Menu

Datrys Problemau a Modelu

4.1

Cyflwyniad

Pan fyddwch yn trafod y Fframwaith newydd gydag athrawon cynradd, maen nhw bob amser yn siarad yn bryderus am godio. Ond dydy’r term codio ddim hyd yn oed yn ymddangos yn y Fframwaith! Yr hyn sydd yn ymddangos ydy’r elfen yma – ‘Datrys Problemau a Modelu’.

Mae’r elfen yma yn cynnwys adnabod problem, ei rhannu yn ddarnau y mae modd eu trin, nodi patrymau a datrys y broblem.

Rydyn ni’n defnyddio codio fel un dull o ddysgu sgiliau’r elfen yma, a does dim angen bod yn bryderus. Mae Datrys Problemau a Modelu yn hwyl ac yn llawer iawn symlach nag y gwnaethoch ddychmygu. Bee-Bots, Logo, cyfarwyddiadau ysgrifennu – dyma’r pethau rydych chi wedi bod yn eu dysgu ers degawdau a dydy’r gweithgareddau codio syml a restrir isod yn ddim byd ond estyniad o’r sgiliau hynny.

Fframwaith

4.1 - Datrys Problemau a Modelu

  • Dangos sut y mae rhaglenni'n rhedeg drwy ddilyn dilyniant o gyfarwyddiadau i'r gair ac yn ei drefn
  • Dangos sut mae algorithm yn ddefnyddiol o ran cynrychioli datrysiad i broblem drwy ei brofi
  • Deall bod newid cyfarwyddiadau yn gallu effeithio ar broses, neu hyd yn oed roi terfyn arni; e.e. gall newid cyfarwyddiadau o gwmpas mewn rhaglen gynhyrchu canlyniadau annisgwyl neu achosi i'r rhaglen fethu yn gyfangwbl.

Sgil wrth Sgil

  • Ysgrifennu algorithm byd go iawn i gynrychioli dilyniant o gyfarwyddiadau yn defnyddio dolenni neu weithdrefnau a rhaniadau Ie/Na syml (Gwerthoedd Boole).
  • Llenwi symbolau coll ar siart llif anghyflawn.
  • Defnyddio amgylchedd rhaglenni syml, rhaglennu nifer o godluniau i symud ar orchymyn i wahanol gyfeiriadau ac ar wahanol gyflymdra.
  • Cod dadfygio i nodi camgymeriadau wrth geisio gwneud i nifer o godluniau symud i wahanol gyfeiriadau a chyflymdra mewn amgylchedd raglennu syml.
  • Creu cymeriad, rhif neu destun yn annibynnol sydd yn ailadrodd gweithrediad pan fo testun yn cael ei ychwanegu.
  • Defnyddio amgylchedd raglennu syml, ychwanegu sawl botwm i wahanol ffynonellau fel gwefannau.
  • Gyda chefnogaeth, dilyn cyfarwyddiadau wedi’u gwneud o flaen llaw i greu animeiddio neu gêm syml yn defnyddio rhaglenni gweledol llawn ar raglen fel Kodu neu Scratch.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

codlun     cefndir     dadfygio     camgymeriad     cywiro     dolen     ailadrodd     boole     mewnbwn

Gweithgaredd 1

Y Ddrysfa Ddigyffwrdd

scratch maze game

Fe fydd gan eich disgyblion rhywfaint o brofiad o amgylchedd codio llawn o’u gwaith ym Mlwyddyn 4 gyda’r gath symudliw. Fe fyddan nhw nawr yn ymestyn eu sgiliau drwy greu gêm ddrysfa gyflawn, gan gopïo rhywfaint o god hanfodol ac ychwanegu eu darnau eu hunain.

Paratoi:

  • Lluniwch gyfrif ac ymgyfarwyddo gyda meddalwedd Codio gweledol. Argymhellir Scratch ac mae am ddim ar-lein. (Dewis arall ydy J2Code sydd yn rhan o J2E)
  • Gan ddefnyddio’r cam wrth gam yn y ddolen isod, ewch dros y gweithgaredd y bydd eich disgyblion yn ei wneud a chreu gêm ddrysfa enghreifftiol.

Gweithgareddau

  • Atgoffwch y disgyblion sut i adeiladu cod syml yn Scratch. (Gweler gweithgaredd Codio Cath Symudliw Blwyddyn 4)
  • Dangoswch y gêm ddrysfa syml rydych chi wedi ei chreu. (Gweler y fideo uchod am gyfarwyddiadau cam wrth gam).
  • Gofynnwch iddyn nhw greu eu codlun rheoladwy eu hunain (o’r detholiad yn Scratch, o ddelwedd ar y we neu o’u llun eu hunain) drwy greu pedwar cod syml i symud ym mhob cyfeiriad.
  • Gwnewch yn siŵr eu bod bob amser yn gallu gweld y codau   ‘Yn ôl i’r Dechrau’ ac ‘Eitemau wedi’u Casglu’ holl bwysig drwy eu hargraffu neu eu harddangos ar eich bwrdd gwyn.
  • Fe ddylai’r disgyblion greu’r ddrysfa drwy beintio ar y cefndir.
  • Fe ddylen nhw ychwanegu’r cod ‘Yn ôl i’r Dechrau’ a’i brofi.
  • Y cam nesaf ydy ychwanegu rhai eitemau casgladwy sydd yn diflannu wrth eu cyffwrdd a rhyw fath o wrthrych i ddynodi diwedd eu drysfa.
  • Fel her, gall y disgyblion mwy galluog ychwanegu gelynion a fydd yn eich hanfon yn ôl i’r dechrau wrth eu cyffwrdd.
  • Unwaith y bydd y drysfeydd wedi’u cwblhau, gwnewch yn siŵr bod pawb yn cael digon o amser i chwarae gyda gemau ei gilydd!

Cofiwch

  • Mae’r gweithgaredd yma’n debygol o gymryd cryn dipyn o wersi. Peidiwch â’i ruthro
  • Rhowch ddigon o raff i’w dychymyg. Does dim rhaid i bob drysfa edrych yr un fath.
  • Os oes gennych godwyr hyderus yn eich dosbarth, gadewch iddyn nhw ychwanegu mwy at eu gêm e.e. pwyntiau am gasglu eitemau, ail lefel, sgrin ‘Gêm Drosodd’ os caiff ei chyffwrdd gan elyn. Mae codau ar gyfer yr holl syniadau yma ar gael gyda chwiliad Google.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu codio gêm ar lwyfan gweledol llawn gan ddefnyddio cod enghreifftiol.
  • Rwy’n gallu amrywio codluniau, cefndiroedd a chodau i wneud fy ngêm yn ddiddorol.

Elfennau Fframwaith Eraill

3.2 - Creu

Rydych yn creu gêm.

3.3 – Gwerthuso a gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cod     codlun (cymeriad)     blociau     cyfarwyddiadau     golygfa

Syniadau Amrywio

Mae yna ddigonedd o gemau eraill y dylai Blwyddyn 6 fod yn gallu eu codio os ydych yn rhoi rhai codau enghreifftiol iddyn nhw. Mae gêm rasio, gêm lwyfan neu gêm o fath taro i gyd yn enghreifftiau y mae rhai athrawon wedi’u defnyddio yn y dosbarth. Edrychwch ar Google i gael rhagor o syniadau.