Cyflwyno
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Creu Cyflwyniad 2
Rhyw fersiwn o "Lluniwch PowerPoint ar Awstralia / Llewod / Sêr" fu’r wers TGC nodweddiadol i’r rhan fwyaf o athrawon am gyfnod llawer rhy hir. Yn anffodus, mae nifer yn syrthio i’r fagl o dybio bod eu disgyblion yn gwybod sut i ddefnyddio PowerPoint heb i neb ddysgu’r sgliau iddyn nhw erioed. Canolbwyntiwch ar agweddau newydd a diddorol o’r dechnoleg ac fe ddaw PowerPoint neu Google Slides yn werth chweil unwaith eto!
Noder: Mae’r gweithgaredd yma’n dilyn ymlaen o ‘Creu Cyflwyniad’ ym Mlwyddyn 3. Os na ddysgwyd y gweithgaredd hwnnw i’ch disgyblion ym Mlwyddyn 3, efallai y byddwch eisiau dechrau yno.
Paratoi:
- Gwnewch yn siŵr bod y disgyblion wedi ymchwilio i’w pwnc mewn gwersi blaenorol neu bod ganddyn nhw daflenni ffeithiau clir o’u blaenau er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar y sgiliau technoleg yn y gweithgaredd yma.
Gweithgareddau:
- Dechreuwch drwy ddangos cyflwyniad enghreifftiol. Fe ddylech drafod y gwahanol fathau o gyfryngau (testun, delweddau, fideo, sain), a strwythur y cyflwyniad (e.e. os mai Awstralia ydy’r pwnc, un sleid ar gyfer cyflwyniad, un ar gyfer hanes, un ar gyfer bwyd, un ar gyfer chwaraeon etc.).
- Trafodwch y gwahanol feddalwedd cyflwyno sydd ar gael (PowerPoint, Google Slide, Prezi etc) a sut maen nhw’n addas i’r gynulleidfa dan sylw.
- Gofynnwch iddyn nhw greu eu tudalen deitl yn annibynnol. (Fe ddylen nhw fod yn hyderus yn y sgiliau yma ers Blwyddyn 3).
- Gofynnwch iddyn nhw benderfynu ar strwythur eu cyflwyniad -faint o sleidiau, pwnc pob sleid etc. Mae modd iddyn nhw naill ai gynllunio hyn ar bapur neu greu sleidiau yn y drefn gywir gyda’r teitlau yn unig yn eu lle.
- Yna gofynnwch i‘r disgylion newid dyluniad neu liw cefndir pob sleid, o bosibl i gyd-fynd gyda phwnc y sleid hwnnw.
- Atgoffwch nhw sut i ychwanegu blychau testun, ychwanegu, tocio ac ailfeintio delweddau a sut i ychwanegu fideos
- Mae’r disgyblion yn creu eu sleidiau, yn mewnosod testun, delweddau a fideos.
- Dangoswch iddyn nhw sut i wneud i ddelweddau a thestun ymddangos gydag animeiddio. Gall y disgyblion ychwanegu hyn i rai agweddau o’u cyflwyniad.
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael cyfle i gyflwyno eu cyflwyniad terfynol i gynulleidfa (hyd yn oed os mai gweddill y dosbarth ydy’r gynulleidfa honno). Diben cyflwyniadau ydy eu cyflwyno! Gofynnwch i’r disgyblion am adborth ar y cyflwyniadau maen nhw’n eu gwylio.
Cofiwch
- Yn dibynnu ar brofiad blaenorol eich disgyblion, efallai bod pawb yn gweithio ar yr un meddalwedd (e.e. PowerPoint) ond yn y pendraw y nod ydy rhoi hyder i’r disgyblion ddewis pa feddalwedd cyflwyno i’w ddefnyddio.
- Pwysleisiwch y neges nad ydyn ni’n argraffu popeth, dim ond y gwaith gorffenedig rydyn ni eisiau ei arddangos. Diben cyflwyniadau ydy eu cyflwyno ac nid eu hargraffu.
- Trafodwch y gwahaniaeth rhwng arbed ar y cyfrifiadur (yn lleol) ac ar y gweinydd (rhwydwaith). Efallai y gallech fynd â nhw i weld gweinydd yr ysgol er mwyn iddyn nhw allu gwerthfawrogi beth yn union ydy e.
Nodyn Pwysig
Rhan bwysig o ‘Cyflwyno’ ym Mlwyddyn 4 ydy rhoi hyder i’r disgyblion i ddefnyddio amrediad o feddalwedd cyflwyno. Felly peidiwch â defnyddio. PowerPoint yn unig trwy gydol y flwyddyn! Ar Hwb fe fydd gennych fynediad i G Suite for Education felly defnyddiwch Google Slides yn ogystal â Powerpoint. Mae Prezi yn feddalwedd cyflwyno poblogaidd arall sydd ar gael am ddim i ysgolion.