Lluniau a Fideos
3.2 - Creu
Tasg Ffocws
Ffotograffau, Fideos a Recordiadau Llais
Camerâu
Mae tynnu lluniau a fideos yn sgil pwysig i’w ddatblygu yn y Derbyn, ac mae disgyblion wrth eu bodd! Trefnwch dasgau rheolaidd lle mae angen i ddisgyblion dynnu lluniau neu fideos o wrthrychau neu o’i gilydd. Er enghraifft:
- Rhowch degannau deinosoriaid o gwmpas y dosbarth a gweld pwy sydd yn gallu tynnu’r mwyaf o luniau o’r deinosoriaid mewn 5 munud.
- Rhowch iPad i’r disgyblion a gofynnwch iddyn nhw dynnu llun o bob disgybl yn y dosbarth gyda nodweddion neilltuol (e.e. pob bachgen, pob disgybl gyda gwallt golau, pob disgybl sydd yn 5 oed). Mae hyn yn cysylltu’n dda gyda’r gweithgareddau yn 4.2 ‘Llythrennedd Data a Gwybodaeth’.
- Gofynnwch iddyn nhw ffilmio fideo o’i gilydd gan roi cyfarwyddiadau i ddarganfod trysor cudd (cysylltiadau gyda 4.1 ‘Datrys Problemau a Modelu’.
Recordio Llais
Gyda chefnogaeth oedolyn, gall disgyblion recordio eu lleisiau drwy ddefnyddio un o’r nifer o apiau iPad. Er enghraifft gall yr athro/athrawes gychwyn Book Creator, gyda ffotograffau o’r disgyblion yn cyflawni tasgau ar bob tudalen. Gan ddefnyddio’r un ap recordiwch y disgyblion yn esbonio beth roedden nhw’n ei wneud yn y ffotograffau ohonyn nhw.
Sut i Ddefnyddio Book Creator
Darpariaeth Bellach
Dydy’r Camera byth yn Cysgu
Camera
Fe ddylai fod yna ddyfeisiadau sydd yn gallu tynnu lluniau bob amser yn y dosbarth. Lluniwch nifer o helfeydd ‘Tynnwch lun/fideos o…’ yn rheolaidd ar eu cyfer. Tra bod iPads yn amlwg yn ddefnyddiol ar gyfer gwneud hyn, chwiliwch am hen gamerâu ar gyfer chwarae rôl hefyd.
Recordio Llais
Mae yna ddigon o adnoddau ar gael i ddisgybion eu defnyddio i recordio eu llais ac i wrando ar recordiadau pobl eraill. Mae modd prynu byrddau gwyn, anifeiliaid wedi’u stwffio a phegiau neu glipiau mawr sydd yn gallu recordio.
- Gallai disgyblion recordio eu henwau ar beg recordio llais pan maen nhw’n ymweld ag ardal yn y dosbarth. Yna gellir clipio’r rhain ar linyn yn yr ardal. Yna gallwch wrando ar y recordiadau fel dosbarth i weld pwy aeth i ‘r ardal honno bob dydd.
- Os oes gennych fwrdd gwyn sydd yn gallu recordio, gall eich disgyblion dynnu llun anifeiliaid arnyn nhw a recordio enw’r anifeiliaid hynny a’r synnau maen nhw’n eu gwneud.
- Gall disgyblion ysgrifennu eu henwau ar y bwrdd gwyn gyda’r gallu i recordio sain, a recordio ffaith amdanyn nhw’u hunain (e.e. ‘Mae gen i chwaer’, ‘Rwyf eisiau bod yn adeiladwr fel Dad’.