Menu

Cyfathrebu

2.1

Cyflwyniad

Mae technoleg wedi newid byd cyfathrebu yn ddramatig dros y blynyddoedd diweddar, ac mae’n parhau i newid yn gyflym. Hyd yn oed ar yr oedran ifanc yma, fe ddylai disgyblion ddechrau sylweddoli bod yna nifer o ffyrdd o siarad gydag eraill trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Fframwaith

2.1 - Cyfathrebu

  • Deall bod gwahanol ffurfiau ar gyfathrebu ar-lein, e.e. e-bost, negeseuo, galwad fideo.

Sgil wrth Sgil

  • Dechrau deall bod negeseuon yn cael eu cyfathrebu dros y rhyngrwyd.

(EAS ICT Skills Framework)

  • Edrych ar oedolyn yn anfon neges ar-lein ar ran y dosbarth.

(Sgil ychwanegol)

Geirfa

neges     e-bost     galwad fideo     anfon     derbyn     ateb

Tasg Ffocws

Negeseuon Model

Mae hon yn elfen syml iawn yn y Meithrin. Y cyfan sydd yn rhaid i chi wneud ydy gwneud y disgyblion yn gyfarwydd gyda’r syniad o siarad gyda phobl eraill ar-lein. Y ffordd orau o wneud hyn ydy dangos hynny yn rheolaidd, naill ai o flaen y dosbarth cyfan neu gydag un grŵp bychan ar y tro.

Syniadau:

  • Gorffen bob wythnos trwy anfon e-bost byr at y pennaeth gan y dosbarth, yn dweud wrthi am yr holl bethau diddorol rydych chi wedi bod yn eu gwneud yr wythnos honno. Chi fydd yn teipio wrth gwrs, ond gofynnwch i’r disgyblion am awgrymiadau ynghylch beth i’w gynnwys. Yna, ar y dydd Llun, darllenwch ateb gan y pennaeth.
  • Trefnwch alwad Skype/FaceTime gyda Siôn Corn! Y cyfan sydd ei angen ydy athro sydd yn fodlon gwisgo’i fyny a bod ar ben arall yr alwad mewn ystafell wahanol.
  • Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion y dyddiau yma ddulliau o anfon gwybodaeth neu ffotograffau yn uniongyrchol at rieni (trwy e-bost neu trwy rhyw wasanaeth fel Class Dojo neu Schoop). Peidiwch â gadael y disgyblion allan o hyn. Dangoswch eich bod yn anfon lluniau ohonyn nhw at eu rhieni. Fe fyddan nhw wrth eu bodd!
Ebost pennaeth

Cofiwch

  • Does dim disgwyl i’r disgyblion ddeall sut i anfon e-bost na gwneud galwad fideo ar y pwynt yma. Y cyfan rydyn ni eisiau ydy iddyn nhw weld cyfathrebu o’r fath yn digwydd yn rheolaidd ac i ddeall bod yna ddulliau gwahanol o gyfathrebu ar-lein (e-bost, fideo, testun etc)
  • Tra bod rhai ysgolion yn cael trafferth i wneud galwadau fideo oherwydd hidlyddion rhyngrwyd Awdurdod Lleol, fe ddylech allu eu cael i ganiatâu mynediad ar gyfrif athro.
  • Mae hyn yn gyfle gwych i gynnwys rhai elfennau ‘Dinasyddiaeth’ yn y wers. Trafodwch sut na fydden ni fyth yn cyfathrebu ar-lein gyda phobl nad ydyn ni yn eu hadnabod.

Darpariaeth Bellach

Cyfathrebu Drwy Chwarae Rôl

Chwarae rôl ydy’r ffordd amlwg o ddod â rhywfaint o gyfathrebu digidol yn fyw i’r disgyblion ifanc. Maen nhw’n gallu gwneud galwadau fideo ffug trwy agor yr ap camera a’i bwyntio at eu partner. Yn yr un modd, cadwch fysellfwrdd a sgrin bob amser yn eich ardal chwarae rôl er mwyn iddyn nhw ffugio ysgrifennu negeseuon e-bost at ei gilydd.