Iechyd a Lles
1.2
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Gellir dysgu effeithiau cadarnhaol a negyddol addasu delweddau yn ddigidol gan ddefnyddio ‘Y Llun Perffaith’ (Gwers 5, Blwyddyn 5 o gynlluniau dysgu Diogelwch Ar-lein SWGfL.)