Menu

Gwerthuso a Gwella

3.3

Cyflwyniad

Mae gwerthuso a gwella gwaith yn gonglfaen addysgu a dysgu. I feistrioli’r elfen yma o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, does dim angen i chi o angenrhaid ddefnyddio technoleg. Gall eich disgyblion ddefnyddio’r technegau hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid y maen nhw’n gyfarwydd â nhw

Ond, wedi dweud hynny, mae yna ffyrdd ardderchog o ddefnyddio technoleg yn effeithiol ar gyfer hunanasesu ac asesiadau cymheiriaid. Dyma rai awgrymiadau isod.

Fframwaith

3.3 - Gwerthuso a Gwella

  • disgrifio wrth ateb cwestiynau ychydig o beth wnaethpwyd mewn tasg, e.e. ychwanegu sylwadau gan ddefnyddio nodwedd recordio mewn meddalwedd.

Sgil wrth Sgil

  • Disgrifio mewn ymateb i gwestiynau rhai o’r pethau sydd wedi cael eu gwneud yn y dasg.

Geirfa

ateb     gofyn    disgrifio

Awgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau

  1. Llanwch brosiect Book Creator ar iPad gyda ffotograffau o’r disgyblion wrth eu gwaith. Mae pob plentyn (gyda chefnogaeth) yn creu recordiad llais (neu fideo) yn esbonio beth roedden nhw’n ei wneud yn y lluniau.
  2. Maen nhw’n tynnu llun o’u gwaith ac ar ôl i chi ei roi i mewn i’r prosiect Book Creator, gall y disgyblion recordio fideo neu recordiad llais yn esbonio beth maen nhw wedi ei wneud.
  3. Rhowch rai darnau o waith arbennig ar y wal/llinyn. Mae’r disgyblion yn defnyddio dyfais recordio llais bychan (e.e. peg, bwrdd gwyn etc – mae yna nifer o offer o’r fath ar werth i ysgolion) i ddisgrifio beth maen nhw wedi ei wneud yn y dasg honno.
  4. Mae disgyblion yn ffilmio ei gilydd gan ddefnyddio iPad, ac yn esbonio beth oedd rhan gorau eu diwrnod.