Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth
1.3
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Dyfynnu Ymchwil Ar-lein
Mae’r elfen yma yn cael ei thrafod yn drylwyr yn ‘Sut i Ddyfynnu Gwefan?’ (Gwers 4, Blwyddyn 5 o gynlluniau dysgu Diogelwch Ar-lein SWGfL)
Delweddau wedi’u Haddasu yn Ddigidol
Mae’r rhan yma yn cysylltu gydag 1.2 ‘Iechyd a Llesiant’ sydd, ym Mlwyddyn 5, yn canolbwyntio ar ddelweddau wedi’u haddasu’n ddigidol.