Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
1.1
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Lleoliad a Metadata
Lluniwch dudalen cyfryngau cymdeithasol ffug (naill ai tudalen enghreifftiol ar PowerPoint neu dudalen fel Fakebook (classtools.net)). Gwnewch yn siŵr bod y post diweddaraf yn ymwneud ag ymweld â lleoliad cyhoeddus e.e. y traeth.
Trafodwch rhai manteision a phethau negyddol ynghylch cyhoeddi eich lleoliadau gyda’ch disgyblion:
- Gall eich ffrindiau eich darganfod, mae pobl yn gwybod eich bod wedi mynd i rhywle difyr neu ddiddorol
- Gall pobl nad ydych chi eisiau iddyn nhw weld, wybod lle rydych chi; allwch chi ddim ffugio eich bod wedi bod yn rhywle arall
Dangoswch faint o wybodaeth sydd mewn ffotograff (amser, dyddiad, lleoliad, camera). Defnyddiwch wefan syllwr metatag (gwglwch "view photo metatag") i ddangos i’r disgyblion faint o fanylion sydd mewn un ffotograff.
Mae ‘Y Llun Perffaith' (Gwers 5, Blwyddyn 5 o’r cynlluniau dysgu Diogelwch Ar-lein SWGfL) yn delio gyda photoshop a’i effaith ar ddelwedd corff negyddol.
Gwybodaeth Bersonol, Mynediad i Ddyfeisiadau a Safleoedd Diogel
Dangoswch enghraifft iddyn nhw o ap yn gofyn caniatâd i gael mynediad i gamera, ffotograffau neu feicroffon ar yr iPhone. Esboniwch, er ein bod fel arfer yn derbyn ceisiadau o’r fath yn yr ysgol (gan mai athro/athrawes sydd wedi dewis yr aps ysgol), gartref fe ddylen ni fod yn fwy gofalus a meddwl pam y dylai ap fod eisiau mynediad o’r fath.
Yn yr un modd, dangoswch wefan iddyn nhw sydd yn gofyn am wybodaeth bersonol cyn caniatáu mynediad (sef unrhyw wefan y mae angen i chi gofrestru ar ei chyfer). Pam bod y wefan eisiau gwybodaeth o’r fath? Efallai er mwyn personoleiddio ei chynnwys i chi, ond gallai hefyd fod eisiau gwerthu eich gwybodaeth i gwmnïau marchnata.
- Mae Gwers 3, Blwyddyn 6 o gynlluniau dysgu Diogelwch Ar-lein SWGfL yn delio gyda 'Rheolau Preifatrwydd'.
Presenoldeb Ar-lein
Trafodwch yn rheolaidd y ffaith bod pobl yn ceisio gwneud eu hunain i edrych yn dda ar-lein, dim ond yn postio pethau cadarnhaol amdanyn nhw’u hunain a byth unrhyw beth drwg. Atgoffwch nhw y dylen nhw gofio hyn os ydyn nhw fyth yn meddwl bod bywydau pobl eraill yn ‘ffantastig’. Mae gan bawb adegau trist ac mae gan bawb adegau hapus.