Collaboration
2.2
Tasg Ffocws
Gweithio Gyda’i Gilydd
Mae cydweithio digidol gwirioneddol yn gysyniad newydd i’r rhan fwyaf o oedolion, heb sôn am ddisgyblion. Yn ffodus i chi, nid oes disgwyl iddyn nhw ddysgu sgiliau o’r fath tan Blwyddyn 2. Felly y cyfan sydd angen i chi ei wneud ar y cam yma ydy rhoi digon o gyfleoedd i’r disgyblion i weld cydweithio o’r fath yn digwydd.
- Mewngofnodwch i’ch prosesydd geiriau cwmwl (Word 365, neu Google Docs) ar y cyfrifiadur sydd yn gysylltiedig gyda’ch taflunydd. Gofynnwch i gynorthwy-ydd dysgu wneud yr un fath ar gyfrifiadur gwahanol.
- Agorwch ddogfen newydd a rhannwch hi gyda’ch cynorthwy-ydd fel eich bod yn edrych ar yr un ddogfen.
- Wrth i chi siarad gyda’r disgyblion, gofynnwch i’ch cynorthwy-ydd ychwanegu ffotograffau neu eiriau at y ddogen ar ei gyfrifiadur/chyfrifiadur, fel eu bod yn ymddangos y tu ôl i chi ar y bwrdd gwyn.
- Ffugiwch syndod wrth eu gweld yn ymddangos, a gofyn i’ch cynorthwy-ydd sut mae’n gallu gwneud i bethau ymddangos ar eich cyfrifiadur chi. "Rydyn ni’n dau/dwy ar yr un ddogfen, felly mae unrhyw beth rydw i’n ei ychwanegu yn dod i fyny hefyd ar eich sgrin chi ".
Esboniwch yn rheolaidd sut roeddech chi ac athro/athrawes/cynorthwy-ydd dysgu arall yn gweithio gyda’ch gilydd ar wahanol gyfrifiaduron ar ddogfen rydych yn ei dangos i’r disgyblion.