Menu

Cyfathrebu

2.1

Cyflwyniad

Mae technoleg wedi newid byd cyfathrebu yn ddramatig dros y blynyddoedd diweddar, ac mae’n parhau i newid yn gyflym. Hyd yn oed ar yr oedran ifanc yma, fe ddylai disgyblion ddechrau sylweddoli bod yna nifer o ffyrdd o siarad gydag eraill trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd. Fe ddylen nhw hefyd fod yn dysgu cyfrannu at negeseuon grŵp.

Fframwaith

2.1 - Cyfathrebu

  • Siarad am wahanol ffurfiau o gyfathrebu ar-lein, e.e. e-bost, negeseuo, galwad fideo, a'u defnyddiau.

Sgil wrth Sgil

  • Datblygu mwy o ddealltwriaeth bod negeseuon yn cael eu cyfathrebu dros y rhyngrwyd, siarad am wahanol ffurfiau o gyfathrebu.
  • Cyfrannu at gyfathrebiadau sy’n cael eu hanfon gan oedolyn ar ran y dosbarth.

Geirfa

Neges    e-bost     galwad fideo     anfon    derbyn     ateb

Tasgau Ffocws

Negeseuon Aml

Dylai eich disgyblion fod yn ymwybodol o’u profiadau yn y Meithrin bod pobl yn anfon negeseuon at ei gilydd gan ddefnyddio’r rhyngrwyd. Nawr, yn y Derbyn, fe ddylen nhw ddechrau cyfrannu at negeseuon o’r fath.

Ebost pennaeth

Syniadau

  • Gorffennwch bob wythnos drwy anfon neges e-bost fer i’r Pennaeth oddi wrth y dosbarth, yn dweud wrtho/i am yr holl bethau diddorol rydych wedi eu gwneud yn ystod yr wythnos. Gofynnwch i’r disgyblion awgrymu brawddegau i’w cynnwys yn yr e-bost. Yna, ar ddydd Llun, darllenwch ateb y Pennaeth.
  • Trefnwch alwad Skype/Facetime gyda dinesydd o’r Hen Rufain (neu ar ba bynnag bwnc rydych yn ei astudio mewn hanes). Y cyfan sydd ei angen ydy athro/athrawes sydd yn fodlon gwisgo’i fyny ac i fod ar ben arall yr alwad mewn gwahanol ystafell. Anogwch y disgyblion i ofyn cwestiynau er mwyn iddyn nhw gael cymryd rhan yn y drafodaeth.

Y dyddiau yma, mae gan y rhan fwyaf o ysgolion ddulliau o anfon gwybodaeth neu ffotograffau yn uniongyrchol at rieni (trwy e-bost neu trwy rhyw wasanaeth fel Class Dojo neu Schoop). Peidiwch â gadael eich disgyblion allan o hyn. Dangoswch iddyn nhw eich bod yn anfon lluniau ohonyn nhw at eu rhieni a gadewch iddyn nhw ddewis pa lun i’w anfon. Fe fyddan nhw wrth eu bodd!

Cofiwch

  • Does dim disgwyl i’r disgyblion ddeall sut i anfon e-bost neu i wneud galwad fideo ar yr adeg yma. Y cyfan sydd ei angen ydy iddyn nhw weld cyfathrebiadau o’r fath yn digwydd yn rheolaidd. Dechrau gwneud awgrymiadau eu hunain, cyfrannu at gyfathrebiadau dosbarth cyfan a deall bod yna ffyrdd gwahanol o gyfathrebu ar-lein (e-bost, fideo, testun etc.)
  • Tra bod rhai ysgolion yn cael trafferth i wneud galwadau fideo oherwydd hidlwyr rhyngrwyd yr Awdurdod Lleol, dylent allu rhoi mynediad i gyfrif athrawon.
  • Mae hwn yn gyfle ardderchog i gynnwys rhywfaint o ‘Ddinasyddiaeth’. Trafodwch sut na fyddem fyth yn cyfathrebu ar-lein gyda phobl nad ydyn ni yn eu hadnabod.

Darpariaeth Bellach

Cyfathrebu trwy Chwarae Rôl

Chwarae rôl ydy’r ffordd amlwg o ddod â rhywfaint o gyfathrebu digidol yn fyw i’r disgyblion ifanc. Maen nhw’n gallu gwneud galwadau fideo ffug trwy agor yr ap camera a’i bwyntio at eu partner. Yn yr un modd, cadwch fysellfwrdd a sgrin bob amser yn eich ardal chwarae rôl er mwyn iddyn nhw ffugio ysgrifennu negeseuon e-bost at ei gilydd.