Menu

Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio

1.4

Intro

'Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio’ ydy’r agwedd o’r llinyn ‘Dinasyddiaeth’ y byddwch fwyaf cyfarwydd ag ef.

Ym Mlwyddyn 5 rydyn ni’n canolbwyntio ar sut i amddiffyn ein hunain rhag y posibilrwydd o gamdriniaeth ar-lein.

Fframwaith

1.4 - Ymddygiad Ar-lein a Seibrfwlio

  • Arddangos ymddygiad priodol ar-lein a gweithredu strategaethau i ddiogelu eu hunain ac eraill rhag peryglon ar-lein, bwlio ac ymddygiad amhriodol, e.e. troi sylwadau i ffwrdd ar gyfryngau digidol, blocio defnyddwyr; gwybod sut i adrodd am gynnwys amhriodol a chamddefnydd, a delio ag ef.

Geirfa

blocio     sylwadau     rhannu     seiberfwlio     dilornus     

Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.

20161118_141908

Adnodd Diogelwch Ar-Lein SWGfL

Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.

Gweithgareddau

Dydy Adnawdd Diogelwch Ar-Lein Cymru SWGfL ddim yn trafod yr elfen yma yn fanwl o gwbl. Dyma rai gweithgareddau a phwyntiau trafod y gallech eu defnyddio:

  • Trafod troliau rhyngrwyd, sut mae rhai pobl yn cymryd pleser o fod yn annymunol i eraill ar-lein. Mae unrhyw beth a rennir yn gyhoeddus yn debygol o ddenu troliaid ac felly mae angen inni ystyried sut i amddiffyn ein hunain.
    • Rhannwch yn breifat yn unig. Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd osodiadau preifatrwydd i gadw dieithriaid allan.
    • Diffoddwch sylwadau. Dangoswch bod y sylwadau wedi eu diffodd ar nifer o fideos YouTube.
    • Blociwch ddefnyddwyr ymosodol – mae hynny’n llai defnyddiol gan ei fod yn rhywbeth adweithiol.
  • Atgoffwch nhw’n gyson o bwysigrwydd adrodd ar unrhyw gynnwys neu negeseuon ymosodol neu amhriodol wrth oedolyn.