Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.1
Gweithgaredd 1
Fy Meini Prawf Llwyddiant
Gellir cyflawni agwedd gynllunio’r elfen yma drwy nifer o weithgareddau cynllunio. Mae eich disgyblion yn gwneud y math yma o waith ym mhob pwnc – yn creu eu meini prawf llwyddiant eu hunain, yn dangos sut i’w cyflawni, yn creu cynllun o’u gwaith o flaen llaw. Does dim angen penodol i wneud y cynllunio yma gyda thechnoleg, ond os ydych eisiau ymgorffori technoleg yna dyma un ffordd o wneud hynny:
Gweithgareddau:
- Wrth baratoi ar gyfer prosesu geiriau neu gyflwyno tasg, anogwch y disgyblion i benderfynu o flaen llaw, trwy drafodaethau, beth ddylai eu meini prawf fod.
- Gofynnwch i bob disgybl ddefnyddio’r swyddogaeth sylwadau ar Office 365 neu Google Docs/Slides i deipio eu meini prawf llwyddiant eu hunain. Fe fydd wedyn bob amser yn weledol iddyn nhw wrth iddyn nhw greu eu prif dasg.
Cofiwch
- Fe ddylai eich disgyblion fod yn hyderus iawn wrth ddefnyddio’r swyddogaeth sylwadau gan fod hynny’n rhan o’u gweithgareddau ‘Cydweithio’ yn y blynyddoedd blaenorol.
Gweithgaredd 2
Chwilio’n Ddyfnach
Mae chwilio ar-lein yn sgil y mae’r rhan fwyaf o oedolion yn ei gymryd yn ganiataol. Ond rydyn ni yn aml yn tybio’n anghywir bod plant yn gallu gwneud hynny hefyd. Ym Mlynyddoedd 3 a 4 edrychodd y plant ar ddethol allweddeiriau a sgimio canlyniadau. Ym Mlwyddyn 5 rydyn ni’n symud ymlaen i ddefnyddio rhai symbolau a geiriau allweddol ar gyfer chwiliadau mwy effeithiol a hidlo’r canlyniadau hynny.
Paratoi:
- Dewiswch bwnc sydd yn briodol i’ch disgyblion 9 a 10 oed, sydd wedi bod yn y newyddion dros yr ychydig ddyddiau blaenorol.
Gweithgareddau:
- Dangoswch i’r dosbarth os ydych yn chwilio am unrhyw derm yn Google, yna mae dethol 'Tools' yn rhoi rhai dewisiadau hidlo i chi. Gallwch hidlo i ddangos gwefannau DU yn unig neu i ddangos gwefannau sydd wedi’u diweddaru rhwng dyddiadau neilltuol.
- Gofynnwch i’ch disgyblion ddarganfod y dair erthygl ddiweddaraf a gyhoeddwyd yn y DU am eich digwyddiad newyddion ac i gymryd sgrinlun o bob un.
- Ailadroddwch yr enghraifft ar gyfer chwiliad Google Images, yn dangos yr amrywiol offer sydd ar gael (maint, lliw, math, amser, hawliau defnyddio). Trafodwch pryd y byddai’r rhain yn bwysig:
- Maint – Ydych chi angen llun mwy fel cefndir?
- Lliw – Efallai eich bod angen delweddau du a gwyn i’w lliwio?
- Math – ydych chi esiau delwedd cartwnaidd?
- Canolbwyntiwch ar hawliau defnyddio, trafod rheolau hawlfraint a sut na ddylid defnyddio delweddau pobl eraill heb ganiatâd.
- Gofynnwch i’r disgyblion am amrywiaeth o fathau o ddelweddau yn berthynol i’ch thema newyddion e.e. delwedd mawr, cartŵn, llun y gallaf ei liwio, delwedd heb ddiogelwch hawlfraint.
- Rhannwch Google Slide neu Powerpoint 365 gyda’r disgyblion gyda gwahanol sleid ar gyfer pob math o chwiliad a delwedd. Gall y disgyblioon gopïo a gludo eu delweddau a’u sgrinluniau ar y sleidiau cywir.
- Fel estyniad, dangoswch iddyn nhw sut mae ychwanegu 'AC', 'NEU', '+', '-' neu 'safle' i’r chwiliad yn gallu helpu i gulhau’r canlyniadau.
Chwilio yn Ddyfnach
Cofiwch
- Rhowch amser iddyn nhw ymarfer y gwahanol offer ac i edrych ar y dewisiadau eraill fel chwiliad newyddion, chwiliad llyfrau, chwiliad fideo a chwiliad siopa.
Gweithgaredd 3
Helfa Dystiolaeth
Yn yr oes yma o gamwybodaeth a ffeithiau amgen, mae’n bwysig bod eich disgyblion yn ymarfer y gelfyddyd o brofi neu ddadbrofi amrywiol hawliadau. Fe fyddwch yn datgan nifer o hawliadau rhyfeddol, rhai yn wir a rhai ddim. Fe fydd rhaid i’r disgyblion rasio i ddarganfod tair ffynhonnell sydd naill ai’n profi neu yn dadbrofi eich hawliadau.
Paratoi:
- Meddyliwch am bump neu ragor o ddatganiadau rhyfedd neu goelion gwrachod, rhai yn wir ac y gellir eu dilysu ar-lein (e.e. gall mynd allan heb wisgo côt roi annwyd i chi (ffug), mae bwyta pysgod yn eich gwneud yn glyfrach (gwir).)
Gweithgareddau:
- Esboniwch i’r disgyblion bod llawer o gamgymeriadau, gorddweud a chelwyddau noeth ar y rhyngrwyd, ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. Yn aml mae’n anodd gweithio allan beth sydd yn wir a beth sydd ddim yn wir ac felly rhaid inni fod yn wyliadwrus ac yn barod i wirio unrhyw ‘ffaith’ sydd yn ymddangos yn rhy dda neu yn rhy wallgof i fod yn wir!
- Trafodwch sut y mae modd iddyn nhw brofi neu ddadbrofi hawliad rhyfeddol. Atgoffwch nhw sut i chwilio’n effeithiol gan ddefnyddio allweddeiriau a sganio’r prif ganlyniadau.
- Rhowch eich ffaith ryfeddol gyntaf iddyn nhw a gadael iddyn nhw rasio i ddarganfod tair ffynhonnell sydd yn ei brofi neu ei ddadbrofi. Gwnewch yr un peth gyda’r ffeithiau eraill.