Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio
1.4
Mae’r llinyn Dinasyddiaeth ychydig yn wahanol i’r tri arall gan ei fod yn canolbwyntio cymaint ar wybodaeth ag y mae ar sgiliau. Mae yna hefyd gynlluniau Diogelwch Ar-lein blwyddyn ar flwyddyn a grewyd gan Grid ar gyfer Dysgu’r De Orllewin (SWGfL) ar ran Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys llawer o’r llinyn Dinasyddiaeth.
Rydyn ni felly yn cyfyngu ein hunain yn y llinyn Dinasyddiaeth i rai awgrymiadau cyflym, gan ganolbwyntio ar yr ychydig agweddau hynny o Ddinasyddiaeth sydd heb eu gynnwys yng nghynlluniau SWGfL.
Gweithgareddau
Mae Adnawdd Diogelwch Ar-lein Cymru SWGfL yn trafod hyn yn drylwyr.
- Gwers 2, Blwyddyn 6 - Dinesydd Digidol Ardderchog
- Gwers 4, Blwyddyn 6 – Beth yw Seiberfwlio?
- Gwers 2, Blwyddyn 5 – Adduned Dinasyddiaeth Digidol
Dyma rai syniadau am weithgareddau a phwyntiau trafodaeth ychwanegol y gallech eu defnyddio:
- Atgoffwch nhw o bwysigrwydd bod yn gwrtais a pharchus ar-lein. Trafodwch sut y gall seiberfwlio fod yn waeth na bwlio corfforol oherwydd na all y dioddefwr ddianc oddi wrtho, hyd yn oed gartref. Mae seiberfwlio yn eu cyrraedd ym mhobman, ar unrhyw adeg o’r diwrnod.
- Trafodwch droliaid rhyngrwyd, sut mae rhai pobl yn cael pleser o fod yn annymunol i eraill ar-lein. Mae unrhyw rannu cyhoeddus yn debygol o ddenu troliaid ac felly mae angen inni ystyried sut i amddiffyn ein hunain.
- Dim ond rhannu’n breifat. Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd osodiadau preifatrwydd i gadw dieithriaid allan.
- Diffoddwch sylwadau. (Fe fyddwch yn sylwi bod sylwadau wedi’u diffodd ar nifer o fideos YouTube.)
- Blociwch ddefnyddwyr ymosodol – mae hyn yn llai defnyddiol gan ei fod yn rhywbeth adweithiol
- Atgoffwch nhw’n rheolaidd o bwysigrwydd adrodd am unrhyw gynnwys neu negeseuon ymosodol neu amhriodol wrth oedolyn.
Er nad yw’n rhan o’r Fframwaith ar gyfer Blwyddyn 6, mae’n bwysig atgoffa’r disgyblion yn rheolaidd o beryglon gor-rannu ar-lein. Fe fydd Gwers 1, Blwyddyn 6 o gynllun dysgu SWGfL, 'Siarad yn Ddiogel Ar-lein' yn eich helpu i addysgu’r pwynt yma.