Creu
3.2
Tasgau Ffocws
Creu ar gyfer y Meithrin
Fel yr esboniwyd uchod, gellir rhannu’r sgiliau yn yr elfen ‘Creu’ i dair adran. Mae yna dasgau gwahanol ar gael ar gyfer pob adran.
Teipio
- Y dull gorau o gyflwyno teipio ydy trwy’r gweithgaredd ‘Chwilio am y llythyren’.
- Mae cyfrifiadur pob disgybl wedi agor ar dudalen lle maen nhw’n gallu teipio arni (JIT, 2Publish etc).
- Dangoswch lythyren iddyn nhw, a gadewch iddyn nhw rasio i chwilio am y llythyren ar y bysellfwrdd. (Defnyddio bysellfyrddau llythrennau bach. Os mai dim ond priflythrennau sydd ar fysellfyrddau eich ysgol yna printiwch fysellfwrdd papur iddyn nhw gael ei ddefnyddio)
- Unwaith y bydd y disgyblion yn gyfarwydd gyda’r llythrennau a’r teipio, ceisiwch eu hannog i deipio eu henw o dan eu gwaith digidol. Does dim angen priflythrennau eto!
Camerâu
- Mae tynnu lluniau a fideos yn sgil pwysig i ddechrau ei ymarfer yn y Meithrin ac mae disgyblion wrth eu bodd! Rhowch dasgau rheolaidd iddyn nhw lle mae angen i’r disgyblion dynnu lluniau o wrthrychau yr ydych wedi eu gosod o gwmpas y dosbarth (dan do ac yn yr awyr agored). Er enghraifft rhowch degannau deinosoriaid o gwmpas y dosbarth a gweld pwy sydd yn gallu tynnu’r nifer mwyaf o luniau o ddeinosoriad mewn 5 munud.
Recordio Llais
- Gyda chefnogaeth oedolyn, gall disgyblion recordio eu lleisiau drwy ddefnyddio un o’r nifer o apiau iPad. Er enghraifft gall yr athro/athrawes gychwyn Book Creator, gyda ffotograffau o’r disgyblion yn cyflawni tasgau ar bob tudalen. Gan ddefnyddio’r un ap recordiwch y disgyblion yn esbonio beth roedden nhw’n ei wneud yn y ffotograffau ohonyn nhw.
Sut i Ddefnyddio Book Creator
Cofiwch
- Mae gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron fysellfyrddau priflythrennau. Dydy’r rhain ddim yn ddefnyddiol ar y cam yma ac felly gwnewch yn siŵr nad ydy’ch dosbarth yn llawn ohonyn nhw. Gallwch brynu bysellfyrddau llythrennau bach ar gyfer cyfrifiaduron cyffredin, tra bod gan Chromebooks newydd fysellfyrddau llythrennau bach ar y cyfan y dyddiau yma.
- O ran y gweithgareddau recordio camera fideo, ceisiwch annog y disgyblion i bwyso’r botymau (gyda chefnogaeth). Peidiwch â chymryd drosodd!
Darpariaeth Bellach
Golau, Camera, Ffwrdd â Ni
Wrth i’w hyder gynyddu, rhowch gymaint o gyfleoedd â phosibl i’r disgyblion ymarfer y sgiliau yma drwy gydol y flwyddyn.
Teipio
Unwaith eu bod wedi dangos eu bod yn gallu teipio eu henwau, anogwch nhw i wneud hynny ar bob darn o waith digidol maen nhw’n ei greu. Os ydyn nhw’n dod yn hyderus i wneud hynny, heriwch nhw i deipio enw eu ffrindiau. (Rhowch yr enwau iddyn nhw i’w copïo wrth gwrs)
Camera
Fe ddylai fod yna ddigon o ddyfeisiadau sydd yn gallu tynnu lluniau ar gael i’r disgyblion i’w defnyddio yn y dosbarth. Lluniwch nifer o gyfleoedd ‘Tynnwch luniau o…’ yn rheolaidd. Tra bod iPads yn amlwg yn ddefnyddiol ar gyfer hyn, ceisiwch chwilio am hen gamerâu ar gyfer chwarae rôl hefyd.
Recordio Llais
Mae yna ddigon o adnoddau ar gael i ddisgybion eu defnyddio i recordio eu llais ac i wrando ar recordiadau pobl eraill. Mae modd prynu byrddau gwyn, anilfeiliaid wedi’u stwffio a phegiau neu glipiau mawr sydd yn gallu recordio.
- Gallai disgyblion recordio eu henwau ar beg recordio llais pan maen nhw’n ymweld ag ardal yn y dosbarth. Yna gellir clipio’r rhain ar linyn yn yr ardal. Yna gallwch wrando ar y recordiadau fel dosbarth i weld pwy aeth i ‘r ardal honno bob dydd.
- Os oes gennych fwrdd gwyn sydd yn gallu recordio, gall eich disgyblion dynnu llun anifeiliaid arnyn nhw a recordio enw’r anifeiliaid hynny a’r synnau maen nhw’n eu gwneud.
- Gall disgyblion ysgrifennu eu henwau ar y bwrdd gwyn gyda’r gallu i recordio sain, a recordio ffaith amdanyn nhw’u hunain (e.e. ‘Mae gen i chwaer’, ‘Rwyf eisiau bod yn adeiladwr fel Dad’.