Dinasyddiaeth
1.1, 1.2, 1.3 & 1.4
Gweithgareddau
1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
Ar ddechrau’r flwyddyn, lluniwch reolau dosbarth gyda’ch gilydd. Gofynnwch iddyn nhw pa reolau y dylai pawb gadw atyn nhw yn yr ysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys rheolau digidol ymysg eich rheolau ymddygiad arferol. Dyma rai rheolau yr hoffech eu cyflwyno efallai:
- Dal iPads mewn dwy law a pheidio â rhedeg wrth wneud hynny.
- Rhannu dim cipio.
- Defnyddio’r ap y gofynnwyd i chi ei ddefnyddio yn unig.
- Gofyn i athro/athrawes cyn defnyddio cyfrifiadur.
Os ydych yn rhannu delweddau o’ch dosbarth ar wefan yr ysgol neu ar Twitter, dangoswch y tudalennau we yma i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw ddeall bod modd rhannu ffotograff a data ar-lein. Os ydych yn defnyddio gwasanaeth sydd yn anfon diweddariadau a delweddau i rieni (e.e. Class Dojo, Schoop) yna dangoswch rai o’r negeseuon yma i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw allu gweld bod eu rhieni yn gwybod beth sy’n digwydd yn y dosbarth.
1.2 – Iechyd a Llesiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r termau cywir am ddyfeisiadau digidol (e.e. gliniadur, cyfrifiadur, Chromebook, iPad, camera, bwrdd gwyn, bysellfwrdd, monitor) ac anogwch y disgyblion i’w defnyddio.
Gofynnwch iddyn nhw pa fath o bethau maen nhw a’u teulu yn ei wneud ar wahanol ddyfeisiadau gartref (e.e. "Rwy’n chwarae gemau ar fy iPad", "Mae mam yn gweithio ar ei gliniadur", "Rydyn ni’r defnyddio’r meicrodon i goginio.")
1.3 – Hawliau, Trwyddedu a Pherchnogaeth Digidol
Fel ‘Iechyd a Llesiant’, does dim angen unrhyw weithgareddau penodol ar gyfer y Derbyn. Wrth i’r disgyblion ymgyfarwyddo gyda theipio llythrennau (gweler 3.2 ‘Creu’) anogwch nhw i deipio eu henw o dan eu gwaith digidol. Wrth arddangos gwaith disgyblion ar y bwrdd gwyn, gwnewch yn siŵr bod enw’r disgybl i’w weld a phwyntiwch hynny allan i’r dosbarth.
1.4 – Ymddygiad Ar-lein a Seiberfwlio
Trafodwch y gwahanol ffurfiau o gyfathrebu yn rheolaidd
- Dangoswch lythyrau a chardiau post iddyn nhw ac esboniwch bod y rhain yn cael eu postio ac yn cyrraedd ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach, diolch i’r postmon.
- Ffoniwch ddosbarth arall ar ffôn y dosbarth, ac esboniwch i’r disgyblion y gallwch ffonio o unrhyw ffôn i un arall (ffôn symudol neu ffôn llinell tir).
- Os ydych yn defnyddio gwasanaeth sydd yn anfon diweddariadau a delweddau i rieni (e.e. Class Dojo, Schoop) yna dangoswch rhai o’r negeseuon yma i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw ddeall bod negeseuon o’r fath yn cael eu hanfon ar-lein.
- Anfonwch negeseuon e-bost ar ran y dosbarth at Siôn Corn, y Frenhines Victoria neu at eich Pennaeth. Holwch y disgyblion am eu hawmgrymiadau i’w cynnwys yn y negeseuon e-bost.
Trafodwch eiriau annymunol yn rheolaidd a pham na ddylen nhw gael eu defnyddio. Gofynnwch i’r disgyblion sut fydden nhw’n teimlo pe bai rhywun yn eu galw’n air annymunol, neu yn ysgrifennu gair annymunol ar ddarn o bapur. Nodwch bod geiriau annymunol yr un mor annymunol pan maen nhw’n cael eu hysgrifennu. Fe fyddwch eisoes yn delio gyda hyn mae’n debyg yn eich gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol.