arbed ac agor, eu cyflwyno i wirio sillafu, dewis argraffydd a golygu delweddau sylfaenol.

Fframwaith

3.2 - Creu

  • creu ac addasu cydrannau aml-gyfryngol mewn un iaith neu fwy gan ddefnyddio ystod o feddalwedd
  • addasu a chyflwyno ystod o destun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo at ddibenion penodol

Sgil wrth Sgil

  • Gwybod pryd i ddefnyddio prosesydd geiriau a phryd i ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi.
  • Newid math o ffont, maint ac arddull
  • Mewnosod darluniau a symbolau i wella gwaith.
  • Amlygu testun a defnyddio torri, copïo a gludo.
  • Dechrau defnyddio gwirydd sillafu a thesawrws, pan fo’n briodol
  • Alfeintio delweddau heb aflunio.
  • Cyflwyno’r bysell Tab
  • Darganfod geiriau ar dudalen gan defnyddio y teclun Darganfod
  • Argraffu i amrywiaeth o argraffwyr
  • Arbed gwaith mewn ffolderi gydag enwau ffeil priodol.
  • Agor ac arbed dogfennau yn hyderus i’r cwmwl ac o’r cwmwl.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

amlygu     mewnosod     copïo     gludo     torri     fformatio     enwau ffeil     ffont     testun     ailfeintio     tocio     cwmwl     argraffwyr     thesawrws

 

Gweithgaredd 1

Ailgreu Stori Tylwyth Teg

Blodeuwedd Remics

Mae’r gweithgaredd cyntaf yn ymwneud â golygu a chywiro testun. Fe fydd y disgyblion yn chware o gwmpas gydag amlinelliad o stori tylwyth teg syml, yn newid rhai geiriau ac ymadroddion i addasu’r stori. Tra’n gwneud hynny, fe fyddan nhw’chwarae gyda lliw, maint a ffont y testun a hefyd yn defnyddio gwirydd sillafu i gywiro’r holl gamgymeriadau (bwriadol gobeithio) yr ydych chi wedi gadael yn y gwreiddiol

Paratoi:

  • Ysgrifennwch grynodeb un paragraff o stori tylwyth teg adnabyddus (neu hyd yn oed yn well, stori o’r Mabinogi fel Blodeuwedd).
  • Gwnewch yn siŵr bod yna rai camgymeriadau sillafu yn eich gwaith.

Gweithgareddau:

  1. Dylai’r disgyblion agor eu copi eu hunain o’ch crynodeb o stori tylwyth teg (naill trwy agor mewn Word neu arbed eu copi eu hunain, neu trwy wneud copi gyda Google Docs neu Word 365 neu gallwch chi rannu copi gyda nhw trwy ddefnyddio Google Classroom).
  2. Dangowch iddyn nhw sut i adnabod camgymeriadau sillafu (y llinell goch) a’u cywiro (fel rheol mae clic de yn dangos y sillafu cywir a awgrymir)).
  3. Atgoffwch nhw nad ydy gwirydd sillafu yn berffaith. Ni fydd yr homoffon anghywir yn cael ei nodi.
  4. Gofynnwch i’r disgyblion addasu’r stori mewn dull diddorol neu ddigrif, er enghraifft fe fydd Elen Benfelen yn cyfarfod tri zebra, mae Hugan Fach Goch yn cael ei bwyta gan y blaidd neu mae Blodeuwedd wedi cael ei gwneud o dameidiau o fwyd yn hytrach na blodau.
  5. Gofynnwch iddyn nhw amlygu unrhyw eiriau y maen nhw wedi eu newid trwy newid ffont, lliw a maint y testun.
  6. Gofynnwch i’r disgyblion ychwanegu delweddau yn berthynol i’r stori addasiedig o’r we ac ymarfer eu hailfeintio o’r corneli (i sicrhau nad ydyn nhw wedi cael eu haflunio).
  7. Yna, gofynnwch iddyn nhw arbed eu gwaith i ffolder benodol gan roi enw ffeil priodol arni.
  8. I gloi, fe ddylai’r disgyblion argraffu eu gwaith i argraffydd penodol.

Cofiwch

  • Trafodwch sut rydyn ni’n defnyddio prosesu geiriau ar gyfer tasgau sydd yn:
    • Cynnwys testun yn bennaf.
    • Yn debygol o gael eu hargraffu.
  • Atgoffwch nhw o’r gwahaniaeth rhwng Clo Caps a Shift a beth mae’r botymau Diwedd a Hafan yn ei wneud (os ar beiriant Windows)
  • Dysgwch nhw sut mae’r botwm Tab yn symud testun ar hyd y llinell
  • Os nad ydyn nhw’n gwybod eisoes, trafodwch y gwahaniaeth rhwng arbed ar y cyfrifiadur (yn lleol) ar y gweinydd (rhwydwaith) ac yn y cwmwl. Gallwch fynd â nhw efallai i weld gweinydd yr ysgol er mwyn iddyn nhw weld yn union beth ydy e.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu newid lliw, maint a ffont testun.
  • Rwy’n gallu mewnosod, ailfeintio a thocio delweddau o’r cyfrifiadur a’r we.
  • Rwy’n gallu argraffu i’r argraffydd cywir.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.3 – Hawliau Digidol

Gallwch gynnal trafodaeth am hawlfraint delweddau a sut y dylen ni roi cydnabyddiaeth.

2.3 Storio a Rhannu

Mae dysgu eich disgyblion i arbed gwaith yn y ffolder cywir, gydag enw ffeil priodol, yn arbed cymaint o amser i chi yn y pendraw! Cofiwch eu dysgu sut i agor yn ogystal â sut i arbed.

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Trafodwch pa allweddeiriau i’w defnyddio pan yn chwilio ar-lein am ddelweddau.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

ffont     amlygu     testun     torri     copïo     gludo     clo caps     shift     mewnosod     delwedd     enw     ffeil     ffolder

Syniadau Amrywio

Mae’n amlwg y gellir addasu agwedd stori dylwyth teg y dasg yma i gyd-fynd gyda beth bynnag ydy eich pwnc cyfredol. Gallai fod yn addasu idiomau i greu rhai newydd, newid cyfarwyddiadau coginio i goginio teisen enfawr neu ymarfer rhigymu drwy addasu rhigymau. Ond peidiwch â’u llethu gyda sgiliau iaith newydd. Diben y dasg yma ydy dysgu sgiliau fformatio a dylunio.

Gweithgaredd 2

Creu Geirfa

Gellir ailadrodd y dasg syml yma yn aml (gyda gwahanol destun) i helpu i gyflwyno geirfa newydd yn benodol i bwnc. Fe fydd y disgyblion yn creu geirfa o allweddeiriau gan ddefnyddio’r offer geiriadur a thesawrws sydd wedi’u hadeiladu i mewn i  Word neu Google Docs.

Paratoi:

  • Chwiliwch am ddarn o destun, neu ysgrifennwch un am eich pwnc newydd. Rhaid iddo gynnwys nifer o allweddeiriau eich pwnc (y rhan fwyaf ohonyn nhw fwy nag unwaith) a rhaid iddo fod yn y Saesneg.
tudors glossary

Gweithgareddau:

  1. Rhannwch y testun gyda’ch disgyblion fel bod gan bawb eu copi eu hunain (naill ai trwy agor eich fersiwn chi ac yn ei ‘Arbed Fel’ yn Word, neu trwy ddefnyddio ‘Gwneud Copi’ yn Google Docs neu trwy rannu copi’r un trwy Google Classroom).
  2. Gofynnwch i’r disgyblion ddarllen y testun mewn parau, newid lliw unrhyw air nad ydyn nhw’n sicr o’i ystyr.
  3. Gofynnwch am enghreifftiau o eiriau y mae’r disgyblion wedi’u hamlygu, a gwneud rhestr o’r allweddeiriau.
  4. Rhaid i’r disgyblion ddefnyddio’r swyddogaeth ‘Darganfod’ i ddarganfod yr holl enghreifftiau o’r allweddeiriau ar restr y dosbarth. Maen nhw’n gallu eu lliwio mewn lliw gwahanol.
  5. Yna fe ddylen nhw glicio de ar y geiriau a dewis y dewisiadau Geiriadur a Thesawrws (Word) neu dewis Diffino (Google Docs) i ddarganfod diffiniad o’r gair hwnnw a rhestr o gyfystyron.
  6. Ar waelod y dudalen fe ddylen nhw greu Geirfa yn esbonio ystyr pob allweddair yn eu geiriau eu hunain a chynnwys ychydig o gyfystyron.

Noder: Mae'r dasg hon ond yn gweithio yn y Saesneg oherwydd fod Geiriadur Google Docs ddim yn y Gymraeg.

Cofiwch

  • Canolbwyntiwch ar y sgiliau pwysig yma – amlygu a newid lliw ffont, defnyddio’r offeryn Darganfod, defnyddio’r offer geiriadur a thesawrws.
  • Does dim angen argraffu pob darn o waith. Trafodwch gyda’ch disgyblion os dylid argraffu’r gwaith yma neu ei arbed yn unig yn eu ffolder gweinydd/cwmwl.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu defnyddio’r offeryn Darganfod i ddarganfod geiriau.
  • Rwy’n gallu cael diffiniad geiriadur a rhestr o gyfystyron ar gyfer unrhyw air.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Er bod yr elfen yma yn delio’n bennaf gyda chwiliadau ar-lein, mae’r disgyblion yn chwilio yma yn eu dogfennau am eiriau ac yn chwilio geiriadur a thesawrws ar-lein.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid a hunanasesiad arferol.

Geirfa

amlygu     lliw     testun     darganfod     geiriadur     thesawrws     diffinio     clic de     cyfystyron

Syniadau Amrywio

Gallech wneud gweithgaredd tebyg mewn tudalen we. Mae gan y rhan fwyaf o borwyr fotwm ‘Darganfod’ yn eu bwydlen ac yn gallu rhoi diffiniad geiriadur os ydych yn clicio de ar y gair.