Storio a Rhannu
2.3
Tasg Ffocws
Beth ydy’r Botwm yna?
Y cyfan y mae disgwyl i ddisgyblion yr oedran yma ei wneud ydy dechrau cadw eu gwaith trwy glicio botwm, a’u bod yn deall beth mae cadw yn ei feddwl (h.y. bod modd i chi ail agor gwaith yn nes ymlaen). Y gyfrinach, fel gyda’r rhan fwyaf o sgiliau, ydy dynwared a rhoi cyfleoedd i ymarfer. Dyma rai awgrymiadau:
Syniadau:
- Wrth agor unrhyw gyflwyniad neu ddogfen sydd wedi’u paratoi o flaen llaw, esboniwch bob amser eich bod wedi eu paratoi yn gynharach, wedi eu cadw ac felly yn gallu ei agor eto nawr. Dangoswch iddyn nhw lle mae’r botwm ‘Cadw’.
- Pan mae disgyblion yn gorffen gwaith ar gyfrifiadur yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn yr ysgol, dangoswch iddyn nhw eich bod yn clicio botwm arbennig i Gadw eu gwaith fel bod modd iddyn nhw ei weld eto yn nes ymlaen. Y tro nesaf y byddwch yn gweithio ar gyfrifiadur gyda’r disgybl hwnnw, agorwch eu hen waith i ddangos iddyn nhw bod clicio’r botwm Cadw wedi cadw eu gwaith yn ddiogel.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys ‘Clicio’r botwm Cadw’ fel rhan o dasg yn gymharol gynnar yn y flwyddyn ysgol, ac o hynny ymlaen, atgoffa’r disgyblion o hynny bob tro maen nhw’n gwneud gwaith digidol.
Cofiwch
- Does dim rhaid i’r disgyblion deipio enw ffeil na dewis lleoliad, dim ond dod i arfer gyda chlcio’r botwm Cadw cyn dweud wrthych chi eu bod wedi gwneud eu gwaith.
Darpariaeth Bellach
Botymau Cadw Ar-lein ac All-lein
Mae angen i glicio’r botwm Cadw ddod yn ail natur i’r disgyblion erbyn y byddan nhw’n gadael y Meithrin.
- Gwnewch yn siŵr bod yna luniau mawr drws nesaf i’ch cyfrifiaduron o’r gwahanol fotymau Cadw y gallan nhw ddod ar eu traws (yn dibynnu ar y meddalwedd yr ydych yn ei ddefnyddio yn y dosbarth, o bosibl Purple Mash neu J2E).
- Unrhyw dro y bydd disgybl yn defnyddio cyfrifiadur, boed ar dasg benodol neu fel darpariaeth estynedig, anogwch nhw i gadw eu prosiect.
- Rhowch fotwm mawr yng nghanol y dosbarth.Pan mae disgybl yn gorffen unrhyw dasg nad yw’n dasg ar y cyfrifiadur, fe ddylen nhw redeg at y botwm a’i daro i ‘Gadw’r’ gwaith.