Menu

Gwerthuso a Gwella

3.3

Cyflwyniad

Mae gwerthuso a gwella gwaith yn gonglfaen addysgu a dysgu. I feistrioli’r elfen yma o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, does dim angen i chi o angenrhaid ddefnyddio technoleg. Gall eich disgyblion ddefnyddio’r technegau hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid y maen nhw’n gyfarwydd â nhw.

Ond, wedi dweud hynny, mae yna ffyrdd ardderchog o ddefnyddio technoleg yn effeithiol ar gyfer hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid. Dyma rai awgrymiadau isod.

Fframwaith

3.3 - Gwerthuso a Gwella

  • Esbonio'r rhesymau am gynllun a chynnwys eu gwaith eu hunain, e.e. gwerthuso'r cyflwyniad o ran priodoldeb a'r gynulleidfa
  • Rhoi sylwadau am resymau o ran y diwyg.
  • Gwahodd adborth/ymatebion gan eraill.
  • Creu grwpiau a rhannu gwaith rhyngddynt i ganiatáu adolygu gwaith.

Sgil wrth Sgil

  • Esboniwch y rhesymau dros y dewisiadau a wnaethpwyd yn eu gwaith.
  • Adolygwch y gwaith yn rheolaidd mewn grwpiau.

Geirfa

hunanasesiad     asesiad cymheiriaid     camgymeriad     cywiro     sylwadau adeiladol     gwella     cryfder

Gweithgareddau

  1. Gadewch iddyn nhw dynnu llun o’u gwaith sydd yn mynd i gael ei hunanasesu a’i fewnosod yn Explain Everything ar yr iPad. Yna fe ddylen nhw nodi hynny a recordio troslais yn rhoi eu hadborth.
  2. Rhannwch eich dosbarth yn ‘Grwpiau Adolygu’. Gofynnwch i bob grŵp greu ffolder yn eu gyrrwyr ar-lein (Google Drive neu OneDrive) lle maen nhw’n gosod enghreifftiau o’u gwaith yn rheolaidd. Bob rhyw bythefnos, treuliwch wers i roi cyfle i’r disgyblion adolygu a gwneud sylwadau ar y gwaith a rannwyd gan aelodau eu grŵp.
  3. Lluniwch sgrin werdd (gweler 3.2 ‘Ffotograffau a Fideos’) neu   Tellagami yn esbonio rhai o’r dewisiadau y maen nhw wedi’u gwneud yn eu gwaith. Cynhwyswch ffotograff neu glip fideo o’u gwaith.
  4. Pan fo’r disgyblion yn gwneud gwaith Cyflwyno, yn defnyddio eu dewis eu hunain o feddalwedd, gwnewch yn siŵr eu bod yn ystyried ac yna’n esbonio eu dewis o ddyluniad (cefndir, lliw, testun, delweddau etc.) a sut maen nhw’n berthynol i’r pwnc.
explain everything
iMovie