Datrys Problemau a Modelu
4.1
Cyngor
Meddwl yn Gyfrifiadurol gyda'r Cyfnod Sylfaen
Os ydych yn athro/athrawes Cyfnod Sylfaen, mae’n debyg y bydd gennych brofiad eisoes o ddysgu nifer o’r sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol sydd ynghlwm gyda chodio. Efallai nad ydych wedi meddwl amdanyn nhw fel gweithgareddau codio, ond mae’n debygol eich bod wedi dysgu gyda’r Bee-Bot ac wedi dysgu’r disgyblion sut i ddilyn cyfarwyddiadau. Mae’r ddau beth yn weithgareddau codio.
Mae’r adran hon yn rhoi rhywfaint o gyngor cyffredinol ar wahanol dechnegau codio cyn i chi gychwyn ar y gweithgareddau ar gyfer eich grŵp blwyddyn isod.
Cyflwyniad
Mae meddwl yn gyfrifiadurol yn y Cyfnod Sylfaen yn ymwneud yn bennaf gyda chyfarwyddiadau a rhoi cyfarwyddiadau i symud pobl neu wrthrychau o un lle i’r llall. Ym mhob gweithgaredd, fe fydd un person yn rhoi’r cyfarwyddiadau ac fe fydd person neu wrthrych arall yn symud yn unol â hynny.
Y tri prif ’beth’ yr ydym yn eu rheoli trwy godio yn y Cyfnod Sylfaen ydy robotiaid (e.e. Bee-Bot), pobl eraill neu gymeriad ar sgrin. Fe fyddwn yn edrych ar bob un o’r rhain yn eu tro.
Symud robot (e.e. Bee-Bot)
Mae’r rhan fwyaf o athrawon Cyfnod Sylaen yn gyfarwydd gyda Bee-Bot, ond ydych chi’n ei ddefnyddio’n effeithiol i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol?
Yn y cyfnod cynnar yma, y pethau pwysig i ganolbwyntio arnyn nhw ydy:
- Sut i fewnbynnu cyfarwyddiadau i’ch robot (h.y. beth mae’r gwahanol fotymau yn eu gwneud)?
- Sut i symud ymlaen, yn ôl, troi i’r chwith ac i’r dde?
- Defnyddio arddodiaid ac, yn dibynnu ar allu, pwyntiau cwmpawd.
- Adnabod a defnyddio symbolau saeth.
Wrth ddefnyddio Bee-Bot,mae’n ddefnyddiol gwybod bod pob symudiad ymlaen neu yn ôl yn 15cm o hyd. Mae hyn yn wybodaeth ddefnyddiol am ddau reswm:
- Gallwch greu grid o sgwariau 15cm x 15cm ar y llawr gan ddefnyddio tâp. Yna gall y disgyblion godio’r Bee-Bot i amrywiol leoliadau oddi mewn i’r grid.
- Gallwch wneud prennau mesur Bee-Bot 15cm o hyd (allan o gardfwrdd neu gyda lego/ciwbiau) a gall y disgyblion eu defnyddio i ragweld faint o symudiadau ymlaen y mae’r Bee-Bot eu hangen i gyrraedd ei gyrchfan heb gymorth grid.
Symud Pobl
Does dim gwell ffordd o gyflwyno codio na gofyn i’r disgyblion roi cyfarwyddiadau i athro/athrawes neu i ffrind er mwyn eu symud o gwmpas yr ystafell. Mae hyn y helpu eu sgiliau iaith, geirfa a hyder wrth iddyn nhw orfod gweiddi eu cyfarwyddiadau yn uchel, ond mae hefyd yn dod â chysyniadau meddwl yn gyfrifiadurol yn fyw mewn ffordd nad ydy chwarae gêm codio ar iPad yn ei wneud.
Symud Cymeriad Ar-Sgrin
Mae yna gannoedd o gemau codio ar gael ar iPads neu ar-lein, y rhan fwyaf ohonyn nhw am ddim ac o safon da. I’r disgyblion iau, fe fyddem yn awgrymu apiau syml fel Bee-Bot a Kodable (neu Botio, ap codio yn yr iaith Gymraeg!). Tra bydd gadael iddyn nhw chwarae gyda’r apiau yn unig yn helpu i ddatblygu eu sgiliau, mae yna dasgau penodol i flwyddyn ar gael isod sydd yn ymestyn y dysgu.
Tasg Ffocws
Datrys Problemau yn y Derbyn
Mae’r rhan fwyaf o’r sgiliau ‘Meddwl yn Gyfrifiadurol’ yn y Derbyn yn golygu bod y disgyblion yn dilyn cyfarwyddiadau yn hytrach na chreu eu codau eu hunain. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer pob un o’r sgiliau:
Cwblhau patrymau a dilyniannau.
- Darganfod/creu cardiau yn dangos amrywiol gamau trefn beunyddiol (e.e. paratoi yn y bore, gwneud brechdan) neu stori llyfr darllen dosbarth. Gwnewch yn siŵr bod y cerdyn olaf wedi’i guddio. Mae’r disgyblion yn rhoi’r lluniau yn eu trefn ac yna yn tynnu eu llun eu hunain ar gyfer y cam olaf.
Gwrando ar ddilyniant o gyfarwyddiadau, a’u dilyn.
- Mae’r athro/athawes yn adeiladu rhywbeth syml gyda Duplo ac yn rhoi cyfarwyddiadau i’r disgyblion ar sut i’w gopïo gam wrth gam.
- Addurno cacennau bach gan ddilyn cyfarwyddiadau syml (e.e. rhowch eisin glas ar y gacen a thri smarties etc.)
- Cuddiwch ‘drysor’ yn y dosbarth ac arweiniwch y disgyblion i’w ddarganfod, gan eu helpu i ddysgu’r termau ‘ymlaen, ‘yn ôl’, ‘troi i’r chwith’, a ‘throi i’r dde’. Ymestyn hyn trwy ddechrau defnyddio arddodiaid (e.e. ‘tu ôl’,’o flaen’, ‘nesaf at’)
- Y disgyblion yn symud Bee-Bot (neu unrhyw degan) â llaw yn ôl eich cyfarwyddiadau chi.
- Noder: Gellir rhoi’r cyfarwyddiadau uchod ar ffurf lluniau/symbolau neu ar lafar.
Creu cyfarwyddiadau llafar
- Disgyblion yn cofnodi eu cyfarwyddiadau syml eu hunain ar gyfer unrhyw un o’r tasgau a awgrymwyd yn y paragraff blaenorol ar fyrddau gwyn neu ar begiau gyda gallu i recordio.
- Yn yr un modd, maen nhw’n gallu recordio eu lleisiau ar dudalen Book Creator gan ddefnyddio iPads (gyda chefnogaeth oedolyn).
Rheoli dyfeisiadau trwy roi cyfarwyddiadau iddyn nhw
Gan ddefnyddio Bee-Bots dylai disgyblion roi grŵp o orchmynion ar y tro i wneud i’r Bee-Bot symud i leoliad neilltuol (e.e. Ymlaen, Ymlaen, Ymlaen, De, Ymlaen). Mae hwn yn gam ymlaen o’r gweithgaredd Meithrin gan fod disgwyl i’r disgyblion roi mwy nag un gorchymyn ar y tro.
Os oes gennych fat Bee-Bot yna mae’n debygol y bydd yna leoliadau arno eisoes i chi eu defnyddio. Fel arall, lluniwch grid ar y lawr allan o dâp (fe ddylai pob sgwâr fod yn 15cm x 15cm) ac ychwanegwch rai lleoliadau sydd yn cydweddu gyda’ch thema (e.e. gwahanol ffrwythau).
Darpariaeth Bellach
Datryswyr Problemau
Fel gyda phob darpariaeth estynedig, y nod ydy rhoi cyfleoedd rheolaidd i’r disgyblion ymarfer eu sgiliau.
Unwaith y bydd y disgyblion wedi cwbhlau unrhyw un o’r tasgau uchod, gellir
addasu’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddigon hawdd i ddarpariaeth estynedig.
Er enghraifft:
- Ni ddylid cyfyngu dyfeisiadau i Bee-Bots a thegannau. Dangoswch iddyn nhw sut i ddefnyddio dyfeisiadau bywyd go iawn hefyd, fel meicrodon neu gloc larwm digidol.
- Creu "Duplo’r Wythnos" gyda chyfarwyddiadau lluniau. Mae’r disgyblion yn dilyn y cyfarwyddiadau i gopïo eich creadigaeth.
- Creu cardiau gyda dilyniannau o bob math o ddigwyddiadau y bydd y disgyblion yn gyfarwydd â nhw (brwsio dannedd, gwneud tôst, dod i’r ysgol, diwrnod ysgol, mynd i nofio etc). Cofiwch adael y cerdyn olaf allan. Rhowch set gwahanol allan bob wythnos i’r disgyblion eu trefnu a’u cwblhau.
- Darparu darnau o drysor y gall un disgybl eu cuddio cyn rhoi cyfarwyddiadau i helpu eu partner i’w ddarganfod.
- Y Bee-Bots a’r gridiau/matiau ar gael i’r disgyblion i’w defnyddio yn eu hamser eu hunain. (Gwnewch yn siŵr bod y batri’n gweithio!)