Gwerthuso a Gwella
3.3
Gweithgareddau
- Llanwch brosiect Book Creator ar iPad gyda ffotograffau o’r disgyblion wrth eu gwaith. Mae pob plentyn (gyda chefnogaeth) yn creu recordiad llais (neu fideo) yn esbonio beth roedden nhw’n ei wneud yn y lluniau.
- Maen nhw’n tynnu llun o’u gwaith ac ar ôl i chi ei roi i mewn i’r prosiect Book Creator, gall y disgyblion recordio fideo neu recordiad llais yn esbonio beth maen nhw wedi ei wneud.
- Rhowch rai darnau o waith arbennig ar y wal/llinyn. Mae’r disgyblion yn defnyddio dyfais recordio llais bychan (e.e. peg, bwrdd gwyn etc – mae yna nifer o offer o’r fath ar werth i ysgolion) i ddisgrifio beth maen nhw wedi ei wneud yn y dasg honno.
- Mae disgyblion yn ffilmio ei gilydd gan ddefnyddio iPad, ac yn esbonio beth oedd rhan gorau eu diwrnod.
Cofiwch, yn y Derbyn, dim ond mewn perthynas ag un maen prawf llwyddiant y mae angen iddyn nhw werthuso eu gwaith.